Beth sydd ei angen ar Gymru i gyrraedd Euro 2024?

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Beth sydd ei angen ar Gymru i gyrraedd Euro 2024?

Bydd tîm pêl-droed Cymru'n wynebu Armenia brynhawn Sadwrn fel rhan o'u hymdrechion i gyrraedd rowndiau terfynol Ewro 2024.

Mae un canlyniad yn gallu newid y darlun yn gyfan gwbl.

Petai Cymru wedi colli i Croatia fis diwethaf, fe fydden nhw allan o'r ras i gyrraedd Euro 2024 yn awtomatig gyda dwy gêm dal yn weddill o'r grŵp.

Ac er bod drws cefn dal yno i'r gemau ail gyfle ym mis Mawrth, byddai'r pwysau oedd eisoes ar ysgwyddau'r rheolwr Rob Page wedi cynyddu.

Ond ennill oedd hanes y tîm ar noson hanesyddol yn Stadiwm Dinas Caerdydd, sy'n golygu bod y twrnament yn Yr Almaen bellach o fewn cyrraedd realistig unwaith eto.

Felly beth sydd angen ar Gymru yn eu gemau fis Tachwedd i gwblhau'r dasg?

Y newyddion da ydi bod pethau yn nwylo Cymru - ennill eu dwy gêm olaf, ac fe fyddan nhw'n chwarae yn Euro 2024 yr haf nesaf.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Harry Wilson oedd yr arwr yn erbyn Croatia fis diwethaf, gan sgorio ddwywaith i sicrhau'r fuddugoliaeth hollbwysig

Maen nhw eisoes wedi bod yn y sefyllfa yma ddwywaith yn ddiweddar.

Yn 2017 fe enillon nhw allan yn Georgia, ond yna colli'r ornest dyngedfennol gartref yn erbyn Gweriniaeth Iwerddon i ddod â'u gobeithion o gyrraedd Cwpan y Byd 2018 i ben.

Dwy flynedd yn ddiweddarach roedden nhw 'nôl allan yn rhanbarth y Cawcasws i drechu Azerbaijan, a'r tro hwn fe lwyddon nhw i ddilyn hynny drwy guro Hwngari yng Nghaerdydd i sicrhau eu lle yn Euro 2020.

Bydd yr ymgais ddiweddaraf yn gweld y crysau cochion yn teithio i Armenia ar 18 Tachwedd, cyn croesawu Twrci i Gaerdydd ar 21 Tachwedd.

Gyda dwy gêm yn weddill mae Cymru a Croatia ar 10 pwynt, Armenia ar 7 - a Thwrci eisoes wedi cymhwyso gydag 16 pwynt.

Gan fod y tabl yn cael ei benderfynu ar record benben gyntaf, cyn gwahaniaeth goliau, dim ond gorffen ar yr un faint o bwyntiau â Croatia sydd angen i Gymru wneud.

Ond os ydy Cymru'n baglu yn un o'u dwy ornest nhw, byddai Croatia yn cipio'r lle olaf drwy guro Latfia ac Armenia.

Ffynhonnell y llun, Michael Zemanek/Shutterstock
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Kieffer Moore gerdyn coch wrth i Gymru golli 4-2 gartref i Armenia yn gynharach yn yr ymgyrch

Ar bapur, gemau Cymru sydd anoddaf. Mae Armenia eisoes wedi ennill yng Nghaerdydd, a hefyd dal yn y ras am yr ail safle, tra bod Twrci ar frig y grŵp.

Ond gyda hyder yn y garfan ar ôl trechu Croatia, bydd Cymru'n ffefrynnau agos ar gyfer y ddwy gêm.

Mae hefyd o'n plaid ni fod yn rhaid i Armenia ennill eu dwy gêm olaf i gadw eu gobeithion nhw yn fyw, ac felly'n annhebygol o eistedd yn ôl a chymryd gêm gyfartal - tra bod dim llawer yn y fantol gan Dwrci bellach.

Ar 18 Tachwedd bydd gêm Armenia v Cymru yn cael ei chwarae'n gynharach yn y dydd na Latfia v Croatia - felly bydd Croatia eisoes yn gwybod beth oedd canlyniad Cymru erbyn dechrau eu gêm hwythau.

Yn dibynnu ar ganlyniadau'r diwrnod hwnnw, dyma beth fydd Cymru wedyn ei angen ar y noson olaf, pan fyddan nhw'n croesawu Twrci tra bod Croatia yn herio Armenia:

Disgrifiad o’r llun,

Beth fydd ei angen ar Gymru yn y gêm olaf, yn dibynnu ar ganlyniadau ddydd Sadwrn?

Os ydy Cymru'n gorffen tu allan i'r ddau safle uchaf yn y grŵp, maen nhw dal fwy neu lai yn sicr o chwarae yn y gemau ail gyfle ym mis Mawrth.

Ond fe fyddan nhw'n cael eu rhoi mewn 'llwybr' o bedwar tîm, gydag ond un yn mynd drwyddo - felly sefyllfa debyg i gemau ail gyfle Cwpan y Byd 2022, pan fu'n rhaid trechu Awstria a Wcráin.

Byddai pa dimau eraill sydd yn y gemau ail gyfle gyda nhw yn dibynnu ar ganlyniadau gweddill y grwpiau rhagbrofol.

Fe fyddai o leiaf un tîm o Adran 'A' Cynghrair y Cenhedloedd yn yr un llwybr â Chymru - un ai Gwlad Pwyl neu'r Weriniaeth Siec.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Cymru eisoes wedi colli i Dwrci unwaith eleni, a hynny o 2-0 oddi cartref ym mis Mehefin

Gallai'r cyfuniad hawsaf wedyn gynnwys timau fel Estonia a Gwlad yr Iâ.

Ond mae timau eraill o Adran 'A' sydd hefyd dal mewn perygl o ddisgyn i'r gemau ail gyfle, fel Yr Eidal a'r Swistir.

O ystyried hynny felly, y peth hawsaf mae'n siŵr fyddai curo Armenia a Thwrci - bydd dim angen cael cur pen dros yr holl bosibiliadau eraill wedyn!