Pwllheli: Agor cyfranddaliadau i gefnogi Menter y Tŵr
- Cyhoeddwyd
Mae'n bosib bellach i bobl brynu cyfranddaliadau i helpu menter sy'n gobeithio prynu a datblygu hen westy amlwg yng nghanol Pwllheli.
Mae Gwesty'r Tŵr ar gau ers dechrau cyfnod Covid, ac roedd 'na bryder yn lleol y gallai'r adeilad gael ei ddefnyddio i gartrefu pobl fregus ond heb gefnogaeth.
Daeth y gymuned at ei gilydd fis Awst y llynedd gan godi £60,000 mewn 12 awr er mwyn talu blaendal am yr adeilad, ond roedd angen codi £400,000 ymhellach o fewn blwyddyn i gwblhau'r pryniant.
Roedd yna ddigwyddiad yn y dref brynhawn Sul i roi mwy o wybodaeth am y fenter ac i ddechrau gwerthu cyfranddaliadau.
Yn siarad ar raglen Dros Frecwast, dywedodd trysorydd Menter y Tŵr, Elin Hywel, mai'r bwriad yw troi'r adeilad yn dafarn, gofod cymunedol, bwyty a gwesty, gyda phris cyfranddaliad yn dechrau o £100.
"Mae'r Tŵr yn adeilad hollol eiconig yng nghanol stryd fawr Pwllheli, wedi ei adeiladu yn 1856," meddai.
"Mae wedi bod yn westy hollol anhygoel, wedi cynnal priodasau gymaint o bobl dre', wedyn yn y blynyddoedd diweddar yn dŷ tafarn.
"Mae'r adeilad wedi dirywio dipyn [ers Covid] ac mae o yn cael effaith ar y dref."
Ychwanegodd Ms Hywel: "Bydd yn westy Cymreig, croesawgar, gydag ystafelloedd i'w llogi.
"Yn y cefn mae cwrt lle 'da ni'n gobeithio cael gweithdai i bobl busnes newydd sydd methu gwneud y leap i'r stryd fawr, ond i'w cefnogi nhw ymhob ffordd bosib.
"Mae o'n brosiect mawr. 'Da ni am ei wneud yn raddol i leihau y risg, ond 'da ni'n gobeithio agor y tŷ tafarn erbyn y Pasg ac agor y 'stafelloedd cymunedol yn fuan wedyn.
"Ar ôl hynny fydd y tŷ bwyta, ac ar ôl hynny wedyn y gwesty a'r cwrt yn y cefn."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd31 Awst 2022