Dros chwarter plant Cymru yn dal i fyw mewn tlodi
- Cyhoeddwyd
Mae dros chwarter plant Cymru'n parhau i fyw mewn tlodi, yn ôl ymchwil newydd - er bod y ffigwr hwnnw wedi gostwng rywfaint.
Fe wnaeth yr ymchwil gan Brifysgol Loughborough hefyd ganfod fod 'na ddim un sir yn y wlad ble roedd llai nag 20% o blant yn byw mewn tlodi.
Pryder elusennau sy'n ymgyrchu i leihau tlodi plant yw y bydd yr argyfwng costau byw a phrinder tai fforddiadwy yn sugno mwy o blant i dlodi, os na fydd llywodraethau Cymru a'r DU yn ymyrryd.
Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn "gwneud popeth o fewn ein gallu" i helpu teuluoedd, tra bod Llywodraeth y DU yn mynnu fod eu hymrwymiad i helpu pobl difreintiedig yn glir.
'Problem ymhob cymuned'
Ar gyfartaledd roedd 27.9% o blant Cymru yn byw mewn tlodi yn 2021/22 - gostyngiad o'r 29.1% a gafodd ei gofnodi yn 2014/15.
Mae'r ymchwil, a gafodd ei gomisiynu gan felin drafod Sefydliad Bevan a Rhwydwaith Dileu Tlodi Plant Cymru, yn dangos fod y cyfraddau uchaf o dlodi plant ym Mlaenau Gwent (30.3%) a Cheredigion (30%).
Hyd yn oed yn y sir gyda'r gyfradd isaf o dlodi plant - Sir Fynwy - mae dros un o bob pump o blant yn byw mewn tlodi (21.4%).
Yn ôl Dr Steffan Evans, pennaeth polisi tlodi Sefydliad Bevan, mae'r canlyniadau'n siomedig ac yn dangos fod heriau clir yn wynebu llywodraethau Cymru a Phrydain.
"Mae'r ymchwil yn dangos fod tlodi yn broblem ymhob cymuned," meddai.
"Mae Blaenau Gwent a Cheredigion yn wahanol iawn mewn sawl ffordd, ond gyda dros dri ymhob 10 plentyn yn byw mewn tlodi o fewn ffiniau'r ddau awdurdod lleol, mae'r data diweddaraf yn dangos fod angen edrych ar dlodi fel problem genedlaethol."
Er mai Llywodraeth y DU sydd â'r gallu i gynyddu taliadau Credyd Cynhwysol neu ddileu'r rheol fod credyd treth plant ond yn berthnasol i'r ddau blentyn cyntaf ar wahân i rai eithriadau, mae Dr Steffan Evans yn credu fod gan Lywodraeth Cymru hefyd y gallu i weithredu i leihau tlodi plant.
"Yn sicr mae hwn yn fethiant mawr ar draws cymdeithas," meddai.
"Mae lot o bwerau gan Lywodraeth Prydain - y system fudd-daliadau, er enghraifft - ond mae'r ffaith ein bod ni dal ddim yn gweld unrhyw leihad [mewn tlodi plant] yn dangos fod 'na lawer iawn i wneud.
"Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio ar strategaeth newydd i daclo tlodi plant, sydd i'w groesawu, ond mae angen ffocysu mwy ar y pethau maen nhw eisoes yn ei wneud."
'Gwneud popeth o fewn ein gallu'
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod yn "gwneud popeth o fewn ein gallu i gefnogi pobl a theuluoedd drwy'r argyfwng costau byw hwn".
"Mae hyn yn cynnwys darparu cefnogaeth wedi'i thargedu tuag at y rhai sydd ei hangen fwyaf a thrwy raglenni a chynlluniau sy'n rhoi arian yn ôl ym mhocedi pobl," meddai.
"Yn ystod 2022-23 a 2023-24, roedd y gefnogaeth hon werth mwy na £3.3bn."
Yn ôl Dr Steffan Evans mae pobl yn dal i'w chael hi'n rhy anodd i hawlio'r hyn sy'n ddyledus iddyn nhw.
