Pam bod camera yn recordio banana yn pydru ar Yr Wyddfa?

Disgrifiad,

Mae camera wedi ei osod ar Yr Wyddfa sy'n mesur faint o amser mae'n ei gymryd i'r croen banana bydru

  • Cyhoeddwyd

Mae ymgyrch newydd wedi'i lansio i annog cerddwyr i beidio â gadael sbwriel organig fel bananas ar fynydd uchaf Cymru.

Croen banana ydy un o'r mathau o sbwriel mwyaf cyffredin sydd wedi ei weld ar lethrau a llwybrau’r Wyddfa.

Mae bananas yn cymryd mwy o amser i bydru na’r disgwyl, yn enwedig ar dir uchel.

Felly mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri wedi gosod camera arbennig mewn lleoliad cyfrinachol ar gopa’r Wyddfa i recordio croen banana yn pydru dros amser.

Enw’r prosiect newydd yma ydy 'Bananacam’ ac mae’n rhan o gynllun ehangach ‘Yr Wyddfa ddi-blastig’.

Alec Young yw un o’r swyddogion sy’n gweithio ar y cynllun.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Alec Young ei bod yn cymryd misoedd neu hirach i fananas bydru, yn enwedig ar dir uchel

“Bananas yw’r pedwerydd math o sbwriel sy’n cael ei ddarganfod fwyaf ar yr Wyddfa," dywedodd.

"Mae yna ddiffyg addysg o gwmpas gwastraff organig. Mae pobl yn meddwl fod o’n hollol iawn i daflu nhw ar y mynydd.

"Ond mae’n cymryd misoedd neu hirach i fananas bydru, yn enwedig ar dir uchel."

Dywedodd mai prif nod y prosiect yw gwneud i bobl feddwl ddwywaith am sut y maen nhw'n paratoi i ddringo'r mynydd.

Dywedodd y bydd modd gwylio’r banana yn pydru ar-lein.

"Pwynt yr arbrawf ydy darganfod pa mor hir mae’n gallu cymryd i groen banana bydru ar ben mynydd uchaf Cymru," ychwanegodd.

Eglurodd os yw gwastraff yn cronni, mae'n gallu cael effaith ar pH y pridd, allai yn ei dro gael effaith ar fywyd gwyllt.

Disgrifiad o’r llun,

Mae croen banana wedi ei osod ar gopa'r Wyddfa gyda chamera fydd yn dangos pa mor hir mae'n ei gymryd i brydru

Mae’r Wyddfa yn fynydd poblogaidd i ddringwyr, gyda dros 600,000 o bobl yn cyrraedd y copa y flwyddyn ddiwethaf.

Ond mae’r nifer uchel o ymwelwyr yn gallu golygu llawer o sbwriel ar y llethrau.

'Bananas yn broblem'

Fel un o wirfoddolwyr casglu sbwriel y parc, mae Gareth Iwan yn gyfarwydd ag effeithiau sbwriel ar yr ardal ac yn deall yr angen am yr ymgyrch newydd yma.

“Dwi’n rhan o grŵp sy’n cerdded i fyny llwybrau’r Wyddfa a phigo sbwriel i fyny.

"'Dan ni’n gweld pob math o sbwriel. Ond mae pethau fel bananas yn sicr yn broblem.

"'Dan i 'di pigo heddiw o Lwybr Rhyd ddu tri bag – ac mae’r bagiau gwyrdd yn rai mawr.

"Dyma ydy’r flwyddyn gyntaf i mi 'neud hyn a dwi 'di gweld lot o sbwriel."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Gareth Iwan yn gwirfoddoli trwy gasglu sbwriel ar hyd y parc cenedlaethol

Mae cynllun newydd Awdurdod y Parc Cenedlaethol i leihau’r holl sbwriel ar yr Wyddfa yn denu cefnogaeth rhai o ddringwyr y mynydd, fel Andrew Harris a’i deulu.

Dywedodd Andrew: “Fi’n credu bod unrhyw beth sy’n lleihau sbwriel mewn lle mor hardd yn beth da i ddweud y gwir.

"O’n i ddim yn deall bod pethau fel bananas neu orennau yn gallu aros ar y llawr mor hir. A beth bynnag, dwi’n credu dyle pob un fod yn gyfrifol am eu sbwriel eu hunain a mynd a fe gartre' gyda nhw."

'Gweld nhw ym mhob man'

Mae Keith Jones, dringwr arall yn cytuno.

Dywedodd: “Dwi ddim yn cytuno efo pobl sy’n taflu croen banana.

"Mae ‘na ormod o sbwriel ar y mynydd beth bynnag. Mae croen banana yn un peth ond lasa fo fod yn boteli plastig, caniau... dwi’n gweld nhw ym mhob man.”

Bydd y camera sy’n ffilmio’r croen banana wrth iddo bydru ar gopa’r Wyddfa yn fyw i'w wylio ar-lein o ddydd Llun ymlaen.