Teyrnged mam Harvey Owen ar ôl marwolaeth pedwar dyn ifanc

  • Cyhoeddwyd
Harvey OwenFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd mam Harvey Owen, Crystal, fod ei mab 17 oed yn berson "unigryw" ac "arbennig"

Mae mam un o bedwar dyn ifanc a fu farw yn dilyn gwrthdrawiad yng Ngwynedd wedi ei ddisgrifio fel yr "enaid mwyaf gwerthfawr" ac "yn fab y gallwn fod yn falch ohono".

Cafwyd hyd i gyrff Jevon Hirst, 16, Harvey Owen, 17, Wilf Fitchett, 17, a Hugo Morris, 18, ger pentref Garreg fore Mawrth.

Roedd y car Ford Fiesta arian roedd y bechgyn yn teithio ynddo wedi ei ganfod "ben i lawr" ac "yn rhannol dan ddŵr".

Roedd y pedwar yn dod o ardal Amwythig a'r gred ydy bod y criw wedi teithio i Harlech ddydd Sadwrn gyda chynlluniau i wersylla yn Eryri.

Doedd neb wedi gweld na chlywed gan y pedwar ers bore Sul, a sbardunodd hynny ymdrech chwilio fawr yn y gogledd-orllewin.

Ond fore Mawrth, ar ôl derbyn gwybodaeth gan aelod o'r cyhoedd, cafodd y car ei ganfod ger ffordd yr A4085.

'Chwerthin rhwng y dagrau'

Wrth dalu teyrnged dywedodd mam Harvey Owen, Crystal, fod ei mab 17 oed yn berson "unigryw" ac "arbennig".

"Roedd Harvey yn berffaith pan ddaeth i'r byd a bydd yn gadael felly," meddai.

"Does dim geiriau o gwbl i ddisgrifio'r boen rydym yn ei deimlo wrth golli'r enaid mwyaf gwerthfawr, a dim geiriau i egluro pa mor arbennig oedd Harvey."

Dywedodd Ms Owen fod Harvey yn angerddol am chwarae'r gitâr, cerddoriaeth jazz, barddoniaeth a chelf.

Ychwanegodd bod ei mab "yn ffynnu mewn bywyd ac roedd ganddo bopeth i fyw amdano".

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

"Mae'r ffaith y bydd Harvey yn 17 oed am byth yn annioddefol i feddwl amdano," meddai ei fam, Crystal

"Mae gan bawb stori ddoniol i'w hadrodd am Harvey a'r straeon yma sy'n ein cadw ni i fynd, yn gwneud i ni chwerthin rhwng y dagrau a byddan nhw'n parhau yn fyw.

"Wnaeth o erioed achosi unrhyw niwed... yr oedd a bydd am byth yn fab y gallwn fod yn falch ohono.

"Mae'r ffaith y bydd Harvey yn 17 oed am byth yn annioddefol i feddwl amdano ac yn anoddach fyth i'w dderbyn.

"Daliwch eich anwyliaid yn dynn, mae'r holl fân bethau rydyn ni'n poeni amdanyn nhw yn amherthnasol, mae bywyd mor fyr a gall fod mor greulon.

"Rwyf wedi colli fy mab, y bachgen roeddwn i'n ei garu gymaint, ac ni allaf dderbyn na fyddaf yn gallu ei ddal eto na dweud wrtho fy mod yn ei garu eto."

Ffynhonnell y llun, Heddlu Gogledd Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Cafwyd hyd i gyrff Jevon Hirst, Harvey Owen, Wilf Fitchett a Hugo Morris

Ddydd Gwener, fe apeliodd Heddlu'r Gogledd ar unrhyw un sydd â lluniau dashcam a allai fod o ddefnydd i gysylltu â nhw.

Cadarnhaodd swyddogion hefyd bod teuluoedd rhai o'r dynion ifanc wedi ymweld â safle'r gwrthdrawiad ddydd Iau.

Dywedodd yr Uwch-arolygydd Simon Barrasford bod ymchwiliad "llawn a manwl" ar waith er mwyn darganfod achos y gwrthdrawiad.

"Mae rhan o'r ymchwiliad hwnnw yn cynnwys edrych ar luniau teledu cylch cyfyng a hoffem ddiolch i bawb sydd eisoes wedi cysylltu â ni," meddai.

"Mae rhan o'r ymchwiliad hefyd yn cynnwys ymchwiliad fforensig llawn ar y car ac mae'r gwaith yma'n parhau gyda'r Uned Ymchwilio Fforensig Gwrthdrawiadau.

"Hoffem hefyd ddatgan ein diolch i'r gymuned yng Ngharreg am eu hamynedd a dealltwriaeth barhaus."

Pynciau cysylltiedig