Elusen: Realiti byw mewn tlodi "yn waeth nag erioed"
- Cyhoeddwyd
Mae'n "gyffredin" i weld plant yn gorfod rhoi dŵr ar eu grawnfwyd ac sydd heb esgidiau sy'n ffitio, yn ôl elusen tlodi.
Mae realiti byw mewn tlodi "yn waeth nawr nag y bu erioed", yn ôl Prif Weithredwr Faith in Families, Cherrie Bija.
Yr wythnos hon fe lansiodd llywodraeth Cymru ymgynghoriad ar ei Strategaeth Tlodi Plant, ond mae'r Comisiynydd Plant wedi dweud bod angen "mwy o fanylion, mwy o dargedau a mwy o amserlenni i fod yn ddefnyddiol".
Fe wnaeth Llywodraeth Cymru ddileu ei tharged i gael gwared ar dlodi plant erbyn 2020 yn 2016.
'Dŵr ar ei frecwast cyn ysgol'
Dywedodd Cherrie Bija wrth raglen Politics Wales BBC Cymru bod un plentyn roedden nhw'n ei helpu gyda grant bach wedi tyfu allan o'i unig bâr o esgidiau a'i fod wedi bod yn cael dŵr ar ei rawnfwyd oherwydd nad oedd ei fam yn cael digon o gyflog yn ei swydd mewn archfarchnad i brynu bwyd iddyn nhw.
Dywedodd Cherrie Bija, "Fe wnaethon ni brynu'r hanfodion ar gyfer y cwpwrdd, ac roedd y bachgen bach yn neidio ac yn gyffrous.
"Roedd ganddo esgidiau newydd a phrynon ni ryw laeth a ffrwythau ac ati.
"Pan ofynnodd y gweithiwr chwarae i'r bachgen bach pam ei fod yn gyffrous, gan feddwl mai'r esgidiau fyddai'r ateb, dywedodd mai oherwydd ei fod yn mynd i gael llaeth ar ei frecwast y diwrnod wedyn.
"Roedd wedi bod yn cael dŵr ar ei frecwast cyn ysgol."
Dywedodd Ms Bija ei bod hi'n gyffredin clywed straeon fel hyn nawr.
"'Da ni'n gweld hi ym mhobman. Nid oes gan bobl ddigon o arian i fyw arno y dyddiau hyn.
"Dydyn nhw ddim yn cael eu talu digon, does ganddyn nhw ddim digon o fudd-daliadau yn dod i mewn ac mae angen i bethau newid."
'Problem iechyd enfawr'
Mae'r elusen, Faith in Families, sydd wedi'i lleoli yn Abertawe ac Aberhonddu, yn helpu plant gyda chlybiau brecwast, clybiau ar ôl ysgol, gofal plant fforddiadwy a chymorth iechyd meddwl.
Mae Cherrie Bija yn poeni bod peidio gwella bywydau'r plant hyn nawr yn "storio problemau ar gyfer y dyfodol".
"Meddyliwch am y miloedd o blant bob dydd, ar hyn o bryd, yn mynd i'r ysgol neu'n mynd allan i'n cymunedau, yn newynog ac yn oer ac yn flinedig ac yn bryderus.
"Sut oedolion ydych chi'n meddwl y bydden nhw?
"Rydym yn unig yn creu problem enfawr. Problem iechyd enfawr, enfawr. Mater lles enfawr, problem dicter.
Mae hi'n dweud y bydd y problemau hyn yn effeithio ar ein bywydau ni i gyd oni bai ei fod yn cael sylw.
"Mae'n rhaid i ni fod yn fwy dewr. Mae'n rhaid i ni wneud rhywbeth am y peth nawr er mwyn i'r plant sy'n tyfu i fyny mewn tlodi ac i'ch chi a'm plant i, i gael cymdeithas well yng Nghymru."
