Arestio dyn ar amheuaeth o gyfathrebu rhywiol â phlentyn
- Cyhoeddwyd

Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi cadarnhau bod dyn 26 oed wedi cael ei arestio ar amheuaeth o gyfathrebu rhywiol gyda phlentyn.
Roedd yr heddlu'n ymateb i honiadau am athro ysgol yng Ngwynedd.
Mae'r awdurdod lleol yn cyfeirio pob ymholiad at yr heddlu.
Mae'r dyn yn y ddalfa ar hyn o bryd.