Protest gweithwyr yn sgil dryswch dros ddyfodol Tata

  • Cyhoeddwyd
Protest gweithwyr Tata
Disgrifiad o’r llun,

Mae gweithwyr wedi cynnal protest ar bont yng nghanol Port Talbot

Mae'r ffordd y mae cwmni Tata Steel wedi trin eu gweithlu ym Mhort Talbot "yn draed moch", yn ôl gweithwyr y cwmni.

Roedd tua 25 o aelodau'r undeb Unite yn protestio ar bont yn y dref ddydd Iau wedi i'r cwmni awgrymu i undebau y gallai hyd at 3,000 o swyddi ddiflannu o fewn misoedd.

Yn ôl cynrychiolydd yr undeb Unite yn y safle, does "dim parch" gan Tata at eu gweithwyr.

Dywedodd llefarydd ar ran Tata Steel: "Pryd bynnag y mae gyda ni gyhoeddiad o bwys i'w rannu, rydym yn gwneud bob ymdrech i roi gwybod i ein gweithwyr a'u cynrychiolwyr yn gyntaf."

Honnodd undebau ddydd Mercher bod y cwmni wedi rhoi gwybod iddyn nhw am gynlluniau i ddod â chynhyrchu ffwrnais chwyth i ben ym Mhort Talbot erbyn Mawrth 2024.

Roedd disgwyl y byddai Tata yn cadarnhau'r cynlluniau hynny yn gyhoeddus yn dilyn cyfarfod o fwrdd y cwmni yn India, ond fe gafodd y cyhoeddiad i ganslo.

Dywedodd llefarydd ar ran Tata nos Fercher bod y cwmni "ddim mewn sefyllfa i allu gwneud cyhoeddiad ffurfiol ynghylch unrhyw gynigion i bontio at ddyfodol ddi-garbon i Tata Steel UK".

Ychwanegodd y cwmni mai'r gobaith yw dechrau ymgynghoriad ffurfiol gyda gweithwyr "yn fuan".

'Dim hygrededd, gonestrwydd, ymddiriedaeth'

Dywedodd cynrychiolydd Unite yng ngwaith dur Port Talbot, Ian Williams, bod Tata Steel wedi trin eu staff yn wael.

"Mae'r holl ffordd y mae wedi cael ei drin yn draed moch," dywedodd wrth BBC Cymru.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Ian Williams yn beirniadu'r ffordd y mae Tata Steel yn delio â'r sefyllfa

"Mae Tata'n pwysleisio gwerthoedd sef hygrededd, gonestrwydd, ymddiriedaeth. Doedd yna ddim o hynny ddoe o ran y ffordd y mae'r gweithlu yna'n cael eu trin.

"Ni wnelo hyn dim ond â 3,000 o swyddi. Chi'n sôn am dros 10,000 o swyddi oherwydd yr holl gymunedau, teuluoedd a chontractwyr.

"Y ffordd maen nhw wedi gwneud hyn, does gyda nhw ddim parch o gwbl at eu gweithlu."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae camau ar droed i geisio sicrhau llai o allyriadau wrth gynhyrchu dur

Gwaith dur Port Talbot yw un o'r safleoedd â'r lefel uchaf o allyriadau trwy'r DU.

Mae Llywodraeth y DU wedi ymroddi i roi £500m i Tata at gynllun gwerth £1.25bn i symud o ddefnyddio ffwrneisi glo.

Mae'n fwriad i adeiladu ffwrneisi trydan er mwyn cynhyrchu dur mewn ffordd sy'n fwy caredig i'r amgylchedd.

Y disgwyl yw y byddan nhw'n weithredol o fewn tair blynedd ar ôl sicrhau'r holl gymeradwyaeth angenrheidiol o ran cynllunio a rheoleiddio.