Pencampwriaeth Rygbi Unedig: Caerdydd 31-24 Stormers
- Cyhoeddwyd
![Chwaraewyr Caerdydd yn dathlu](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/D25B/production/_131815835_cdf_241123_be_cardiff_v_stormers29.jpg)
Mae'r canlyniad yn codi Caerdydd i'r nawfed safle yn y tabl
Fe lwyddodd Caerdydd i sgorio cais yn yr eiliadau olaf i sicrhau buddugoliaeth ddramatig yn erbyn y Stormers yn y brif ddinas.
Aeth yr ymwelwyr ar y blaen wedi chwe munud yn unig, gyda'r bachwr, Andre-Hugo Venter yn sgorio cais wedi sgarmes symudol bwerus.
Pum munud yn ddiweddarach, a daeth yr ail gais i'r Stormers, wrth i'r tîm o Dde Affrica ddefnyddio sgarmes symudol unwaith eto i ddenu amddiffynwyr Caerdydd, cyn lledu'r bel allan at Rohan Nel a orffennodd y symudiad.
Fe wnaeth y tîm cartref daro 'nôl wrth i Gabriel Hamer-Webb fanteisio ar waith ardderchog gan Tinus de Beer i sgorio ei gais gyntaf i Rygbi Caerdydd.
A chyn yr egwyl roedd Caerdydd yn ôl yn gêm wrth i Liam Belcher goroni gwaith ymosodol gwych gan y blaenwyr.
![Mason Grady yn sgorio](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/F96B/production/_131815836_cdf_241123_cf_cardiff_v_stormers_027.jpg)
Y Cymro Mason Grady sgoriodd trydydd cais Caerdydd
Yn fuan yn yr ail hanner daeth trydydd cais i'r Stormers, ac ail i'r canolwr Rohan Nel - ond fel yn yr hanner cyntaf, fe wnaeth y tîm cartref daro 'nôl.
Fe gasglodd asgellwr Cymru, Mason Grady y bêl tua deg metr o'r llinell gais, cyn curo dau o amddiffynwyr Stormers a chroesi'r gwyngalch.
Daeth Caerdydd yn gyfartal wedyn drwy gic gosb Tinus de Beer.
Fe wnaeth y ddau dîm fethu cyfleoedd i ennill y gêm yn y munudau olaf - Ben Thomas a Sacha Feinberg-Mngomezulu yn methu ciciau hwyr - ond gydag 80 munud wedi ei chwarae, fe gipiodd Caerdydd y fuddugoliaeth drwy gais Rhys Litterick.
Mae'r canlyniad yn codi Caerdydd i'r nawfed safle yn y tabl.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Tachwedd 2023
- Cyhoeddwyd10 Tachwedd 2023
- Cyhoeddwyd4 Tachwedd 2023