Credyd Cynhwysol yn 'gadael pobl £35 yn fyr pob wythnos'
- Cyhoeddwyd
Mae yna rybudd y byddai cynnydd llai na'r disgwyl i fudd-daliadau yn "ddatblygiad gofidus iawn".
Yn ôl melin drafod Sefydliad Bevan dyw budd-daliadau ddim yn ddigon ar hyn o bryd "i bobl gael yr elfennau hanfodol yna sydd eu hangen arnyn nhw".
Mae gwirfoddolwyr mewn banc bwyd yn Llangollen yn dweud bod pobl yn dod atyn nhw sy'n gweithio, ac ar fudd-daliadau ac sy'n "dal methu fforddio i fyw".
Yn ôl Siân Henderson, mae "o'n andros o drist pan 'dach chi'n gweld pobl ifanc a phobl hŷn yn methu talu am eu gwres, nwy".
"Un ai maen nhw'n c'nesu neu maen nhw'n bwyta a dy'n nhw'm yn gallu gwneud y ddau."
Mae Siân a'i chwaer, Carys, yn galw ar y Canghellor i sicrhau bod budd-dal Credyd Cynhwysol yn codi ar yr un lefel â chwyddiant, wrth iddo wneud ei Ddatganiad Hydref yr wythnos nesaf.
Mae Ysgrifennydd Cymru, David TC Davies, yn dweud bod Llywodraeth y DU yn blaenoriaethu'r "rhai gyda'r lleiaf yn ein cymdeithas ni".
'Pobl yn dod mewn drwy'r dydd'
Mae Carys Henderson wedi gwirfoddoli ym manc bwyd Llangollen ers dwy flynedd, ac mae hi'n dweud bod y galw am eu cymorth wedi mwy na dyblu yn ddiweddar.
"Pan ddaru fi gychwyn dod yma o'n ni'n 'neud tua 20, 30 o barseli ag o'dd 'na wahanol bobl yn dod mewn," meddai.
"Rŵan mae 'na bobl yn dod mewn drwy'r dydd.
"Cynt oedd o ond yn bobl ar benefits. Rŵan maen nhw'n bobl sy'n gweithio.
"'Dan ni fod i fod yn rhoi bwyd i bobl jyst i'w cadw nhw i fynd am wythnos. Ond 'dan ni efo'r un un bobl yn dod mewn a dy'n nhw'm efo'r pres i roi bwyd i'r plant, i'w anifeiliaid, i'w hunain.
"'Dach chi'n cael mamau'n dod mewn a dy'n nhw'm yn bwyta o gwbl er mwyn gallu rhoi bwyd i'r plant."
Gyda chostau byw yn cynyddu, mae hi'n dweud bod llawer o'r bobl sy'n dod atyn nhw mewn sefyllfa druenus.
"Bore 'ma - oedd o'n torri calon. Dynes yn dod mewn a dyma fi'n gofyn' ydych chi angen rhywbeth i'r toilet?'. Ddaru hi gymryd siampŵs a ddudodd hi: 'Na i gadw rhain i'r plant am Nadolig'.
"Pa mor dorcalonnus ydy hynna? Cadw pethau 'dan ni'n jyst yn cymryd yn ganiataol bob dydd at Nadolig?"
'Budd-daliadau heb godi am flynyddoedd'
Dydd Mercher nesaf fe fydd y Canghellor, Jeremy Hunt, yn cyhoeddi Datganiad yr Hydref, gan ddiweddaru Aelodau Seneddol ar sefyllfa'r economi a gwneud cyhoeddiadau ar wariant a threthi.
Mae disgwyl iddo ddatgelu o faint fydd budd-daliadau yn codi fis Ebrill nesaf.
Mae rhai budd-daliadau yn gorfod cynyddu ar yr un raddfa â chwyddiant, y mesur o faint mae prisiau yn codi, ond mae'r penderfyniad ynglŷn â Chredyd Cynhwysol yn nwylo'r Canghellor.
Fel arfer mae credyd cynhwysol yn cynyddu bob mis Ebrill gan ddefnyddio'r ffigyrau chwyddiant o'r mis Medi blaenorol, sef 6.7%.
Ond dyw Jeremy Hunt heb ymrwymo i hynny eto, ac mae 'na sôn ei fod yn ystyried defnyddio ffigwr chwyddiant mis Hydref, sydd dipyn yn is ar 4.6%.
Mae Dr Steffan Evans o Sefydliad Bevan yn dadlau nad yw'r gyfundrefn fudd-daliadau yn rhoi digon o arian i bobl.
"Mae'n gadael pobl yn fyr - £35 yr wythnos," dywedodd.
"Ond ni hefyd yn gwybod bod 'na fudd-daliadau eraill sydd heb gael eu codi am flynyddoedd - cymorth gyda chostau rhent, er enghraifft.
"Felly bydde dim codi Credyd Cynhwysol yn ôl y raddfa ym mis Medi yn 'neud y problemau hynny hyd yn oed yn waeth ar gyfer pobl."
Gyda dros 250,000 o bobl yng Nghymru yn derbyn Credyd Cynhwysol, mae 'na bryder ymysg rhai aelodau Ceidwadol ynglŷn â sgil-effaith cynnydd budd-dal sy'n llai na chwyddiant.
Ond mae Ceidwadwyr eraill yn dadlau mai torri trethi ddylai blaenoriaeth y llywodraeth hon fod.
Doedd Ysgrifennydd Cymru David TC Davies ddim yn gallu dweud yn sicr beth fyddai yn y datganiad, ond fe bwysleisiodd record ddiweddar y llywodraeth.
"'Dan ni wedi sicrhau dros y blynyddoedd diwethaf bod budd-daliadau, bod pensiynau, bod isafswm cyflog yn mynd i fyny gyda chwyddiant," dywedodd.
"Ni wedi bod yn hollol glir mai ein blaenoriaeth ni yw'r rhai gyda'r lleiaf yn ein cymdeithas ni."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Hydref 2023
- Cyhoeddwyd25 Medi 2023
- Cyhoeddwyd31 Hydref 2023
- Cyhoeddwyd25 Mehefin 2023
- Cyhoeddwyd5 Mehefin 2023