Buddugoliaethau da i Wrecsam a Chasnewydd yn Adran Dau
- Cyhoeddwyd

Paul Mullin oedd y seren unwaith eto i Wrecsam gyda thair gôl
Wrecsam 6-0 Morecambe
Sicrhaodd Wrecsam fuddugoliaeth gyfforddus gartref yn erbyn Morecambe brynhawn Sadwrn.
Cafodd y tîm cartref y dechrau perffaith wrth i Joel Senior roi'r bêl i'w rwyd ei hun wedi pum munud, cyn i Paul Mullin ddyblu'r fantais funudau'n unig yn ddiweddarach.
Ychwanegodd Jacob Mendy drydedd cyn hanner amser, tra bod dwy gôl arall gan Mullin ac un i James Jones wedi selio'r fuddugoliaeth yn yr ail hanner.
Mae'r fuddugoliaeth yn golygu fod Wrecsam yn codi yn ôl i'r safleoedd dyrchafiad awtomatig, o bedwerydd i ail yn Adran Dau.

Bryn Morris yn dathlu sgorio gôl gyntaf Casnewydd ddydd Sadwrn
Casnewydd 2-1 Stockport
Ennill wnaeth Casnewydd hefyd, a hynny'n annisgwyl yn erbyn y tîm sydd ar frig y tabl.
Sgoriodd Bryn Morris ar drothwy hanner amser i roi'r Alltudion ar y blaen, cyn i Shane McLoughlin ddyblu'r fantais yn yr ail hanner.
Llwyddodd Stockport i gael gôl yn yr eiliadau olaf trwy Isaac Olaofe.
Mae'r canlyniad yn gweld Casnewydd yn codi o 20fed i 16eg yn Adran Dau.