Wrecsam a Chasnewydd yn colli yn Adran Dau

  • Cyhoeddwyd
Jay Rich-Baghuelou challenges Wrexham's Paul MullinFfynhonnell y llun, Rex Features

Colli fu hanes Wrecsam o 2-0 yn erbyn Accrington Stanley yn Adran Dau ddydd Sadwrn.

Wedi hanner cyntaf di-sgôr, rhwydodd y tîm cartref ddwywaith yn yr ail hanner.

Mae'r tîm o Gymru wedi llithro i'r pedwerydd safle yn y gynghrair yn sgil y golled.

Colli oedd hanes Casnewydd yn erbyn Mansfield hefyd.

Roedd gôl yn y naill hanner yn ddigon i Mansfield guro Casnewydd o 2-0, gan adael y tîm o dde Cymru yng ngwaelodion Adran Dau.