Pwllheli: Menter i brynu Gwesty'r Tŵr wedi codi £400,000

Gwesty y Twr
  • Cyhoeddwyd

Mae menter gymunedol ym Mhwllheli wedi llwyddo i godi £400,000 i brynu hen westy yng nghanol y dref.

Daeth y rhan helaeth o'r cyfraniadau yn y diwrnodau olaf, meddai'r fenter, diolch i gefnogaeth "anhygoel".

Mae Gwesty'r Tŵr wedi bod ar gau ers dechrau cyfnod Covid, ac roedd 'na bryder yn lleol ynglŷn ag effaith hynny ar y gymuned.

Cafodd Menter y Tŵr ei sefydlu ym mis Awst y llynedd, gyda'r nod o ddatblygu'r safle, a'i ailagor fel tafarn, gwesty, bwyty a gofod cymunedol.

Dywedodd Carys Owen, cadeirydd y fenter, fod "prosiect anferth o'u blaenau, ond bod 'na botensial mwy fyth".

'Bywyd newydd i'r dref'

Dywedodd Ms Owen wrth BBC Cymru Fyw ei bod yn "gobeithio gweld y prosiect yn dod a bywyd newydd i Bwllheli".

"Mae o'n dangos dydi bod modd gwneud y pethau 'ma, bod 'na werth mewn cymryd risg weithiau, bod eisiau i ni drio," meddai.

Roedd y fenter wedi cael blwyddyn gan y perchennog presennol i gasglu'r holl arian, gyda'r dyddiad cau ar 16 Tachwedd.

Y bwriad oedd rhoi cyfle i bobl brynu cyfranddaliadau unigol - gyda phob aelod wedyn yn cael pleidleisio ar benderfyniadau yn ymwneud â'r cynllun yn y dyfodol.

Fe lwyddodd y fenter i godi £60,000 mewn 12 awr er mwyn talu blaendal am yr adeilad, ond gyda llai na phythefnos i fynd tan y dyddiad cau £88,000 oedd cyfanswm y gronfa., dolen allanol

Yn y dyddiau yn arwain at y dyddiad cau, mae'r gefnogaeth wedi bod yn anhygoel, yn ôl Ms Owen.

"Mae'r we wedi bod mor brysur, mae hi wedi bod yn wych yma. Dwi wedi bod yn siarad efo lot o bobl busnes, gyda rhai o'r rheini wedi cyfrannu lot fawr o bres.

"Mae'r gefnogaeth wedi bod yn anhygoel. Ma' faint o bobl sydd wedi rhoi £100, ac yn ymddiheuro yn dweud mai 'ond hyn fedra i roi', ond eu bod nhw eisiau cyfrannu mwy... mae'r cannoedd bach yna yn bwysicach na'r miloedd mewn ffordd."

Ychwanegodd bod mentrau cymunedol fel hyn yn aml yn gweld cynnydd sydyn mewn cyfraniadau wrth agosáu at y dyddiad cau.

"Yn hanesyddol, sbïwch chi ar fenter y Plu, neu Ty'n Llan, ma' pobl eisiau rhoi, ond maen nhw'n dueddol o anghofio, neu wthio fo'n bellach lawr y lein... ond os oes 'na ddyddiad pendant, wedyn mae 'na fwy o frys ella."

Er bod y fenter wedi cadarnhau eu bod nhw wedi codi dros £400,000, doedd dim modd rhannu ffigwr pendant am y tro gan eu bod yn dal i brosesu'r taliadau.

Be nesa?

Y bwriad nawr ydy mynd ati i wneud cynlluniau cadarn ar gyfer dyfodol y gwesty, yn ogystal â gwneud ceisiadau am wahanol grantiau.

"Gan nad ydyn ni angen benthyciad ragor, does dim pwysau i orfod agor ar frys er mwyn talu'r llog," meddai Ms Owen.

"Mae'r pres ar gyfer y pryniant i gyd wedi dod drwy'r fenter, felly fedrwn ni gymryd mwy o amser i eistedd lawr a mynd trwy'r cynlluniau yn iawn.

"Fyddwn ni'n eistedd i lawr efo pensaer i wneud cynlluniau pendant, yn dechrau prisio elfennau o'r gwaith, a bydd 'na gyfarfod wythnos nesa i drafod grantiau, a be all weithio i ni."

Ychwanegodd bod lot fawr o waith i'w wneud cyn y bydd modd agor Gwesty'r Tŵr unwaith eto ac mai "dechreuad ydy hyn, base camp mewn ffordd, ac mae 'na fynydd mawr iawn o'n blaenau ni".

Pynciau cysylltiedig