Carcharu gyrrwr 'diamynedd' a 'ddefnyddiodd ei gar fel arf'

  • Cyhoeddwyd
Barry ThomasFfynhonnell y llun, Heddlu Dyfed Powys
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Thomas ei ddisgrifio gan y barnwr fel 'gyrrwr blin a diamnynedd' wnaeth 'gipio bywyd dyn iachus'

Mae dyn "a ddefnyddiodd ei gar fel arf" wedi cael ei garcharu am wyth mlynedd am ladd cerddwr y tu allan i'w gartref ger Ffoslas.

Clywodd Llys y Goron Abertawe bod Barry Thomas, 73 oed, wedi bod yn gyrru yn rhy agos i'r car o'i flaen yn ystod y digwyddiad ar 23 Ionawr y llynedd, a doedd dim amser ganddo i osgoi Brian Guest, oedd yn cerdded ar ochr ffordd y B4317.

Cafodd Mr Guest, oedd yn 61 oed, ei daro gan y car, a bu farw o'i anafiadau yn yr ysbyty.

Roedd Thomas wedi gwadu ei fod yn gyrru'n beryglus, ond fe gafwyd yn euog mewn gwrandawiad yn Llys y Goron Abertawe ym mis Hydref.

Mewn gwrandawiad ddydd Gwener, cafodd ei garcharu am wyth mlynedd, ac fe gafodd ei wahardd rhag gyrru am 10 mlynedd.

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Brian Guest ei ddisgrifio fel "gwr, tad a thad-cu arbennig" gan ei deulu

Roedd Thomas wedi ceisio rhoi'r bai ar yrrwr y car o'i flaen, ond fe roddodd yr unigolyn yna dystiolaeth i'r llys wnaeth brofi bod y diffynnydd yn rhy agos.

Roedd y gyrrwr wedi dweud ei fod wedi gweld Mr Guest yn cerdded ar ymyl y ffordd ac wedi symud tua chanol y lon i roi mwy o le iddo.

Ond fe sylwodd wedyn ar gar y diffynnydd ar ochr chwith ei gar eiliadau cyn iddo daro Mr Guest.

Teulu wedi ei 'chwalu yn llwyr'

Wrth ddedfrydu, dywedodd y Barnwr Geraint Walters fod Thomas yn "yrrwr blin a diamynedd, oedd yn gyfrifol am gipio bywyd dyn 61 oed iachus - mab, gŵr a thad-cu oedd yn cael ei garu'n fawr - gan adael teulu wedi ei chwalu yn llwyr gan ei weithredoedd".

Mewn datganiad i'r llys dywedodd gwraig Mr Guest bod Barry Thomas "wedi defnyddio ei gar fel arf" i ladd ei gŵr.

"Doedd dim rhaid i hyn ddigwydd, a 'da chi ddim yn edifar am yr hyn wnaethoch chi. Dyw ein bywydau bellach ddim yn fywydau cyffredin," meddai.

Ychwanegodd y teulu bod y diffynydd wedi dinistrio eu bywydau, wedi dwyn y dyfodol gyda Mr Guest ac wedi cipio "gŵr, tad a thad-cu arbennig".