Hanes yn ei ddwylo: Sgwrs â’r arwerthwr Simon Bower
- Cyhoeddwyd
Mae Simon Bower wedi bod yn gweithio i'r cwmni arwerthu Morgan Evans ers dros 35 o flynyddoedd, ac mae bellach yn serennu ar y gyfres BBC The Bidding Room, lle mae'n cynghori pobl sydd eisiau gwerthu rhai o'u creiriau.
Er ei fod yn delio gyda degau o hen bethau bob dydd, meddai, dydi'r diddordeb mewn antiques a'u hanes ddim wedi pylu eto...
Sut ddechreuodd y diddordeb mewn hen bethau?
O'dd Nain efo siopau antiques yn ochra Derby, felly o'n i efo hi lot yn ystod gwyliau'r ysgol, a mynd efo hi i ocsiynau. Pan o'n i'n 20 oed, 'nath Mam a fi symud i Blas Bodorgan i weithio i deulu'r Meyricks. O'ddan ni'n byw yn y plasty ei hun, felly o'n i yng nghanol y byd antiques fan'na hefyd. Pan o'dd y teulu lawr, o'n i fatha butler iddyn nhw; o'dd hynny'n job diddorol dros ben.
Aeth Mam yn sâl, ac oedd rhaid rhoi'r gorau iddi, felly roedd rhaid edrych am job newydd. Ges i gyfle i fynd i Morgan Evans ddiwedd '87 ac yma dwi 'di bod ers hynny.
Dwi'n cofio'r diweddar David Rogers Jones yn deud mai be' 'nath neidio allan iddo fo amdana i, o'dd bod y diddordeb yn y byd hen bethau yna'n barod.
Beth sydd yn dy ddiddori di am hen bethau?
I mi, 'di o ddim jyst yr eitem ei hun. Pan 'da chi'n gafael yn rhywbeth sy'n 200-300 oed, mae'n taro fi bob tro, faint o ddwylo sydd wedi gafael yn yr eitem yma, mewn faint o dai mae'r eitem yma wedi bod, a faint o bethau mae'r eitem yna wedi ei weld drwy'r canrifoedd.
Mae hanes yn eich llaw chi, mewn ffordd. Dyna beth sydd wedi nghadw i.
O'n i'n clirio tŷ y diwrnod o'r blaen, a ddes i ar draws hen focs derw, eitha' syml ei siâp - hen focs dal canhwyllau oedd o ers talwm - ond y dyddiad arno fo oedd 1708... a jest meddwl am yr hanes sydd tu ôl i rywbeth fel yna. Mae o gymaint am yr hanes, ag ydi o am yr eitem ei hun.
Eich swydd gyntaf i gwmni Morgan Evans oedd fel cynorthwy-ydd yn yr ystafell sêl, cyn i chi fagu profiad a dod yn arwerthwr. Sut mae rhywun yn datblygu'r sgiliau sydd eu hangen i wneud hynny?
Mi fedrwch chi ddarllen llyfrau, ond profiad o ddydd i ddydd ydi o, cofio pethau 'dach chi'n ei weld a bod yn agored i edrych ar sut mae ocsiwnïars eraill yn gwerthu.
Dros amser, 'da chi'n tueddu i gael eich steil eich hun. Dwi'n gweld rhai ocsiwnïars yn dal a dal... ac mae pobl yn tueddu i golli mynadd. Fydda i'n trio cadw i fynd ar pace go lew.
Fydda i'n gwerthu tua 120 lot yr awr, so does 'na'm lot o amser i gael panad na'm byd fel'na. Efo 600 neu 800 o lotiau, 'da ni'n mynd strêt drwadd, a fydda i'm yn symud. Fydda i'n dechrau gwerthu am 10am a fydda i'n darfod tua 4pm. Mae'r llais yn tueddu i fod bach yn wahanol y bore wedyn!
Cyn y pandemig, o'dd y stafell yn llawn, efo tua 100 o bobl yn eistedd o'ch blaen chi. Ond rŵan, mae pawb wedi arfer g'neud ar y we, felly bellach mae 20-30 o bobl yn y stafell, ond ella fydd 'na 150-200 ar y we, felly lot o'r amser, fyddwch chi'n sbio ar y laptop.
Beth ydi'r eitem drytaf ydych chi erioed wedi ei werthu?
Yn ddiweddar, mae'n tueddu i fod pethau fel hen blatiau rhif ceir. Hen blatiau rhif Sir Fôn ydi EY, a dwi'n cofio rhyw ddwy neu dair blynedd yn ôl, gawson ni gyfle i werthu rhai cynnar ofnadwy, fel EY2, EY4, sydd o'r 1900au. EY7 aeth am y mwya' ganddon ni, am ryw £36,000. Dwi'n meddwl fod hwnna ar Lamborghini neu Maserati rŵan! A lluniau Kyffin Williams... dwi 'di cael £35,000 am rai o'i luniau o.
Ond weithiau, dim y pethau sy'n mynd am y prisiau mawr sy'n sticio yn y cof. Dwi 'di gwagio cannoedd o dai dros y blynyddoedd, ond o'n i'n gwagio rhyw hen dŷ cyngor, ac o'n i'n mynd rownd y tŷ ac yn totio wrth fynd rownd, a dwi'm yn meddwl mod i 'di dod at £100 am gynnwys y tŷ i gyd.
Ond yn cuddiad tu ôl i'r llenni ar y silff ffenest, roedd 'na bâr o fasys Moorcroft, bychan ofnadwy, oedd yn dyddio i tua 1908-10 - ac aeth rheina am tua £3,000.
Mi ddaw 'na bobl i mewn efo bocsys o stwff, a 'da ni'n gorfod mynd drwy bob bocs, achos ella bod 'na ddim byd o werth yn y bocs tan 'da chi'n cyrraedd y gwaelod. Ac un peth 'da chi isho.
Ers 2020, mae'r gyfres The Bidding Room wedi bod yn boblogaidd ar BBC One, lle mae aelodau o'r cyhoedd yn dod â hen eitem i'r stiwdio, er mwyn ceisio ei werthu. Chi sydd yn prisio'r eitem i ddechrau, ac yn eu cynghori ar sut i dargedu gwerthwyr penodol. Sut brofiad yw hi i fod yn rhan o'r gyfres?
Dwi'n mwynhau yn ofnadwy. O'n i'n nyrfys ofnadwy i ddechrau i gyfarfod Nigel Havers [y cyflwynydd], ond mae o'n lyfli o foi, efo lot o storis diddorol. Roedd o'n agoriad llygad i mi, achos dwi 'di gneud ychydig o waith teledu o'r blaen, fel Dickinson's Real Deal, a Twrio ar S4C. Ond ar hwn o'n i'n gweld sut o'ddan nhw'n gneud y rhaglenni mawr 'ma.
'Da ni'n dechrau ffilmio tua diwedd Ebrill, a mynd drwy fis Mai. Mae o'n cymryd rhyw chwech wythnos i ffilmio, ond mae 'na lot o waith cyn hynny wrth gwrs.
Mae'r holl dealers yn delio efo'u pethau eu hunain. Pan dwi'n gweld yr eitem, dwi'n gorfod meddwl pa un o'r dealers fyddai'n mynd amdano fo.
Dwi'n cofio yn y peilot, cael powlen bren llaeth. Dim llawer i edrych arno fo, ond i fi, sydd yn delio efo llawer o bethau fel antiques efo cysylltiad gwledig, oedd rhywbeth fel'na yn apelio ata i.
Beth sy'n gwerthu'n dda ar hyn o bryd, allai fod yn llechu yng nghefn cwpwrdd un o'n darllenwyr...?
Pan ti'n sôn am y gair antiques, ti'n meddwl 'rhywbeth dros 100 oed'. Ond mae'r byd wedi hollol newid.
Yn y blynyddoedd diwetha', dwi'n gweld mai rhai o'r pethau sy'n dod â'r mwya' o ddiddordeb a chwsmeriaid ydi eitemau o'r 70au a'r 80au, yn enwedig pethau fel offer retro gaming. Gawson ni lwyth o bethau Nintendo a Sega yn ddiweddar, ac aeth pethau - oedd o ddiwedd y 90au - am gannoedd.
Cafodd ffrind i mi sydd hefyd yn arwerthwr £4,000 am un controller. A ti'n meddwl, erbyn rŵan, alli di brynu dresal Gymreig am llai na £1,000! Felly mae pethau wedi newid yn llwyr.
Ar hyn o bryd, mae'r 60au, 70au, 80au yn boblogaidd... mewn ychydig o flynyddoedd fyddwn ni'n edrych ar bethau o droad y ganrif!