Fay Jones: 'Prif Weinidog? Allai'm dychmygu job anoddach'

Fay Jones
Disgrifiad o’r llun,

Fay Jones yw'r Aelod Seneddol dros Frycheiniog a Sir Faesyfed

  • Cyhoeddwyd

Mae'n debyg bod gan grŵp blwyddyn 1996 Ysgol Uwchradd Llanisien yng Nghaerdydd dalent am ddarogan dyfodol eu cyfoedion.

Pwy sydd fwyaf tebygol o fod yn enwog? Tom Cullen oedd eu henwebiad, sydd nawr yn actor ddaeth yn wyneb cyfarwydd ar Downton Abbey.

Y mwyaf tebygol i fod yn filiynydd? John Tabatabai, ddaeth yn chwaraewr poker llwyddiannus.

A'r mwyaf tebygol i fod yn Brif Weinidog? Fay Jones, sydd nawr yn Aelod Seneddol Ceidwadol dros Brycheiniog a Sir Faesyfed.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Tom Cullen yn wyneb cyfarwydd wedi iddo ymddangos ar raglenni fel Downton Abbey

"O, felly dw i am fod yn Brif Weinidog? O reit, ok, cŵl... alla i ddim dychmygu job anoddach, ac i fod yn glir, tydw i ddim isio hi," meddai Fay Jones gyda gwên eth siarad ar bodlediad Walescast, dolen allanol BBC Cymru.

"Mae hi ychydig yn gynnar i mi lansio fy ymgyrch! 'Nai ffonio, mi wnai sicrhau eich bod yn gwybod cyn i mi wneud."

Ar ôl gwylio "gormod o benodau o Ally McBeal", y cynllun gwreiddiol oedd astudio'r gyfraith yn hytrach na dilyn ôl troed ei thad, Gwilym Jones, a dod yn wleidydd.

Mae Fay Jones yn cofio ymweld â'i thad yn Nhŷ'r Cyffredin - roedd o'n Aelod Seneddol Ceidwadol dros Ogledd Caerdydd ac yn weinidog yn Swyddfa Cymru - ond dyw hi ddim yn cofio llawer mwy na hynny.

"Collodd Dad ei sedd [yn Etholiad 1997] pan oeddwn i'n 11 a hanner," esboniodd.

"Ond, mi aberthodd lot ac roedd hi'n anodd iawn iddo fel rhiant i ddau o blant ifanc i adael, ac i adael yr holl gyfrifoldeb yna i Mam," ychwanegodd.

Mi fyddai'n 20 mlynedd arall cyn i un arall o'r aelwyd ddychwelyd i Dŷ'r Cyffredin.

Pennod newydd

Enillodd Fay Jones ei sedd yn Etholiad Cyffredinol 2019.

Mae hi'n esbonio gymaint mae gwaith ASau wedi newid dros y ddau ddegawd yna: "Mae'n gwbwl wahanol.

"Doedd ganddo ddim ebost, doedd ganddo ddim cyfryngau cymdeithasol. Roedd ei swyddfa yn ein garej ni.

"Roedd pawb yn gwybod lle roedden ni'n byw, a nawr rwy'n mynd i drafferth i guddio fy nghyfeiriad."

Ymwelodd Margaret Thatcher â'u cartref pan oedd Fay Jones yn 18 mis oed- "fyddai hynny byth yn digwydd nawr."

Disgrifiad o’r llun,

Fay Jones gyda'i mam, Linda, a'i thad, Gwilym

Ond mae rhai pethau yn parhau - mae'r swydd mor ansicr ag erioed.

Dywedodd Fay Jones: "Mae e wastad yng nghefn dy feddwl. Mae'n annhebyg bod 'na lawer o swyddi lle rydych chi'n gwybod bod 'na siawns dda y gwnewch chi ei cholli hi... mwyaf sydyn mae'ch incwm chi yn diflannu."

Ond, mae'n credu mae ei mam, Linda Jones, cyn-ynad, a ddysgodd fwyaf iddi am wleidyddiaeth:

"Roedd Mam wastad yn trio ffeindio ffordd i helpu rywun, ffeindio ffordd o godi arian i rhywun fel bod eu hachos yn medru parhau," meddai.

'Fyddai Mam wedi bod wrth ei bodd'

Bu farw ei mam y llynedd.

"Mae rhai diwrnodau yn ofnadwy, rhai diwrnodau yn ok. Mae'n beth od, colled," meddai.

"Mae'n byw gyda chi... mae'n dod yn ochr arall i'ch personoliaeth".

Mae'n ddarllenwraig frwd, ac yn ddiweddar mae hi wedi gorffen llyfr am golled gan Tom Allen- "digrifwr hilarious ond mae o hefyd yn ysgrifennwr da iawn".

"Mae'n lyfr hyfryd sy'n eich atgoffa chi bod 'na hapusrwydd mewn colled ac mae modd dod o hyd i'r hiwmor ar y diwrnodau trist yna.

"Ac roedd 'na sefyllfa yn angladd fy mam lle roedd 'na gamgymeriad gyda'r trefnwr angladdau - mi chwaraeodd yr un gân gan Michael Ball bedair gwaith, yn yr eglwys ac wedyn yn yr amlosgfa.

"Fe fyddai Mam wedi bod wrth ei bodd gyda hynny," ychwanegodd.