'Mynd i'r afael â thlodi plant yn flaenoriaeth'
Yr wythnos hon mae Llywodraeth Cymru wedi lansio ymgynghoriad ar ei strategaeth tlodi plant. Yn ei hanfod, dogfen sy'n tynnu sylw at sut maen nhw'n mynd i'r afael â'r mater ystyfnig hwn.
Ystyrir bod plant yn byw mewn tlodi os yw eu cartref yn ennill llai na 60% o incwm canolrifol aelwydydd y DU.
Mae'r ymgynghoriad yn dweud bod 28% o blant Cymru yn byw mewn tlodi ar hyn o bryd, tua 190,000 o blant dan 19 oed.
Mae'n dweud mai'r rheswm mwyaf dros dlodi plant yw cyflogau isel, budd-daliadau isel a chostau uchel sy'n gyfrifoldeb llywodraeth y DU yn San Steffan.
Ond mae llywodraeth Cymru'n dweud bod mynd i'r afael â thlodi plant yn flaenoriaeth iddyn nhw ac mae polisïau fel prydau ysgol am ddim, ehangu gofal plant am ddim, y grant datblygu disgyblion, ac ehangu eu rhaglen Dechrau'n Deg yn gwneud gwahaniaeth.
Ond mae Comisiynydd Plant Cymru, Rocio Cifuentes yn dweud bod angen "lot mwy o waith ar y strategaeth i fod yn ystyrlon".
"Rwy'n credu bod angen mwy o fanylder. Mwy o dargedau. Mwy o amserlenni.
"Mae'n ymddangos yn rhy eang, mewn gwirionedd, i fod yn defnyddiol i helpu i fesur a monitro pa mor dda rydyn ni'n gwneud tuag at fynd i'r afael â phroblem enfawr tlodi plant," meddai.
Y tu hwnt i dargedau, mae'r Comisiynydd am weld Llywodraeth Cymru yn treialu cynllun trafnidiaeth gyhoeddus am ddim i blant, i gyflymu'r broses o gyflwyno a gwella ansawdd prydau ysgol am ddim a lobïo San Steffan am fwy o bwerau i ddod â thaliad plentyn Cymreig tebyg i'r hyn sydd wedi'i weithredu yn yr Alban.
'Peidio danbrisio prydau ysgol am ddim'
Mae Victoria Winckler, Cyfarwyddwr Sefydliad Bevan, yn credu y byddai'r cyhoedd yn cael eu "drysu" gan y ddogfen.
"Rwy'n credu y byddai'r cyhoedd yn fwy na thebyg yn ddryslyd ynghylch beth yw pwynt y ddogfen hon.
"Mae'n nodi'n bennaf beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud ac mae peth o'r hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud yn ganmoladwy iawn.
"Ni ddylem danbrisio pethau fel prydau ysgol am ddim a chodi'r Lwfans Cynhaliaeth Addysg. Mae'r rhain yn gamau pwysig iawn, ond maen nhw'n eu gwneud nhw'n barod. "
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod wedi ymrwymo i fynd i'r afael â thlodi plant.
Ond dywedodd llefarydd, "mae'r prif arfau ar gyfer mynd i'r afael â thlodi - budd-daliadau lles a llawer o bwerau cyllidol - yn nwylo llywodraeth y DU. Bydd rhaid i Lywodraeth y DU ddangos lefel gyfartal o ymrwymiad os ydyn ni am leihau tlodi plant yng Nghymru yn sylweddol.
Dywedodd Llywodraeth y DU mewn ymateb, "rydym yn darparu'r cymorth ariannol uchaf erioed gwerth tua £3,300 y cartref.
"Rydym wedi codi budd-daliadau 10.1%, wedi gwneud cynnydd digynsail i'r Cyflog Byw Cenedlaethol ac rydym yn rhoi £50 miliwn ychwanegol i helpu pobl yng Nghymru gyda chostau hanfodol."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Mehefin 2023
- Cyhoeddwyd30 Medi 2022
- Cyhoeddwyd12 Mai 2022