Wrecsam i wahodd Eisteddfod Genedlaethol 2025

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Yr Archdderwydd, Myrddin ap Dafydd, yn arwain y seremoni Urddo am y tro cyntaf yn 2019Ffynhonnell y llun, Ffotonant
Disgrifiad o’r llun,

Bwriad Cyngor Wrecsam yw croesau'r brifwyl i'r sir am y tro cyntaf ers 2011

Mae cynghorwyr Wrecsam yn bwriadu gwahodd Eisteddfod Genedlaethol 2025 i'r sir.

Mewn cyfarfod ddydd Mawrth fe gytunwyd yn unfrydol i wahodd y brifwyl, wrth i Wrecsam hefyd baratoi cais newydd i fod yn Ddinas Diwylliant y DU.

Collodd Wrecsam allan yn y ras ar gyfer 2025 wedi i Lywodraeth y DU benderfynu dynodi Bradford gyda'r wobr.

Ond mae'r cyngor yn gobeithio bydd yr Eisteddfod yn un o sawl digwyddiad yn Wrecsam wrth baratoi cais o'r newydd ar gyfer Dinas Diwylliant 2029.

'Falch o fod yn rhan o'r trafodaethau'

Dydd Mawrth fe benderfynodd Bwrdd Gweithredol Cyngor Wrecsam ddarparu cyllid a staff er mwyn cefnogi cynnal yr Eisteddfod Genedlaethol - digwyddiad fyddai'n debygol o ddenu degau o filoedd o bobl i'r ardal.

Gyda phrifwyl eleni yn cael ei chynnal yn Nhregaron, bydd yn teithio i Lŷn ac Eifionydd yn 2023 ac yna Rhondda Cynon Tâf y flwyddyn wedyn.

Ffynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol
Disgrifiad o’r llun,

Denodd Eisteddfod Genedlaethol 2018 tua 500,000 o bobl i Fae Caerdydd

Dywedodd llefarydd ar ran yr Eisteddfod Genedlaethol: "Mae'r Eisteddfod Genedlaethol wedi bod yn trafod dychwelyd i ardal Wrecsam gyda'r cyngor am beth amser wrth gynllunio taith y Brifwyl dros y blynyddoedd nesaf.

"Roedden ni'n gefnogwyr brwd o gais Wrecsam i fod yn Ddinas Diwylliant y DU yn 2025, ac rydyn ni'n cefnogi cais y ddinas ar gyfer 2029.

"Mae'n gyfnod cyffrous i Wrecsam ac rydyn ni'n falch iawn o fod yn rhan o'r trafodaethau, ac rydyn ni'n croesawu'r ffaith bod y ddinas yn gweld bod ein hiaith yn rhan greiddiol o'r hyn sydd gan yr ardal i'w chynnig a'i hyrwyddo."

'Tua £6m i £8m yn dod i'r economi leol'

Yn ôl Cyngor Wrecsam byddai'r Eisteddfod Genedlaethol yn un o saith digwyddiad o bwys i'w cynnal yn lleol, gyda'r bwriad o atgyfnerthu'r cais ar gyfer statws Dinas Diwylliant 2029.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Cyngor Wrecsam eisiau denu sawl digwyddiad i'r ardal wrth baratoi cais o'r newydd am statws Dinas Diwylliant ar gyfer 2029

Y disgwyl yw bydd Bradford yn elwa o tua £300m mewn cyllid ychwanegol fel rhan o'r statws.

Dywedodd deilydd portffolio celfyddydau Cyngor Wrecsam, Y Cynghorydd Hugh Jones: "Dim ond newydd gael adborth gan y beirniaid ydyn ni ar y cais diwylliant.

"Roedd pobl Wrecsam yn ei groesawu felly'r cwestiwn i ni yw pam na fydden ni'n mynd am Ddinas Diwylliant 2029 pan fyddwn ni wedi cael adborth mor wych a pham na fydden ni'n mynd am yr Eisteddfod yn 2025?

"Os edrychwch chi ar y sefyllfa ariannol ynghylch yr Eisteddfod, mae yna gost i'r cyngor o tua £300,000.

"Ond yna mae 'na amcangyfrif o thua £6m i £8m yn dod i'r economi leol yn yr wythnos honno."

Ychwanegodd: "Mae'r Eisteddfod yn cael effaith gadarnhaol ar fusnesau ac ar y gymuned.

"Mae'n cyd-fynd yn dda â chais Dinas Diwylliant, lle mae'r gymuned yn ganolog i hynny."

Pynciau cysylltiedig