"Rydyn ni yn dadlau y byddai'n haws pe bai teuluoedd ond yn llenwi un ffurflen ac wedyn yn derbyn cinio am ddim yn yr ysgol a help gyda chostau gwisg ysgol er enghraifft.
"Mae pethau'n dal yn rhy gymhleth o ran hawlio budd-dal."
Sut mae mesur tlodi plant?
Mae tlodi plant yn cael ei fesur fel unrhyw un sy'n byw mewn cartref sy'n derbyn llai na 60% o gyflog canolrifol (median) y wlad.
Mae plant sy'n byw mewn cartref sy'n derbyn llai na £18,700 felly yn cael eu cyfrif fel plant sy'n byw mewn tlodi.
Mae 'na fesur arall o dlodi sy'n cael ei gyhoeddi - ystadegau sy'n cynnwys costau tai fel rhent, biliau dŵr, yswiriant tŷ a llog ar daliadau morgais.
Gan gynnwys costau tai, mae'r ymchwil gan Brifysgol Loughborough yn awgrymu bod 79.8% o'r holl blant sy'n byw mewn tlodi yn byw mewn cartref lle mae'r pen teulu mewn gwaith.
Yn ôl Claire Atchia McMaster o'r elusen Turn2Us, er bod yr ystadegau yn achos pryder, mae'n bosib datrys y broblem.
"Mae'r ffaith fod saith o bob 10 plentyn sy'n byw mewn tlodi mewn teulu lle bo'r rhiant yn gweithio yn symptom o swyddi ansefydlog sy'n talu'n wael, a system fudd-daliadau sydd heb ddal lan 'da'r cynnydd mewn costau byw," meddai.
"Mae'r astudiaeth yn dangos fod diogelwch ariannol yn mynd y tu hwnt i ysfa unigolyn i lwyddo neu eu gallu i edrych ar ôl eu harian - yr economi a'r rhwyd gymdeithasol sydd ddim yn gweithio.
"Mae'r canfyddiadau'n rhoi rheswm pendant i Lywodraeth Cymru uwchraddio eu strategaeth tlodi plant ar frys, achos mae un plentyn heb ddigon i'w fwyta yn un yn ormod yn 2023."
Ychwanegodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae'r prif ysgogiadau ar gyfer mynd i'r afael â thlodi plant - pwerau dros y system dreth a lles - yn nwylo Llywodraeth y DU ac rydym yn parhau i alw ar Weinidogion y DU i gael gwared ar y terfyn dau blentyn a'r cap ar fudd-daliadau sy'n cael effaith mor ddinistriol ar deuluoedd.
"Rydyn ni eisiau creu Cymru lle gall pob plentyn a pherson ifanc ffynnu."
'£3,300 am bob cartref'
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y DU fod eu hymrwymiad i helpu pobl difreintiedig yn glir.
"Mae bron i ddwy filiwn yn llai o bobl, gan gynnwys 400,000 o blant, yn byw mewn tlodi o'i gymharu â 2009/10, meddai llefarydd.
"Rydyn ni yn darparu pecyn werth £94bn i helpu pobl gyda chostau byw, sydd werth rhyw £3,300 am bob cartref.
"Ond yn y tymor hir, y ffordd orau i ddianc rhag tlodi yw drwy weithio, a dyna pam rydyn ni yn creu mwy o gynigion gofal plant i helpu rhieni fynd yn ôl i'r gwaith ac i fynd 'mlaen yn eu gyrfaoedd.
"Mae'r polisi dau o blant yn gofyn i deuluoedd ar fudd-daliadau i wneud yr un penderfyniadau ariannol sy'n wynebu teuluoedd sydd yn cynnal eu hunain drwy weithio, ac mae'r eithriadau dal mewn lle o fewn y polisi i amddiffyn pobl sydd yn y sefyllfaoedd mwyaf bregus."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Medi 2022
- Cyhoeddwyd17 Gorffennaf 2022
- Cyhoeddwyd12 Mai 2022
- Cyhoeddwyd19 Mai 2021