Elin Jones: Gwahardd GB News yn y Senedd i 'warchod staff'
- Cyhoeddwyd

Mae Llywydd y Senedd, Elin Jones, wedi gwahardd sianel GB News yn y Senedd
Roedd penderfyniad i wahardd sianel GB News yn y Senedd er mwyn gwarchod y rheiny sy'n gweithio yno, yn ôl y Llywydd.
Fe wnaeth Elin Jones wahardd y sianel ar deledu mewnol y Senedd fis diwethaf wedi i Laurence Fox wneud sylwadau rhywiaethol am newyddiadurwr benywaidd.
Dywedodd Ms Jones wrth ASau ddydd Mercher y bydd 'na adolygiad annibynnol o ran pa sianeli teledu fydd ar gael yn y Senedd.
Dywedodd y bydd gwaharddiad GB News yn parhau yn y cyfamser.

Cafodd Laurence Fox a Calvin Robinson eu diswyddo gan GB News yn gynharach fis Hydref yn dilyn y ffrae
Wrth ymateb i gwestiwn gan arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, dywedodd Ms Jones: "Gobeithio y gwnewch chi ddeall a pharchu fy ymgais i warchod menywod a dynion sy'n gweithio yn y Senedd o orfod gweld y sylwadau ymosodol a misogynistaidd ar system fewnol y Senedd."
Ychwanegodd y bydd yr adolygiad yn creu "protocol darlledu" er mwyn sicrhau "eglurder a chysondeb" ar gyfer y sianeli sydd ar gael ar system deledu fewnol y Senedd.
Nid oes gwybodaeth bellach ynghylch pwy fydd yn gwneud yr adolygiad.
Dywedodd Ms Jones nad oedd hi wedi gwahardd y sianel oherwydd ei bod yn anghytuno â phenderfyniadau golygyddol a gwleidyddol y sianel, ond oherwydd y sylwadau "ymosodol, misogynistaidd gan Mr Fox, gyda chymorth y cyflwynydd".
Fe holodd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew RT Davies, pryd fyddai'r adolygiad yn cael ei gwblhau, ond ni wnaeth Ms Jones gyflwyno unrhyw fanylion.
Dywedodd Llywydd y Senedd ei bod wedi ysgrifennu at brif weithredwr GB News i holi pa wersi yr oeddent wedi eu dysgu, a pha ganllawiau newydd y maen nhw wedi eu cyflwyno. Dywedodd nad ydy hi wedi derbyn ateb.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Hydref 2023
- Cyhoeddwyd26 Hydref 2023
- Cyhoeddwyd10 Gorffennaf 2023