Powys: Cyhuddo merch, 14, o geisio llofruddio merch arall

  • Cyhoeddwyd
Canolfan Merthyr Tydfil

Mae merch 14 oed wedi ei chyhuddo o geisio llofruddio merch arall, ac o fod ag arf miniog yn ei meddiant.

Mae Heddlu Dyfed-Powys yn ymchwilio i honiadau fod merch wedi ei thrywanu mewn digwyddiad ym mhentref Coelbren, yn ne Powys nos Iau.

Mae'r ferch mewn cyflwr sefydlog ar ôl cael anafiadau difrifol.

Mae'r ferch 14 oed wedi ei chadw yn y ddalfa, ac mae disgwyl iddi ymddangos yn Llys Ynadon Merthyr Tudful ddydd Llun.

Pynciau cysylltiedig