Gemau rhagbrofol Euro 2024: Armenia 1-1 Cymru

  • Cyhoeddwyd
Tim Cymru ac ArmeniaFfynhonnell y llun, PA Media

Gêm gyfartal oedd hi rhwng Armenia a Chymru brynhawn Sadwrn yng ngêm ragbrofol Euro 2024.

Dechrau digon araf oedd hi i dîm Cymru allan yn Yerevan gyda'r tîm cartref yn rheoli'r hanner cyntaf.

Roedd Cymru ar ei hôl hi wedi pum munud yn unig, gyda Lucas Zelarayan yn sgorio gôl gynnar i Armenia.

Roedd y pwysau yn cynyddu yn ystod yr hanner cyntaf i dîm Rob Page, gyda'r Cymry'n chwarae yn esgeulus a heb fawr o egni.

Wrth nesáu at hanner amser, deffrodd y Cymry gan greu cyfleoedd newydd a chael gafael ar y gêm.

Ffynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Armenia yn dathlu gôl Lucas Zelarayan wedi pum munud yn unig

Fe drawsnewidiodd yr awyrgylch wedi i Nair Tiknizyan, benio i'w gôl ei hun yn dilyn tafliad gan Connor Roberts.

Roedd Cymru'n chwarae â mwy o hyder ar gychwyn yr ail hanner, gyda'r ddau dîm yn awyddus i ennill y gêm er mwyn ceisio sicrhau eu lle yn Euro 2024.

Roedd cardiau melyn yn cael eu cyflwyno i chwaraewyr y ddau dîm, ac wrth i Gymru chwarae'n fwy hyderus, fe wnaeth Bichakchyan daro'r postyn a throi'r momentwm yn ôl i gyfeiriad Armenia.

Daeth Brennan Johnson a Daniel James ymlaen i Gymru yn yr ail hanner yn y gobaith y gallai eu cyflymder helpu i lywio'r bêl i Gymru, ond nid oedd gôl i'r un o'r timau yn yr ail hanner.

Bellach mae'n rhaid i Gymru guro Twrci, sef arweinwyr Grŵp D, yng Nghaerdydd nos Fawrth gan obeithio y bydd Croatia yn colli pwyntiau yn eu gemau yn erbyn Latfia ac Armenia.

Pynciau cysylltiedig