Dim mwy o sianel deledu GB News yn y Senedd
- Cyhoeddwyd

Cafodd Laurence Fox a Calvin Robinson eu diswyddo gan GB News yn gynharach fis Hydref
Mae sianel deledu GB News wedi cael ei thynnu oddi ar system deledu fewnol y Senedd ym Mae Caerdydd.
Dywedodd llefarydd ar ran y Llywydd bod y penderfyniad wedi ei wneud yn dilyn darllediad diweddar oedd yn "fwriadol sarhaus".
Ychwanegodd y llefarydd y gallai Aelodau'r Senedd a staff barhau i wylio GB News ar-lein.
Dywedodd Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd, Andrew RT Davies, ei fod yn "benderfyniad gwarthus".
8,800 o gwynion
Mae gan Ofcom, y corff sy'n rheoleiddio darlledu, fwy na 10 ymchwiliad cyfredol i GB News, erbyn hyn.
Yn ddiweddar, lansiodd ymchwiliad i sylwadau sarhaus ar yr awyr a wnaed gan Laurence Fox am newyddiadurwr benywaidd.
Cafodd Mr Fox a Calvin Robinson, sylwebydd arall ar y sianel, eu diswyddo, ac mae ymchwiliad mewnol i sefyllfa'r cyflwynydd, Dan Wootton, yn dal i fynd yn ei flaen.
Derbyniodd Ofcom 8,800 o gwynion am y digwyddiad.

Roedd darllediad diweddar GB News yn "groes i werthoedd" y Senedd, meddai llefarydd ar ran Elin Jones
Mewn datganiad, dywedodd llefarydd ar ran Llywydd y Senedd, Elin Jones AS: "Mae GB News wedi cael ei dynnu o system deledu fewnol y Senedd yn dilyn darllediad diweddar a oedd yn fwriadol sarhaus, yn ddiystyr i ddadl gyhoeddus ac yn groes i werthoedd ein senedd. Bellach mae sawl ymchwiliad parhaus gan Ofcom i'r sianel.
"Bydd y Comisiwn yn trafod y mater mewn cyfarfod yn y dyfodol, a bydd staff ac Aelodau sy'n dymuno gweld GB News yn dal i allu gwneud hynny ar-lein yn y Senedd."
Mewn sylw ar X - Twitter gynt - dywedodd Andrew RT Davies: "Mae hwn yn benderfyniad gwarthus. Mae'n sensoriaeth. Pur a syml."
Mae GB News wedi cael cais am sylw.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Hydref 2023