Ateb y Galw: Elin Phillips

  • Cyhoeddwyd
elin

Yr wythnos yma yr actores o Ben-y-bont ar Ogwr, Elin Phillips, sy'n Ateb y Galw.

Mae Elin yn perfformio yn Theatr y Sherman, Caerdydd, tan ddechrau Ionawr yn y sioe Dolig, Hansel a Gretel.

Beth ydi dy atgof cyntaf?

Eistedd wrth ford y gegin gyda Mam yn aros i Dad ddod nôl o ymarferion pêl-droed yn ein tŷ yn Wrecsam.

Dy hoff le yng Nghymru a pham?

Traeth Southerndown ger Aberogwr ym Mhen-y-bont. Dw i wrth fy modd yn crwydro'r arfordir ac mae fy nheulu wedi joio sawl diwrnod fan hyn.

Ffynhonnell y llun, Elin Phillips
Disgrifiad o’r llun,

Pan yn blentyn ifanc iawn cafodd Elin ei magu yn Wrecsam a Chaerlŷr, cyn i'r teulu symud i Ben-y-bont

Y noson orau i ti ei chael erioed?

Treulio nos Galan yn Efrog Newydd gyda fy nghariad. Pizza a cwrw o'r siop gornel tra'n gwylio'r tân gwyllt o ffenest y gwesty.

Disgrifia dy hun mewn tri gair.

Pryderus. Hoffus. Gwirion.

Pa ddigwyddiad yn dy fywyd sy' o hyd yn gwneud i ti wenu neu chwerthin pan ti'n meddwl nôl?

Genedigaeth fy merch. Roedd hi mor goch a chrac yn ystod ei heiliadau cynta!

Ffynhonnell y llun, Elin Phillips
Disgrifiad o’r llun,

Elin yn perfformio yn Hansel a Gretel, sydd yn Theatr y Sherman tan 6 Ionawr

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?

Wel, ble i ddechrau? Dwi'n anghofio enwau pawb ar ôl cwrdd â nhw. Yn cwympo a baglu trwy'r amser. Ond efallai'r adeg pan wnes i gerdded mewn i ddrws wydr gan feddwl ei fod e ar agor. Clep mawr tra'n cario plât o fwyd o flaen stafell llawn o bobl.

Pryd oedd y tro diwethaf i ti grïo?

Echddoe. Yn trio perswadio fy merch blwydd oed i fynd nôl i gysgu!

Ffynhonnell y llun, Elin Phillips
Disgrifiad o’r llun,

Elin efo criw o'i ffrindiau agos

Oes gen ti unrhyw arferion drwg?

Poeni'n ormodol. Cuddio siocled o gwmpas y tŷ. Ymddiheuro.

Beth yw dy hoff lyfr, ffilm neu bodlediad a pham?

Dw i'n hoff iawn o hanes ffilmiau Hollywood ac mae'r oodlediad You Must Remember This yn datgelu cyfrinachau a hanesion coll y sgrîn fawr a'r system stiwdio.

Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod? Pam?

Miriam Margolyes. Am ddynes! Rhegi a rhechu trwy'r dydd tra'n sgwrsio Shakespeare a gwleidyddiaeth. Joio.

Ffynhonnell y llun, Elin Phillips
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Elin a'i brawd, Tomos, eu haddysgu yn Ysgol Llanhari

Dyweda rywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.

Ces i fy ngheni yn tongue-tied a 'di gorfod cael triniaeth ar fy nhafod i allu ynghanu "r" a "ll".

Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?

Mynd i'r traeth gyda fy ffrindiau gorau. Yna nôl i'r tŷ i wylio The Godfather ac ailadrodd y llinellau i fy nghariad mewn acen Eidaleg gwael. Canu a chwarae cuddio gyda fy merch cyn cwtshio amser gwely.

Pa lun sy'n bwysig i ti a pham?

Llun o Mam a Dad yn eu gladrags. Maen nhw 'di gwneud cymaint ar fy nghyfer i. Byswn i wir ar goll hebddynt.

Ffynhonnell y llun, Elin Phillips
Disgrifiad o’r llun,

Rhieni Elin; Lowri a Gwyn

Petaset ti'n gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai ef/hi?

Claudia Winkleman. Mae hi mor cŵl a dwi wir eisiau ei fringe hi.