'Angen atgyweirio'r difrod' wedi tro pedol Gwesty Parc y Strade

  • Cyhoeddwyd
Gwesty Parc y StradeFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Swyddfa Gartref wedi rhoi gorau i'r cynllun i gartrefu 241 o geiswyr lloches yng Ngwesty Parc y Strade

Mae Llywodraeth Cymru'n dweud ei bod am i Lywodraeth y DU "atgyweirio'r difrod" a achoswyd gan y modd yr ymdriniodd â chynigion i roi cartref i geiswyr lloches mewn gwesty yn Llanelli.

Dydd Mawrth fe wnaeth Llywodraeth y DU gefnu ar gynlluniau i gartrefu hyd at 241 o geiswyr lloches yng Ngwesty Parc y Strade.

Nid yw'r Swyddfa Gartref, sy'n gyfrifol am ddelio â cheiswyr lloches, wedi egluro'r penderfyniad.

Dywedodd y gweinidog cyfiawnder cymdeithasol Jane Hutt ei bod yn ceisio cael "sicrwydd brys gan y Swyddfa Gartref y byddant yn cymryd cyfrifoldeb llawn".

Gofynnwyd i Lywodraeth y DU am sylw.

Disgrifiad o’r llun,

Roedd nifer wedi protestio yn erbyn y cynlluniau a gafodd eu cyhoeddi yn gynharach eleni

Clywodd BBC Cymru fod Ms Hutt am weld iawndal ariannol yn ogystal â'r llywodraeth yn gweithio i fynd i'r afael â'r effaith ar y gymuned.

Ers i'r cynlluniau gael eu cyhoeddi gyntaf yn yr haf, mae protestiadau cyson wedi bod y tu allan i'r gwesty.

'Cyfrifoldeb llawn'

Wrth siarad yn y Senedd, dywedodd Ms Hutt: "Rwyf am eich sicrhau fy mod yn ceisio cael sicrwydd brys gan y Swyddfa Gartref y byddant yn cymryd cyfrifoldeb llawn ac yn atgyweirio'r difrod a achosir gan eu penderfyniadau o amgylch Parc y Strade.

"Mae Cymru yn chwarae ei rhan lawn yng nghynlluniau lloches ac ailsefydlu llywodraeth y DU. Rydym yn parhau i helpu pobl i ailadeiladu eu bywydau.

"Rhaid i'r Swyddfa Gartref nawr weithio gyda ni ar unrhyw benderfyniadau ar draws Cymru yn y dyfodol; rhaid i ni beidio â gweld ailadrodd yr hyn sydd wedi digwydd yn Llanelli".

Yn ddiweddarach, mewn sesiwn gwestiynau amserol ar y mater yn y Senedd, dywedodd Joyce Watson o'r Blaid Lafur fod y cynllun wedi achosi "trallod a rhwyg enfawr o fewn y gymuned leol".

'Trychinebus'

Dywedodd Sioned Williams o Blaid Cymru fod polisïau "dirmygus, gwahaniaethol, trychinebus ac amhriodol Llywodraeth y DU yn cael eu harwain gan ideoleg ac nid tosturi".

"Awydd i hau rhaniad yn hytrach na meithrin cydlyniant cymdeithasol," meddai.

Dywedodd Ms Hutt y bydd hi'n cyfarfod â'r gweinidog mewnfudo, Robert Jenrick, yr wythnos nesaf, ac y byddai hi'n egluro iddo beth sydd wedi mynd o'i le dros y chwe mis diwethaf.

"Dim cyfathrebu, dim gwybodaeth, ysgogi camddealltwriaeth, yn gwahodd y dde eithaf i mewn," meddai.

Ychwanegodd y bydd yn dweud wrtho fod Llywodraeth Cymru am barhau i "chwarae ein rhan" yn y cynllun gwasgaru ceiswyr lloches.