Cymuned Pwllheli yn casglu blaendal i brynu gwesty mewn 12 awr

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Llwyddwyd i gasglu blaendal o fewn "ychydig oriau" yn 2022

Mae cymuned Pwllheli wedi llwyddo i godi £60,000 mewn cwta 12 awr i dalu am flaendal i brynu gwesty yn y dref.

Roedd 'na bryder yn lleol y gallai Gwesty'r Tŵr gael ei ddefnyddio i gartrefu pobl fregus ond heb gefnogaeth.

Mae'r gwesty wedi bod ar gau ers dechrau cyfnod Covid, a'r nod gan y gymuned yw ei ailagor erbyn y Nadolig gan helpu i adfer y stryd fawr hefyd.

Ond bydd angen codi £400,000 eto o fewn blwyddyn er mwyn cwblhau'r pryniant yn derfynol.

Disgrifiad o’r llun,

Agor y dafarn er mwyn dechrau creu elw ydy'r bwriad, meddai Karen Rees Roberts

Mae'r Cynghorydd Karen Rees Roberts yn Aelod o Gyngor Tref Pwllheli ac yn rhan o'r ymdrech i godi arian.

Dywedodd: "Doeddan ni ddim isio i neb arall ei gael o so mae'r gymuned wedi dod at ei gilydd o fewn ychydig oriau a wedi codi £60,000 fel bod ni'n cadarnhau bod ni'n cael prynu'r Tŵr.

"Rŵan, 'dan ni'n gobeithio agor y pub cyn Dolig fel bod 'na bres yn dod i mewn fel 'na, a wedyn cael grantiau a pawb i weithio efo'i gilydd."

Dywedodd mai creu "hwb i'r gymuned" yw'r nod "lle mae pawb yn medru mynd, yr henoed, yr ifanc".

"I ddweud y gwir fydd o'n rhywbeth i bawb a wneith o adnewyddu y stryd fawr a bob dim," ychwanegodd.

Roedd llawer yn lleol yn poeni y byddai'r Tŵr yn cael ei brynu er mwyn gosod pobl fregus yno, ond heb gefnogaeth iddyn nhw.

Mae nifer o adeiladau'r dref eisoes yn cael eu defnyddio i gartrefu pobl fregus.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r dyfodol yn edrych yn well yn lle'n waeth, meddai Elin Hywel

Mae'r cynghorydd Elin Hywel yn cynrychioli rhan o Bwllheli ar Gyngor Gwynedd a dywedodd "heb os, bod 'na bryder".

"Beth sy'n bwysig yn fan 'ma ydy fel cymuned bod ni wedi gallu adeiladu ateb sydd yn meddwl bod y dyfodol yn edrych yn well yn hytrach nag yn waeth.

"Dwi'n meddwl mai dyma sydd yn bwysig i ni gyd."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Liz Saville Roberts AS bod yr ymdrech i brynu'r gwesty ac adfer y stryd fawr "i'w groesawu"

Mae Liz Saville Roberts, Aelod Seneddol Dwyfor Meirionnydd, yn falch fod y gymuned wedi gallu codi'r arian cychwynnol.

"Mae rhywun yn cymeradwyo'r gymuned am godi cymaint o arian mor sydyn ac mae'n dangos sut deimlad sydd yma," meddai.

"Ar y naill law y pryder mawr bod tafarndai a gwestai yn cael mynd oddi ar ddefnydd y gymuned, ac ar y llaw arall hefyd yr awydd cadarnhaol iawn yma."

Cyngor eisiau cefnogi'r fenter

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd nad yw'r awdurdod "ar unrhyw bwynt wedi ystyried prynu Gwesty'r Tŵr" nac wedi "cynnal trafodaethau gyda pherchnogion presennol y safle nac unrhyw barti arall am unrhyw fwriad o'r fath".

Ychwanegodd bod y cyngor yn "llongyfarch y gymuned ar eu hymdrechion hyd yma hefyd ac yn edrych ymlaen i'w cefnogi gyda'u menter".

Wrth ymateb i rai pryderon am leoli unigolion bregus, dywedodd y cyngor bod dyletswydd statudol i sicrhau nad oes neb yn cysgu ar y stryd.

Ychwanegodd: "Pan fo pryderon yn codi yn lleol, rydym yn cydweithio gyda'r cymunedau i leddfu'r pryderon neu ddod o hyd i ddatrysiadau yn rhagweithiol."

Pynciau cysylltiedig