Ar daith i Armenia
- Cyhoeddwyd
Prynhawn Sadwrn, 18 Tachwedd, mae Cymru'n wynebu Armenia yn y rowndiau rhagbrofol ar gyfer Euro 2024.
Mae carfan Rob Page yn gwybod y byddai buddugoliaeth yn erbyn Armenia, ac yna Twrci ar 21 Tachwedd yn golygu y byddent ar yr awyren ar gyfer Euro 2024 yn Yr Almaen.
Ond beth am Armenia fel gwlad, ac y tîm pêl-droed cenedlaethol? Dyma ambell ffaith ddiddorol.
Maint
Mae Armenia'n 29,743 km2 (11,484 mi2) mewn arwynebedd - ychydig yn fwy na Chymru, sy'n 20,779 km2 (8,023 m2). Golyga hyn bod Cymru tua 70% o faint Armenia.
Mae Llyn Sevan yn lyn enfawr yn Armenia (5,000 km2 mewn arwynebedd) ac yn eistedd 1,900 m (6,234 tr) uwchben lefel y môr.
Poblogaeth
Amcangyfrifir mai poblogaeth Armenia heddiw yw 2,780,000. Yn ôl gwefan ukpopulation.org, amcangyfrifir mai poblogaeth Cymru ar 1 Gorffennaf eleni oedd 3,290,000, felly hanner miliwn yn fwy nag Armenia.
Mae 97% o'r boblogaeth yn dod o grŵp ethnig Armeniaidd, gyda'r rhan fwyaf o'r gweddill yn Yazidis, Rwsiaid, Wcrainiad a Chwrdiaid.
Gwasgariad (diaspora)
Mae mwy o Armeniaid yn byw tu allan i Armenia na sydd yn y wlad ei hun. Yn dilyn yr hil-laddiad yn Armenia yn 1915 fe adawodd lawer i fynd i fyw dramor. Bellach mae 5.6m o Armeniaid yn byw ledled y byd, yn ogystal â bron i dair miliwn yn Armenia ei hun.
Mae bron i filiwn o bobl Armeniaidd yn byw yn Rwsia, hanner miliwn yn yr Unol Daleithiau, rhywle rhwng 300,000 a 600,000 yn Ffrainc, a nifer sylweddol hefyd yn Georgia, Wcrain, Canada a'r Ariannin. Mae ardal Glendale yn Los Angeles yn enwog am y nifer uchel o bobl o dras Armeniaidd.
Yr enw 'Armenia'
Mae'n debyg i Armenia gael ei henwi ar ôl Aram yn y Beibl - disgynnydd o Hayk a gor-gor-ŵyr i Noa. Roedd Aram yn arweinydd ac yn cael ei ystyried fel un o hynafiaid cenedl a diwylliant yr Armeniaid.
Yerevan
Yerevan yw prifddinas y wlad, ac mae'n un o'r dinasoedd hynaf yn y byd. Cafodd y ddinas ei sefydlu yn y flwyddyn 782 Cyn Crist gan y brenin Argishti I, 29 mlynedd cyn i ddinas Rhufain gael ei sefydlu. Mae Yerevan yn cael ei 'nabod fel 'y ddinas binc' am fod llawer o'r adeiladau wedi eu gwneud o graig folcanig sydd â lliw eitha' pinc.
Hil-laddiad 1915
Amcangyfrifir bod hyd at 1.5miliwn o Armeniaid wedi'u lladd gan Yr Ymerodraeth Otoman yn 1915. Mae'r digwyddiadau hefyd yn cael eu disgrifio fel yr Holocaust Armeniaidd. Mae llawer o ysgolheigion yn dweud mai hil-laddiad Armenia oedd yr enghraifft gyntaf o hil-laddiad systematig yn y cyfnod modern.
Mae'r hanes yn un ymfflamychol iawn hyd heddiw, gyda Twrci'n dadlau nad yw'r term "hil-laddiad" yn ddisgrifiad cywir o'r digwyddiadau.
Nagorno-Karabakh
Yn ddiweddar mae Armenia wedi bod mewn rhyfeloedd gyda Azerbaijan dros reolaeth o ardal Nagorno-Karabakh. Dechreuodd y gwrthdaro yn 1988 ac mae'r ymladd yn gallu bod yn ffyrnig ar adegau. Roedd rhyfela herwfilwrol (guerrilla warfare) o 1988 i 1991, yna daeth rhyfel iawn rhwng 1992 a 1994.
Ymdawelodd pethau tan 2020, ond ers hynny mae'r rhyfela wedi ailddechrau. Mae'r ardal (Nagorno-Karabakh) yn cael ei reoli gan Azerbaijan ar hyn o bryd, er mai Armeniaid yw'r mwyafrif llethol sy'n byw yno.
