Penodi Fay Jones yn is-weinidog wrth i Sunak ad-drefnu

  • Cyhoeddwyd
Fay JonesFfynhonnell y llun, Fay Jones

Mae Fay Jones AS wedi ei phenodi'n is-weinidog yn Swyddfa Cymru gan Brif Weinidog y DU.

Mae Rishi Sunak wedi ail-strwythuro ei gabinet ar ôl diswyddo'r cyn-ysgrifennydd cartref, Suella Braverman.

Mae Ms Jones yn cymryd lle AS Dyffryn Clwyd, James Davies.

Cafodd Ms Braverman ei diswyddo yn dilyn sylwadau am Heddlu'r Met pan gyhuddodd y llu o ffafriaeth gyda rhai protestwyr.

Ymysg y newidiadau eraill gan Mr Sunak mae'r cyn-brif weinidog David Cameron yn ysgrifennydd tramor a James Cleverly yn ysgrifennydd cartref.

'Hollol gefnogol o'r Prif Weinidog'

Fe wnaeth Fay Jones AS sefyll fel ymgeisydd Ceidwadol yn yr Etholiad Cyffredinol yn 2019 a bu'n cynrychioli Brycheiniog a Sir Faesyfed ers hynny.

Mae hi hefyd wedi bod yn gweithio fel chwip i'r llywodraeth ers mis Hydref 2022.

Yn wreiddiol o Gaerdydd, gweithiodd fel ymchwilydd i'r Brenin pan oedd yn Dywysog Cymru, ac mae hi hefyd wedi gweithio ym myd amaeth gydag adran Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig Llywodraeth y DU, ac undeb NFU.

Wrth siarad ar raglen Dros Frecwast fore Mawrth, dywedodd Ysgrifennydd Cymru, David TC Davies ei fod yn "gefnogol o bob un aelod o'r cabinet" ac nad oes "neb yn anghytuno gyda'r Prif Weinidog o gwbl".

"Mae fyny i'r Prif Weinidog i wneud y penderfyniadau dros bwy sy'n eistedd yma, dwi'n hollol gefnogol o'r Prif Weinidog."

Wrth drafod diswyddo Suella Braverman, oedd yn cynrychioli adain dde'r blaid, dywedodd Mr Davies: "Dwi'n siŵr bod digon o bobl o gwmpas bwrdd y cabinet yn gallu adlewyrchu'r teimladau gwahanol yn y blaid Geidwadol."

"Ar ddiwedd y dydd mae'r wasg yn canolbwyntio ar ydy rhywun yn dod o'r dde neu chwith... be' sy'n bwysig ydy bod y cabinet yn barod i weithio gyda'r Prif Weinidog i ddanfon y blaenoriaethau o'r llywodraeth".

Mae David Cameron yn dychwelyd i'r cabinet am y tro cyntaf ers mwy na saith mlynedd, a hynny ar ôl iddo ymddiswyddo fel Prif Weinidog yn 2016.

Mae'r cabinet newydd wedi cwrdd am y tro cyntaf ddydd Mawrth.

Pynciau cysylltiedig