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Fay Jones yn ferch ifanc gyda'i mam, Linda, tad, Gwilym a'i brawd, Grant

Cafodd ei geni a'i magu yng Nghaerdydd, ond roedd ‘na ffocws amaethyddol i fywyd Fay Jones ers gadael y brifysgol.

Roedd ei swydd gyntaf, ar ôl graddio mewn Ffrangeg o Goleg y Brenin, Llundain, fel ymchwilydd i'r Brenin pan oedd yn Dywysog Cymru, "yn gweithio ar ei agenda amgylchedd naturiol", lle dysgodd hi am y tro cyntaf am amaeth.

Ychwanegodd: "Doeddwn i ddim yn ei weld o gymaint â hynny. Bob hyn a hyn roedd y ffôn yn canu ac roedd o'n dweud "HRH [His Royal Highness'] Study, a fyddai fy nghalon yn stopio a fysa chi'n meddwl, 'O God, gobeithio mod i'n gwybod yr ateb i'r cwestiwn yma!'

"Fyddwn i methu gofyn am well job gyntaf, dweud y gwir, roedd hi'n wych."

'Mae ganddo ni gytundebau masnach nawr'

Parhaodd y themâu amaethyddol gyda ffocws Ewropeaidd, gyda chyfnod yn gweithio i adran Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig Llywodraeth y DU, fel rhan o dim negydu ar Bolisi Amaethyddol yr Undeb Ewropeaidd.

Aeth hi ymlaen wedyn i weithio ym Mrwsel i'r Undeb Amaeth, yr NFU.

Yn Refferendwm Brexit 2016, pleidleisiodd i aros ar y sail "better the devil you know", ond fe fyddai'n pleidleisio i adael yr Undeb Ewropeaidd nawr.

Allith hi ddweud, gyda llaw ar ei chalon, bod ffermwyr Cymru ar eu hennill oherwydd Brexit?

"Mi allai yn wir. Edrychwch ar y pethau rydym ni'n medru wneud y tu allan i'r Undeb Ewropeaidd, mae hi wedi cymryd amser, mae ganddo ni gytundebau masnach nawr na fydden ni wedi medru eu trefnu fel rhan o'r UE.

"Gallwn ni, o'r diwedd, gael rheoliadau sy'n gweithio i ni.

"Felly, nawr mae ganddom ni'r cyfle i lywodraethau Cymru a'r DU i siapio ein polisi ffermio ein hunain ac rydyn ni bron iawn yna."

Ffynhonnell y llun, Fay Jones
Disgrifiad o’r llun,

Fay Jones: "Fe wnes i gefnogi Remain, a cholli, fe wnes i gefnogi Rishi Sunak y tro cyntaf, a cholli- mae gen i record o fod ar yr ochr sy'n colli"

Ynghyd â phob ymgeisydd Ceidwadol yn Etholiad Cyffredinol 2019, ymrwymodd Fay Jones i gefnogi bargen Brexit Boris Johnson, ar ôl gwirfoddoli ar ei ymgyrch arweinyddol yn gynharach yn y flwyddyn.

Dywedodd Fay Jones: "Wnaeth o ddim croesi fy meddwl i gefnogi unrhyw un arall yn 2019 - fe oedd yr un cywir ac mi lwyddodd i gael y canlyniad anhygoel yna ac mae 'na lawer i'w gymeradwyo amdano yn ystod y cyfnod roedd o'n Brif Weinidog.

"Roeddech chi'n gwybod bod Boris wastad yn mynd i fod yn gymeriad, roedd 'na wastad risg gyda fe, y gallai pethau fynd o le, ond roedd 'na wastad addewid o wobr fawr hefyd."

Ond fe wnaeth hi, fel nifer fawr o'i chydweithwyr a gefnogodd Boris Johnson droi arno yn y pen draw.

Yn ystod y ras arweinyddol nesaf mi gefnogodd Rishi Sunak.

"Fe wnes i gefnogi Remain, a cholli, fe wnes i gefnogi Rishi Sunak y tro cyntaf, a cholli - mae gen i record o fod ar yr ochr sy'n colli ond yn derbyn y canlyniad a gwneud y gorau o'r sefyllfa," meddai.

'Y blaenoriaethau cywir'

Mae'n cydnabod, bod yna "gamgymeriadau enfawr" yn ystod arweinyddiaeth fer Liz Truss.

Camgymeriadau sydd wedi caniatáu i'r blaid Lafur fynd 20 pwynt ar y blaen yn y polau piniwn yn rheolaidd.

Ond mae Fay Jones yn grediniol y "bydd y sefyllfa'n edrych yn dra wahanol" erbyn daw amser yr etholiad nesaf, fydd yn cael ei gynnal cyn ddiwedd Ionawr 2025.

Ychwanegodd: "Dwi'n llwyr gredu bod gan y Prif Weinidog y blaenoriaethau cywir yn nhermau chwyddiant a mewnfudo, ac wrth gwrs, tyfu'r economi."

Fel dirprwy chwip yn llywodraeth Rishi Sunak, mae'n rhaid bod ganddi fewnwelediad i pryd fydd 'na etholiad?

"Wir yr, dim ond ei fod o ddim fis Tachwedd eleni, tydw i ddim yn poen i. Dwi'n priodi!

"Felly, dim eleni, os gwelwch yn dda bos!"

Mi allwch chi wylio'r cyfweliad yn llawn am 22:40 ddydd Mercher 2 Awst ar BBC One Wales neu ar iPlayer