Buddugoliaeth i Gaerdydd ond gêm gyfartal i Abertawe

  • Cyhoeddwyd
Ike UgboFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Ike Ugbo yn dathlu sgorio'r gôl fuddugol yn yr eiliadau olaf

Preston 1-2 Caerdydd

Llwyddodd Caerdydd i sgorio dwy gôl eithriadol o hwyr er mwyn trechu 10 dyn Preston ddydd Sadwrn.

Sgoriodd Milutin Osmajic i roi Preston ar y blaen ar ddechrau'r ail hanner, ond yn syth wedi hynny cafodd Robbie Brady ei yrru o'r maes i'r tîm cartref ar ôl cael ail gerdyn melyn.

Roedd hi'n edrych fel mai buddugoliaeth i Preston fyddai hi, cyn i Karlan Grant ac Ike Ugbo sgorio yn y naw munud oedd yn ychwanegol ar ddiwedd y 90 er mwyn sicrhau buddugoliaeth annhebygol iawn i Gaerdydd.

Mae Caerdydd felly yn codi o nawfed i chweched yn y Bencampwriaeth.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Jamie Paterson sgoriodd i roi Abertawe ar y blaen yn yr hanner cyntaf

Abertawe 2-2 Hull

Bydd Abertawe yn siomedig i ildio dwy gôl o fantais, wrth i Hull ddod yn ôl i sicrhau gêm gyfartal.

Rhoddodd Jamie Paterson yr Elyrch ar y blaen wedi 17 munud, cyn i Jerry Yates ddyblu'r fantais bum munud yn ddiweddarach.

Sgoriodd Jaden Philogene i'r ymwelwyr ar ddechrau'r ail hanner, cyn i Tyler Morton ei gwneud hi'n gyfartal gydag 20 munud yn weddill.

Mae'r canlyniad yn golygu fod Abertawe yn aros yn 17eg yn y Bencampwriaeth.