Cŵn defaid dryta'r byd
- Cyhoeddwyd
Yn anifeiliaid clyfar, ystwyth a chyflym - mae cŵn defaid wedi bod yn ran allweddol o fywyd fferm ers canrifoedd.
Maen nhw hefyd yn fusnes mawr heddiw, yn enwedig y rhai o Gymru, gyda phrisiau arwerthiannau ar-lein yn cyrraedd miloedd ar filoedd o bunnoedd.
Mae rhaglen arbennig gan BBC 1 Cymru am 20:30 ar 22 Awst, The World's Most Expensive Sheepdogs - Our Lives 21, yn cynnig cipolwg ar yr hyn sydd ei angen i fridio a hyfforddi'r cŵn rhyfeddol yma, a pham bod rhai yn cael eu gwerthu am arian mawr.
Mae'r rhaglen yn canolbwyntio ar ddau feistr yn y maes hyfforddi cŵn defaid; Dewi Jenkins o Dal-y-Bont yng Ngheredigion, a Kevin Evans o Libanus.
Yn 2021 fe dorrwyd record byd pan werthodd Dewi Jenkins ei gi defaid, Kim, mewn arwerthiant yn Nolgellau am £27,100.
Mae'r rhaglen hefyd yn dilyn Erinna Rogers, sy'n ffermio yn ardal Cwm Elan yng nghanolbarth Cymru, ac mae ei theulu wedi dibynnu ar gŵn defaid ers cenedlaethau. Bellach gyda ei mam yn denant ar y fferm, mae Erinna a'i ffrind pedair coes, Glen, yn helpu bugeilio'r defaid ar y mynyddoedd agored i'w marcio a'u paru.
"Allwch chi ddim gwneud hebddyn nhw", meddai Erinna am y cŵn defaid. "A dyna sy'n eu gwneud nhw mor werthfawr i ni. Mae pawb eisiau prynu ci ifanc, ond un sydd wedi ei hyfforddi - ac mae 'na hyfforddwyr gwych yma yng Nghymru."
Fe wnaeth arwerthiannau ar-lein yn ystod y cyfnod clo drawsnewid y ffordd y mae cŵn defaid yn cael eu marchnata, ac mae Kevin Evans, o Libanus ym Mhowys, yn sicrhau bod ei gŵn yn cael eu cyflwyno yn y ffordd orau bosibl i sefyll allan i brynwyr, trwy dynnu lluniau o ansawdd uchel ohonynt yn gweithio.
"Mae 'na sialens wahanol gyda phob ci, a dwi'n mwynhau trio mynd mewn i feddwl y ci a trio cael y gorau mas o nhw" meddai Kevin.
"Ges i fy ngeni i'r byd cŵn defaid, yn byw ar fferm fynydd, ac roedd gan fy nhad o hyd ddiddordeb yn y maes ac yn gwneud treialon.
"Ges i gi bach gan fy nhaid pan o'n i'n bedair oed - dim y ci gorau dwi erioed wedi ei gael yn amlwg. Ond roedden ni'n gwneud popeth efo'n gilydd a gyda 'chydig o help gan fy nhad fe wnes i ei hyfforddi i fod yn gi defnyddiol ar y fferm. O fanna dechreuodd popeth i ddweud y gwir."
"Chi'n edrych am y greddf naturiol 'na yn y ci, a sut mae nhw'n canolbwyntio ar y defaid, ac y gallu naturiol i gylchu rownd y defaid yn hytrach na jest rhedeg ar eu holau nhw."
Ar y rhaglen mae Dewi'n paratoi ar gyfer arwerthiant ar-lein yn Nolgellau, gyda bidiau'n dod i mewn o bob rhan o'r byd gan gynnwys Gogledd America, Ynysoedd Ffaröe, De Corea a'r Almaen. Mae un o'i gŵn, Kelly, yn chwaer i Kim sydd wedi torri record.
"Roedd o'n deimlad anhygoel i glywed bod Kim wedi torri'r record byd pan gafodd hi ei gwerthu. Ond mae'n siŵr mod i'n hapusach yn clywed pa mor dda mae hi'n gwneud yn ei chartref newydd. Wedi i chi wario misoedd neu flynyddoedd gyda nhw mae'n anodd eu gadael nhw fynd, ond mae gwybod eu bod nhw'n cael cartref da yn gwneud pethau'n haws."
Mae Dewi yn rhoi fideos o'i gŵn yn gweithio ar-lein ac mae miloedd o bobl ledled y byd yn eu gwylio.
Ond bellach, gyda chanllawiau pandemig Covid-19 wedi'w llacio mae'r arwerthiannau nôl ar y caeau. Mae'r rhaglen yn dilyn Dewi a Kevin wrth iddyn nhw fynd i arwerthiant cŵn defaid ar gyrion Y Bala gyda channoedd yn bresennol.
Mae'r galw am gŵn defaid o Gymru yn fyd-eang, a gyda ffermwyr yn chwilio am gŵn defaid sy'n gweithio'n dda yn ogystal â rhai sy'n gŵn cystadlu, mae'r prisiau'n debygol o godi'n uwch wrth i'r ffermwyr chwilio am eu ci delfrydol.
Hefyd o ddiddordeb: