Casglu sbwriel ar Yr Wyddfa ers bron i ddegawd
- Cyhoeddwyd
O fis Ebrill i fis Tachwedd eleni, mae wardeiniaid gwirfoddol Yr Wyddfa wedi llenwi dros 600 o fagiau sbwriel wrth gerdded y llwybrau i'r copa, y nifer uchaf erioed.
O wisg ffansi i gwch caiac, mae'r wardeiniaid wedi rhoi eu hamser i gasglu pob math o sbwriel dros y misoedd diwethaf.
Daeth tymor y wardeinio gwirfoddol sy'n gynllun gan Barc Cenedlaethol Eryri i ben ar 12 Tachwedd. Yn ychwanegol i'r gwaith o gasglu sbwriel, mae'r gwaith yn cynnwys cynghori'r cyhoedd ac adrodd yn ôl ar unrhyw broblemau ar y mynydd.
Eleni, mae Tony Ellis o Ddyffryn Conwy wedi wardeinio'n wirfoddol ar 71 o ddiwrnodau. Yn wreiddiol o Dorset ac wedi dysgu Cymraeg, dyma nawfed tymor Tony fel warden.
Yn ôl Tony, dydi casglu cynifer o fagiau sbwriel eleni "ddim yn newyddion da o gwbl" ond mae'n dweud mai canran fach sy'n llygru'r mynydd a bod y mwyafrif, fel yntau ei hun, "allan i fwynhau a chael diwrnod da."
'Pob diwrnod ar Yr Wyddfa yn wahanol'
Dros y tymor a fu mae 35 o wardeiniaid gwirfoddol wedi bod yn patrolio'r llwybrau prysuraf gan gynnwys Llwybr Llanberis, Llwybr y Mwynwyr, Llwybr Pyg, Llwybr Watkin a Llwybr Rhyd Ddu ar ddyddiau Mercher, Sadwrn a Sul.
Ond beth sy'n denu Tony at y gwaith?
"Jest y bobl ar y mynydd. Mae'r mynydd yn wahanol bob tro.
"Mae pawb ar y mynydd mewn hwyliau da, iddyn nhw mae'n ddiwrnod arbennig.
"I lot o bobl dyna'r tro cynta' iddyn nhw i fyny'r Wyddfa, dyna pam 'dan ni yno, i wneud y mynydd yn arbennig iddyn nhw.
"Hefyd fydda i fel warden gwirfoddol yn gweithio efo lot o wahanol bartneriaid felly rhwng bob dim, mae bob diwrnod yn wahanol. Fyddwn ni'n mynd waeth be' fydd y tywydd."
'Rhywbeth sy'n rhaid ei wneud'
Eleni'n unig, mae'r wardeiniaid gwirfoddol wedi sgwrsio gyda thua tair i bedair mil o bobl ar Yr Wyddfa ac mae Tony'n falch o fod o gymorth i gerddwyr.
"Maen nhw'n bobl sydd isio gwybod mwy am y llwybrau, pobl sy'n gofyn cwestiynau am ba gyfeiriad i fynd, amseroedd ac ati," meddai.
Dydi'r gwaith ddim yn dod heb ei heriau. Mae Tony a gweddill y wardeiniaid yn dod ar draws pobl sy'n llygru'r mynydd yn fwriadol yn rheolaidd.
"Bob tro 'dan ni ar y mynydd, mae lot o bobl yn gweld be' 'dan ni'n 'neud a maen nhw'n dweud wrthon ni, 'you shouldn't have to do that, doesn't it get you down' ond y peth ydi, tasa ni yn mynd yn ddigalon jest oherwydd maint y sbwriel, faswn i ddim yn gweithio fel warden," eglura Tony.
"Mae'n drist bod 'na gymaint o sbwriel ond y peth ydy, mae'n rhywbeth mae'n rhaid i ni 'neud.
"Mae'r rhan fwya' wedi ei daflu yn fwriadol, mae'n amlwg i ni ac mae llawer yn trio cuddio sbwriel dan garreg neu mewn tyllau."
O boteli plastig, i grwyn banana a thrampolîn
Ac yntau wedi wardeinio ers naw mlynedd, dydi'r mathau o sbwriel mae Tony yn dod ar ei draws ar fynydd uchaf Cymru, ddim yn ei synnu erbyn hyn.
Pa sbwriel mae Tony wedi ei gasglu'n gyson dros y tymor diwethaf?
"Pan mae'n boeth yn yr haf, lot o boteli plastig ond ar wahân i hynna lot o grwyn bananas.
"Rhaid dweud, mae lot o bobl sy' ddim yn sylweddoli mai sbwriel ydi organic litter. Mae lot o bobl yn meddwl bod hi yn iawn taflu pethau fel craidd afal a crwyn banana. Hefyd cigarette butts, lot o disiws a phapurau da-da. Pob math o stwff."
Un o'r pethau "mwyaf digalon" welodd Tony eleni, oedd cwch caiac wedi ei adael ar y copa.
Eglura: "Ar ddechrau'r tymor eleni mi oedd 'na rhyw fath o caiac wedi ei adael ar y copa ar ôl i grŵp o bobl ei gario i fyny ond ddim isio ei gario i lawr.
"'Dan ni wedi gweld pob dim dros y blynyddoedd, llawer o bethau dwi ddim isio sôn amdanyn nhw; dwi'n cofio gweld dumbbells hanner ffordd i fyny, gwisgoedd ffansi, a rhannau o drampolîn ar y copa.
"Yn yr achos yna roedd rhywun wedi cario trampolîn mewn darnau i'r copa, wedi ffilmio a rhoi fidio ar Youtube, a wnaethon nhw ddim mynd â'r trampolîn i lawr."
'Canran bychan sy'n llygru'
Yn hytrach na gadael i lygredd fel hyn ei ddigalonni, mae'n pwysleisio mai canran bychan o bobl sy'n ymddwyn fel hyn.
Meddai: "Jest canran bach o bobl sy'n taflu sbwriel, rhywbeth fel 2% faswn i'n dweud.
"Ond dwi'n meddwl mai dyna'r math o beth maen nhw yn ei wneud yn y llefydd maen nhw'n byw ac felly maen nhw'n ei wneud yma.
"Ac i lot o bobl, maen nhw'n gweld Yr Wyddfa fel rhyw fath o atyniad, fel Alton Towers.
"Dyw nhw ddim wedi dwad i weld cefn gwlad ac maen nhw'n gweld Yr Wyddfa fel atyniad bucket list. Dydi'r lle ei hun ddim mor arbennig i'r bobl yma sy'n drist ond dyna sut mae'n gweithio."
'Ewch â'ch sbwriel adref'
Wrth edrych ymlaen at wardeinio eto'r tymor nesaf, byddai Tony wrth ei fodd "yn gweld llai o sbwriel ar y mynydd".
"Ewch â'ch sbwriel adref," yw neges Tony.
"Be' sy'n anhygoel ydi, 'dan i'n ffeindio lot o boteli gwydr gwag oedd efo cwrw ynddyn nhw, mae'n anhygoel bod pobl yn medru cerdded i fyny'r mynydd efo poteli yn llawn cwrw ond ddim isio mynd â photeli gwag i lawr.
"Os 'dach chi wedi cerdded i fyny efo rhywbeth, ewch â fo yn y rycsac i lawr efo chi."
Un broblem arall sy'n codi ei ben yn gyson, yw cerddwyr sydd yn disgwyl i'r wardeiniaid gario eu sbwriel nhw i lawr o'r mynydd.
Eglura Tony: "Mae'n digwydd yn aml, pobl wedi'n gweld ni yn gofyn i ni, 'will you take this please' neu'n gofyn, 'o, mae gen i botel yn y rycsac, ga i ei adael efo chi?'
"Fyddwn i ddim yn cymryd sbwriel oddi ar bobl.
"Mae pobl yn aml yn gofyn a oes yna finiau ar y mynydd ond dydi hynny ddim am weithio. Mynydd ydi o. Os 'dach chi wedi dwad i fyny efo rhywbeth mae o ddigon hawdd dod â fo i lawr."
Gwneud gwahaniaeth
Er bod tacluso'r mynydd tra bod eraill yn ei lygru yn waith sy'n gallu siomi, bod yn "wyneb cyfeillgar ar y mynydd" sy'n bwysig i Tony fel warden gwirfoddol.
"'Dan ni isio i bobl fwynhau eu diwrnod. 'Dan ni yno i roi cymorth i bobl," meddai.
"Weithiau 'dan ni'n gweld pobl yn 'neud pethau gwrth-gymdeithasol a rhaid i ni siarad efo nhw, ond yn y bôn, 'dan ni ddim yno i blismona.
"Mae bron pawb ar y mynydd mewn hwyliau da, a dyna 'dan ni isio.
"Gobeithio, wrth i bobl weld ni yn gwneud y gwaith yma, ein bod ni yn newid agweddau a bod y rhai sy'n llygru yn dysgu rhywbeth am y mynydd a sut i'w barchu."
Hefyd o ddiddordeb: