'Dylid eithrio lonydd bysiau o'r terfyn 20mya'

  • Cyhoeddwyd
Canol dinas Caerdydd
Disgrifiad o’r llun,

Mae dinasoedd Cymru'n rhan allweddol o gyrraedd y nod o wneud 45% ar drafnidiaeth gyhoeddus, ar droed neu ar feic erbyn 2040

Dylid eithrio lonydd bysiau o'r terfyn cyflymder 20mya newydd ble mae hynny'n ddiogel, yn ôl ymchwil melin drafod.

Dywed adroddiad Centre for Cities y byddai mwy o bobl yn defnyddio gwasanaethau bws pe bai'r gwasanaethau yn cael eu hehangu i'r eithaf.

Mae'r ymchwil yn dangos bod rhwydwaith bws Cymru wedi crebachu yn fwy nac yng ngwledydd eraill y DU, gyda'r lefelau isaf ond un o bobl yn teithio ar fysiau.

Dywed Llywodraeth Cymru eu bod wedi datgan o'r dechrau fwriad i fonitro effeithiau terfyn 20mya ar wasanaethau bws.

Nod y llywodraeth yw sicrhau bod 45% o'r holl deithiau yn cael eu gwneud ar drafnidiaeth gyhoeddus, ar droed neu ar feic erbyn 2040.

Mae dinasoedd Cymru'n allweddol o ran cyrraedd y nod, medd yr adroddiad, ac fe allai tagfeydd uwch wneud trafnidiaeth gyhoeddus yn fwy apelgar na'r car, ond byddai angen buddsoddi'n sylweddol yn y rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

"Bydd pobl yn parhau i ddefnyddio'r car os yw'n fwy cyfleus," medd y Centre for Cities

"Os ydym am weld pobl yn symud o geir i fysiau, rhaid newid pa mor gyfleus ydy'r bysiau," meddai Paul Swinney, cyfarwyddwr polisi ac ymchwil Centre for Cities.

"Yr her ar hyn o bryd yw nad ydy'n bysiau'n teithio'n ddigon aml, dydyn nhw ddim yn ddibynadwy a dydyn nhw ddim wastad yn sydyn iawn.

"Un ffordd o wella hynny yw eithrio bysiau o'r terfyn cyflymder 20mya, ble mae hynny'n ddiogel.

"Byddai hynny'n caniatáu i fysiau symud yn gyflymach ac yn fwy dibynadwy, ac yn troi'r fantol o ran a ydych chi am deithio yn eich car ynteu ar fws.

"Y broblem yw bod yna fwlch mawr rhwng cyfleustra'r car a chyfleustra'r bws neu drên.

"Yn amlwg mae'n rhaid cael gwelliannau mawr yn y ffordd mae trafnidiaeth Cymru'n gweithredu yng Nghymru i newid hynny.

"Bydd pobl yn parhau i ddefnyddio'r car os yw'n fwy cyfleus."

Mae'r adroddiad yn datgelu bod cyfanswm y cilomedrau a gafodd eu gyrru gan fysiau wedi gostwng 20% yng Nghymru yn y flwyddyn cyn y pandemig o'i gymharu ag yn 2004/05.

Dywed Mr Swinney bod y rhwydwaith bysiau "wedi perfformio'n wael ers y 1980au" ar draws y DU, ond "yr hyn sy'n arbennig o bryderus yw bod maint rhwydwaith bysiau Cymru wedi crebachu i'r graddau ag y mae".

Mae'n amlygu'r angen, meddai, am fuddsoddi er mwyn ehangu'r rhwydwaith yn hytrach, os yw Llywodraeth Cymru am gyrraedd eu targed erbyn 2040.

Rhaid mynd i'r afael, meddai, "â'r cylch dieflig ble mae llai o bobl yn defnyddio'r bws, sy'n golygu bod teithiau'n cael eu torri", a'r unig ffordd o wneud hynny yw "elfen o gymhorthdal i ddarparu rhwydwaith bws helaeth".

Byddai hynny, ynghyd â rhwydwaith metro a mwy o wasanaethau trên wedi eu hintegreiddio'n dda, "yn gwneud trafnidiaeth gyhoeddus yn ddewis mwy cyfleus, a dyna ddylai nod y polisi fod os yw am wireddu'r targed o gael mwy o bobl o'u cerbydau".

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r ymchwil yn cydnabod "mewn ardaloedd gwledig bydd y ffigwr yn is"

Mae Mr Swinney yn canmol "uchelgais" targed Llywodraeth Cymru, ond mae'n rhybuddio bod yr ymchwil yn dangos "nad yw am fod yn 45% ymhob rhan o Gymru".

"Mewn ardaloedd gwledig bydd y ffigwr yn is ond fe allai ardaloedd dinesig helpu cyrraedd y targed yna," dywedodd.

Caerdydd, medd yr adroddiad, yw'r ddinas yn y sefyllfa orau i gynyddu'r defnydd o drafnidiaeth gyhoeddus, gan fod canran uwch o swyddi yng nghanol y brifddinas nag yn Abertawe, Casnewydd a Wrecsam.

Er mwyn cyrraedd y targed, mae'r adroddiad yn awgrymu sawl ffordd o ariannu cymhorthdal at wella trafnidiaeth gyhoeddus, gan gynnwys codi ffi tagfeydd a bod ffi o'r fath "yn fwy priodol" yng Nghaerdydd nag yn unrhyw le arall.

Ond mae'n dadlau mai "yn wahanol i'r model sy'n cael ei ystyried ar hyn o bryd" y byddai'n well codi ffi tagfeydd yng nghanol Caerdydd yn unig.

Mae'r adroddiad hefyd yn cyfeirio at ddatblygiadau fel Metro De Cymru a fydd yn gwella'r rhwydwaith, gan ddweud mai'r camau mwyaf llwyddiannus fyddai cynyddu nifer y gwasanaethau i stadau diwydiannol a pharciau busnes a'u cydlynu gyda phatrymau gwaith.

'Monitro effaith 20mya'

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym wedi bod yn glir o'r dechrau y byddwn yn monitro unrhyw effeithiau'r terfyn 20mya ar wasanaethau bws.

"Rydym yn gweithio'n agos gyda chwmnïau bws, awdurdodau lleol a Thrafnidiaeth Cymru i fynd i'r afael â'r heriau mae'r diwydiant yn eu hwynebu.

"Mae lonydd bysiau penodol a mesurau syml wrth oleuadau traffig a chyffyrdd yn helpu clirio tagfeydd a rhoi hwb ychwanegol i fysiau mewn mannau o dagfeydd difrifol, gan wneud teithiau'n fwy dibynadwy.

"Rydyn ni hefyd wedi sicrhau bod £6m ar gael eleni, a £5m y flwyddyn nesaf ar gyfer mesurau i flaenoriaethu teithiau bws."

Pynciau cysylltiedig