Ffrae am swydd llywodraeth i gyn-lywydd Amgueddfa Cymru

  • Cyhoeddwyd
Roger LewisFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Mr Lewis yn gyn-brif weithredwr Undeb Rygbi Cymru

Mae cwestiynau wedi eu gofyn ynglŷn â pham y cafodd cyn-bennaeth rygbi swydd yn Llywodraeth Cymru ar ôl iddo adael Amgueddfa Cymru oherwydd ffrae am fwlio.

Penododd y gweinidog celfyddydau, Dawn Bowden, Roger Lewis i arwain adolygiad o'r gwasanaeth amgylchedd hanesyddol Cadw ar ôl iddo adael ei rôl fel llywydd yr amgueddfa ddiwedd 2022.

Galwodd Plaid Cymru ar brif was sifil Cymru i adolygu'r mater.

Dywedodd Llywodraeth Cymru fod adroddiad wedi canfod nad oedd wedi torri amodau ei gyflogaeth.

Ond dywedodd adroddiad gan yr Archwilydd Cyffredinol, Adrian Crompton, yr wythnos ddiwethaf nad oedd ei ymddygiad "bob amser wedi cyrraedd y safonau uchaf".

Ffynhonnell y llun, Geograph/ Lewis Clarke
Disgrifiad o’r llun,

Gadawodd Roger Lewis ei swydd yn Amgueddfa Cymru yn dilyn ffrae sydd wedi costio dros £620,000 i drethdalwyr

Dywedodd Roger Lewis, y gofynnwyd iddo am sylw hefyd, yn flaenorol nad oedd ymchwiliad wedi canfod ei fod wedi torri egwyddorion bywyd cyhoeddus Nolan.

Mae Mr Lewis yn gyn-brif weithredwr Undeb Rygbi Cymru, ac yn gyn-gadeirydd Maes Awyr Caerdydd - sy'n eiddo i Lywodraeth Cymru.

Gadawodd ei swydd yn Amgueddfa Cymru yn dilyn ffrae sydd wedi costio dros £620,000 i drethdalwyr.

Fe wnaeth dau uwch swyddog gwynion am Roger Lewis pan oedd yn llywydd Amgueddfa Cymru ac mae'r amgueddfa wedi cael eu beirniadu am y modd y deliodd gyda'r anghydfod.

Gadawodd y swydd yn ffurfiol ar 31 Rhagfyr, dri mis yn gynt na'r disgwyl.

Ar 14 Rhagfyr, wythnosau ar ôl i Mr Lewis gamu o'i rôl, cyhoeddwyd ei fod wedi'i benodi i gadeirio grŵp gorchwyl a gorffen sy'n edrych ar sut mae corff treftadaeth Cadw yn cael ei lywodraethu.

Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth David Anderson, yn y llun, a'r cyn-brif weithredwr Neil Wicks gwyno am Mr Lewis ym Mehefin 2021

Casglodd yr ymchwiliad gan yr Archwilydd Cyffredinol, Adrian Crompton, fod rhai agweddau o'r cwynion yn ei erbyn wedi'u cadarnhau, yn rhannol neu'n llawn.

Yn ôl yr adroddiad, fe wariodd yr amgueddfa £757,613, yn cynnwys setliad o £325,698 i'r cyfarwyddwr cyffredinol ar y pryd, David Anderson - fe oedd yng ngofal y sefydliad.

Cafodd £419,915 ei wario ar wasanaethau cyfreithiol a phroffesiynol - er bod yr amgueddfa wedi hawlio £131,230 yn ôl trwy yswiriant.

'Methiannau llywodraethu difrifol'

Cododd Mr Crompton bryderon ynghylch "methiannau llywodraethu difrifol" yn y sefydliad, ac na allai ddangos ei fod yn gweithredu er lles y pwrs cyhoeddus.

Fe wnaeth Mr Anderson a'r cyn-brif weithredwr Neil Wicks gwyno am Mr Lewis ym Mehefin 2021, yn ôl yr adroddiad.

Dywedodd Mr Crompton eu bod yn honni bod ymddygiad Mr Lewis tuag atyn nhw "gyfystyr â bwlio a gwahaniaethu".

Ni wnaeth archwilydd annibynnol a gafodd ei benodi gan Lywodraeth Cymru ganfod fod y llywydd "wedi torri amodau ei swydd yn glir".

Yn ôl Mr Crompton, dywedodd yr archwilydd nad oedd ei ymddygiad Mr Lewis "bob amser wedi cyrraedd y safonau uchaf" a bod "ei weithredoedd wedi ei adael yn agored i gyhuddiadau nad oedd bob amser mor wrthrychol ac agored ag y gallai fod".

Dywedodd Mr Crompton "nad oedd wedi cadarnhau llawer o'r cwynion, ond ei fod wedi cadarnhau rhai agweddau yn rhannol neu'n llawn", gan gynnwys bod Mr Lewis "wedi tanseilio'r cyn-gyfarwyddwr cyffredinol, y prif swyddog gweithredu a staff eraill, yn gyhoeddus ac yn breifat, pan gynhaliwyd cyfarfodydd yn groes i reolau bwrdd yr ymddiriedolwyr".

'Esgeulus neu anamddiffynadwy'

Dywedodd Mabon ap Gwynfor, AS Plaid Cymru, fod penodi Mr Lewis i'r grŵp gorchwyl a gorffen "ar y gorau yn esgeulus ac ar y gwaethaf yn anamddiffynadwy".

Ychwanegodd: "Gan wybod bod adroddiad yr arolygydd annibynnol yn barnu nad oedd ymddygiad yr unigolyn 'bob amser wedi cyrraedd y safonau uchaf' tra yn Amgueddfa Cymru, ac ar ôl gwybod am yr amgylchiadau y bu iddo gamu i ffwrdd o'i rôl ar gost fawr i'r amgueddfa, pam wnaeth y dirprwy weinidog diwylliant ddod ag ef yn ôl ar lyfrau Llywodraeth Cymru?

"Rhaid i Lywodraeth Cymru nawr ofyn i'r ysgrifennydd parhaol gynnal adolygiad i'r achos hwn."

Yr ysgrifennydd parhaol, Andrew Goodall, yw prif was sifil Cymru sy'n goruchwylio'r gwaith o redeg Llywodraeth Cymru o ddydd i ddydd.

'Syfrdanu'

Dywedodd Tom Giffard AS o'r Ceidwadwyr Cymreig ei fod wedi ei "ddrysu" gan benderfyniadau'r llywodraeth.

Meddai: "Bydd trethdalwyr Cymru yn cael eu syfrdanu gan y swm enfawr sy'n cael ei dalu yn dilyn ffrae'r amgueddfa gyda Roger Lewis.

"Mae'n amlwg bod o leiaf rhai o'r cwynion yn ei erbyn wedi cael eu cadarnhau sy'n peri gofid mawr."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Canfu adroddiad yr ymchwilydd annibynnol nad oedd Mr Lewis wedi torri amodau ei benodiad yn yr amgueddfa nac unrhyw un o egwyddorion bywyd cyhoeddus Nolan."

Dywedodd Mr Lewis yr wythnos ddiwethaf: "Rydw i'n falch o allu dweud bod yr Archwilydd Cyffredinol yn nodi ddwywaith yn ei adroddiad, nad oeddwn i wedi mynd yn groes i unrhyw un o'r egwyddorion craidd yn ystod fy nghyfnod fel llywydd yr amgueddfa.

"Mae Egwyddorion Nolan ar gyfer bywyd cyhoeddus yn cael eu rhestru gan yr archwilydd; anhunanoldeb, gonestrwydd, gwrthrychedd, atebolrwydd, agoredrwydd, cywirdeb, ac arweinyddiaeth."

Pynciau cysylltiedig