Arian
Y Dram yw'r arian yn y wlad, gyda 100 Luma mewn un Dram.
Gwyddbwyll yn yr ysgol
Mae gwyddbwyll yn orfodol i'r holl ddisgyblion rhwng saith a naw oed yn ysgolion Armenia. Mae 'na sefydliadau byd-enwog fel Canolfan Tigran Petrosian yn Yerevan ble mae cystadlaethau rhyngwladol yn cael eu cynnal.
Mae'r uwchfeistri Gabriel Sargissian, Haik M. Martirosyan a Elina Danielian ymysg y gorau yn y byd, ac roedd mam Garry Kasparov o Armenia yn ogystal.
Y wlad Gristnogol gyntaf
Mae'n debyg mai Armenia oedd y wladwriaeth gyntaf i osod Cristnogaeth fel crefydd swyddogol - digwyddodd hyn yn y flwyddyn 301. Heddiw, mae 97% o'r wlad yn Gristnogion, ac mae'r wlad yn enwog am ei heglwysi hardd ledled y wlad.
Mynydd sanctaidd Ararat
Mae gan fynydd Ararat fan hynod bwysig i'w chwarae yn niwylliant yr Armeniaid - mae'n symbol cenedlaethol.
Mae sôn bod y mynydd wedi achub y bobl o ddaeargryn bwerus ganrifoedd yn ôl, ac wrth gwrs dyma'r fan ble honnir i arch Noa gael ei ddarganfod. Ond er gwaetha'r arwyddocâd hanesyddol i'r Armeniaid, mae'r mynydd yn gorwedd o fewn ffiniau Twrci ers 1923.
Gwin
Armenia oedd un o'r gwledydd cyntaf i gynhyrchu gwin. Roedd y cymoedd ger Mynydd Aratat yn ardal ble roedd grawnwin safonol yn cael ei dyfu, ac roedd gwin yn cael ei gynhyrchu yn Ogofâu Areni yn 4,000 Cyn Crist.
Enwogion â gwreiddiau Armeniaidd
Gan fod gymaint o bobl wedi gadael Armenia mae'n gwneud synnwyr felly bod yna lawer o enwogion â gwreiddiau Armeniaidd. Ymysg Armeniaid enwog y byd mae'r seren realiti Kim Kardashian, y gantores Cher a'r pencampwr tenis, Andre Agassi. Hefyd o dras Armeniaidd mae'r band System of a Down, sy'n sôn yn aml am yr Holocost Armeniaidd.
Mae'r cyn-yrrwr Formula 1 o Ffrainc, Alain Prost, o dras Armeniaidd, ac hefyd y chwaraewr hoci iâ Zack Kassian a'r actor Joe Manganiello.
Tyfu bricyll
Mae Armenia'n enwog am fricyll (apricots). Mae hinsawdd y wlad a'r tir ffrwythlon yn ei wneud yn fan delfrydol ar gyfer bricyll, a dyma yw ffrwyth cenedlaethol y wlad.
Bara UNESCO
Nid llawer o wledydd sy'n gallu dweud bod eu bara ar restr treftadaeth UNESCO y byd. Ond mae'r bara Lavash o Armenia wedi derbyn y gydnabyddiaeth yma. Mae'n fara fflat denau sy'n cael ei fwyta gyda bob math o brydau.
Tîm pêl-droed Armenia
Mae tîm pêl-droed Armenia'n rhif 95 yn netholion FIFA ar hyn o bryd, ac mae Cymru yn safle 28.
Chwaraewr mwyaf adnabyddus y wlad erioed yw Henrikh Mkhitaryan a chwaraeodd dros Borussia Dortmund, Manchester United, Arsenal a Roma. Mae bellach gyda Inter Milan - ymunodd ym mis Gorffennaf 2022.
Cafodd Mkhitaryan ei enwi fel chwaraewr gorau'r wlad ar 10 achlysur rhwng 2009 a 2020, ac fe ymddeolodd o chwarae dros y tîm rhyngwladol yn 2021.
Cymru v Armenia
Dydi Cymru erioed wedi curo Armenia. Mae'r ddwy wlad wedi wynebu ei gilydd dair gwaith; dwy gêm gyfartal, ac un buddugoliaeth i Armenia.
Cafwyd dwy gêm gyfartal yn 2001; 2-2 yn Yerevan, a 0-0 yn Stadiwm y Mileniwm.
Ym mis Mehefin eleni fe gollodd Cymru 4-2 yn erbyn Armenia, gyda'r chwaraewr ganol-cae Lucas Zelarayán yn serennu i'r ymwelwyr.
Hefyd o ddiddordeb: