Rhoi bywyd newydd i hen sbwriel
- Cyhoeddwyd
Mae ailgylchu yn rhywbeth sydd yn ail natur i nifer ohonom ni erbyn hyn, ond mae yna gynnydd yn ddiweddar mewn pobl yn ailddefnyddio hen bethau, a'u haddasu er mwyn creu pethau o'r newydd.
Cafodd Cymru Fyw sgwrs gyda phobl sydd yn ceisio rhoi bywyd newydd i bethau fyddai fel arall yn cael eu taflu i'r bin.
Mae Geraint Hughes yn ffermio yn Llanfechell, Ynys Môn, ond yn ei amser sbâr, mae'n creu celfi i'r tŷ allan o hen offer fferm.
"Dwi'm yn gwybo be' 'nath i mi ddechrau'u gwneud nhw. Brynais i dŷ, ac o'n i isho'i ddodrefnu o, ac o'n i'n mynd i siopau a sylweddoli fod pethau yn ddiawledig o ddrud, ac o'n i'n d'eud wrtha fi fy hun, 'fedra i wneud gwell na hwnna'.
"Dwi wedi licio mwynhau creu pethau ers mod i'n fychan bach - 'Dolig o'n i'n cael toolbox a phethau gwaith coed. Dwi'm yn meddwl mod i 'rioed wedi gofyn am Playstation, mond isho rhyw forthwl a sbanar!
"O'n i isho bwrdd coffi, ac o'ddan nhw'n gannoedd o bunnau yn y siopau neis 'ma. Do'n i'm yn fodlon talu hynny i ddal paned o flaen teli.
"'Nath 'na rywun brynu manhole cover i mi mewn sêl ffarm am £3. Nes i weldio 'chydig o goesau arno fo - 'nes i siŵr dreulio tua awr arno fo, mae'n siŵr.
"'Nes i ei roi o ar Instagram, a 'nath 'na siop ym Miwmares gysylltu a gofyn 'swn i'n fodlon gwneud yr un fath, ac mi werthan nhw fo ar fy rhan i. Mi nes i, a dau ddiwrnod wedyn, ffoniodd o fi i ddweud ei fod o wedi gwerthu'r bwrdd am swm llawer mwy na dalais i! Fedrwn i'm coelio'r peth.
"Mae pobl yn ffonio fi rŵan, 'mae gen i hen fangl, 'nei di drin hwn i fi?'. Ond dwi'n gofyn, 'beth wyt ti isho?' wel dydyn nhw ddim yn gwybod. 'Pa stafell tisho fo?' 'Dwi'm yn siŵr'...
"Maen nhw'n dod â'r petha' 'ma, a sganddyn nhw'm syniad mwy na mul be' maen nhw isho. Dwi'n gorfod trio gwneud wbath i'w siwtio nhw - a hyd yn hyn maen nhw wedi licio nhw!
"Dwi'm yn licio taflu dim byd i ffwrdd, dwi'n trio dal mlaen iddyn nhw, a dwi'n sbïo arnyn nhw am fisoedd, a meddwl 'be' dwi'n mynd i'w 'neud am hwnna?'
"Dwi'n gynnil a dwi ddim yn licio gwario lle fedra' i. [I wneud daliwr diodydd] 'nes i dalu £30 am rhyw hen fangl, 'nes i roi cot o baent iddo fo, 'nes i dorri darnau o scaffold a'u rhoi nhw'n sownd... dyna ni.
"Ella bod hwnna wedi cymryd rhyw 10 awr, ond fod y 10 awr yna dros gyfnod. Dydi o ddim yn cymryd dim o'n niwrnod i. Hobi gyda'r nos ydi o.
"Anaml iawn fydda i'n eu gwneud nhw amser ffarmio, achos mae 'na gymaint o waith. Ond os ydw i'n gorfod gweithio gyda'r nos, efo ŵyn, yn lle mod i'n cicio'n sodlau am rhyw hanner awr, fydda i'n mynd i'r sied, a gwneud gwaith ar rywbeth, wedyn checio'r defaid, ac ella fod gen i awr arall. Mae gyda'r nos yn hir os wyt ti dy hun yn y cytiau, a hithau'n chwipio rhewi.
"Mae pobl yn dweud wrtha i gael gwefan, ond dwi'm isho'r stress, i fod yn onest. Dwi'n licio bod ar y cyfryngau cymdeithasol, ond dwi'm isho gorfod eistedd o flaen laptop drwy'r nos.
"Ond dros y cyfnod clo, nes i droi hen wŷdd yn fwrdd bach. Mae 'di cal 200 mlynadd yn cal i lusgo tu ôl i geffyl gwedd mewn caeau yn dop Sir Fôn... a'r gobaith ydi bydd o'n ffeindio cartra' newydd mewn fflat moethus yn Llundain rhywbryd!"
Mae Sylvia Davies yn rhedeg cwmni yng Nghaerdydd sydd yn creu bagiau bach allan o diwbiau aer beiciau, hen ymbarelau a phebyll.
"Dwi wastad wedi bod yn un sy'n trio bod yn gyfrifol yn amgylcheddol. Fues i'n meddwl am faint o wastraff ry'n ni'n ei greu, ac eisiau gweld beth allwn i ei wneud.
"Yn haf 2019, dechreues i gasglu tiwbiau aer. Ond o'n i ddim yn gwybod faint fydde 'na - a fydde 'na ddigon, a fydde posib cael stoc parhaol? Doedd gen i ddim syniad faint o diwbiau oedd yn cael eu taflu yn rheolaidd.
"O'dd hynny'n fy sbarduno i wedyn, roedd rhaid i mi wneud rhywbeth call gyda nhw. Dydyn nhw ddim yn amgylcheddol-dda, ac hefyd wedi teithio ar draws y moroedd i'n cyrraedd ni. Er fod beic yn rhywbeth amgylcheddol dda, wrth gwrs, mae beiciau dal yn creu sbwriel.
"O'n i'n arbrofi wedyn beth o'n i'n gallu eu gwneud gyda nhw.
"Dysgodd fy mam fi i wnïo yn ferch fach. Roedd Mam yn gwnïo a gwau dillad i mi a fy chwaer, ac yn fy arddegau, dechreuais i wneud fy nillad fy hun.
"Pan fu farw fy mam yn 2017 mi ges i ei pheiriant gwnïo hi. Roedd y galar yn ofnadwy, ac er mwyn teimlo'n agos ati, fe ymunais i â Caffi Trwsio Cymru.
"O'n i wedi meddwl ymuno yn y gorffennol, ond yn methu gwneud dim byd trydanol - yr unig beth fedra i wneud ydi gwnïo, a mae pawb yn medru gwnïo, meddyliais... ond roedd wir angen rhywun arnyn nhw i drwsio dillad pobl. Ges i'n synnu cyn lleied o bobl oedd yn medru gwneud. Ges i flas ar ei wneud, ac yn teimlo'n agosach at Mam.
"O'n i'n hoffi'r syniad mod i'n arbed dillad pobl rhag y bin sbwriel, ac yn ail-ddefnyddio, ac eisiau mynd â'r peth ymhellach.
"Nes i brynu peiriant gwnïo ym mis Medi y llynedd oedd yn gallu delio gyda'r tiwbiau aer. Dwi'n creu rhywfath o glytwaith gyda'r tiwbiau - yn gwnïo'r stribedi at ei gilydd er mwyn creu defnydd cryf, da i wneud pob math o fagiau bach - bag colur, bag 'molchi, sleeve gliniadur, cas pensiliau ayyb.
"Pethau digon syml ac ymarferol dwi'n ei 'neud - y deunydd yw'r peth anarferol, yn hytrach na'r dyluniad.
"Mae'r defnydd yn addas ar gyfer feganiaid. Maen nhw'n chwilio am gynnyrch sydd ddim yn lledr, ond sydd chwaith ddim wedi cael eu gwneud o polyurethane neu PVC, sydd yn andwyol iawn i'r amgylchedd.
"Fues i'n meddwl yn hir wedyn pa ddefnydd i'w ddefnyddio fel lining - doedd yna ddim pwynt cael defnydd aml-dro i'r bag ond ddim fel lining. Nes i benderfynu defnyddio ymbarelau, ac mae digon o ymbarelau rhacs o gwmpas.
"Dwi'n mynd i siopau trwsio beics i gasglu tiwbiau aer - mae nifer o siopau yn ddigon caredig yn cadw tiwbiau i un ochr i mi - ac mae Cadwch Gymru'n Daclus, ac ambell fan arall yn lleoliad casglu ymbarelau i mi.
"Dwi'n rhoi'r metel o'r ymbarelau i elusen sydd yn casglu sbwriel o lannau afonydd a moroedd yn ardal Caerdydd, sydd yn cael ei ariannu drwy ailgylchu metel. Felly mae hyn yn cadw'r economi gwastraff i droi.
"Mae Cadwch Gymru'n Daclus hefyd yn casglu pebyll i mi, hefyd ar gyfer lining. Fues i yng Ngŵyl y Dyn Gwyrdd y llynedd yn casglu pebyll. Eleni, mae pobl wedi bod yn defnyddio eu pebyll ac yn sylweddoli eu bod nhw'n gollwg, felly dwi'n eu cael nhw.
"Mae un babell yn fawr iawn, ac alla i wneud gymaint mas o un babell, felly does dim angen llawer o bebyll arna i. Ond y fantais o gael llawer ydi cael dewis o liwiau.
"Os oes yna ddeunyddiau eraill yn fy nghyrraedd i, a dwi'n gwybod eu bod nhw am gael eu gwastraffu heblaw am hynny, dwi'n trio eu defnyddio. Roedd denim yn digwydd bod gen i - hen jîns ydyn nhw. Roedden nhw wedi rhwygo, a doedd dim modd eu rhoi i siop elusen, ond roedd cefn y jîns yn berffaith iawn.
"Mae gen i hefyd fatres aer, a chadeiriau gwersylla... beth bynnag dwi'n medru gwnïo gyda. Dwi ddim eisiau mod i'n eu taflu nhw!
"Mae gen i siop ar-lein, ond dwi'n hoff o werthu'n lleol, achos mai gwastraff lleol ydi hwn. Os ydyn ni'n gwneud y gwastraff, rhaid i ni feddwl beth i'w wneud gyda fe. Maen rhaid i ni gymryd cyfrifoldeb dros ein sbwriel ni ein hunain.
"Mae ysbrydoli syniadau eraill yn rhan o'r fenter yma a gwneud i bobl feddwl.
"Mae llawer allwn ni ei wneud i leihau sbwriel, ac ailddefnyddio'r sbwriel ry'n ni'n ei greu, a hynny cyn meddwl am ailgylchu. Y rheswm dwi'n defnyddio'r tiwbiau a'r ymbarelau yma ydy bod nhw ddim yn gallu cael eu hailgylchu, na'u troi yn ôl i beth oedden nhw - felly mae eu hailddefnyddio yn rhoi bywyd newydd iddyn nhw."
Hefyd o ddiddordeb: