Ysbyty Treforys: Pwysau difrifol oherwydd diffyg gwlâu

  • Cyhoeddwyd
Ysbyty TreforysFfynhonnell y llun, Jaggery / Geograph
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r bwrdd iechyd gofyn i'r cyhoedd osgoi defnyddio adran achosion brys Ysbyty Treforys oni bai eu bod yn ddifrifol wael neu wedi'u hanafu'n ddrwg

Mae Ysbyty Treforys wedi datgan sefyllfa eithriadol yn sgil pryderon am bwysau ar wasanaethau.

Mae dros 80 o gleifion brys yn aros am wlâu yno, ac mae'r ysbyty wedi cyhoeddi'r hyn sy'n cael ei alw'n Ddigwyddiad o Barhad Busnes.

Yn ôl Bwrdd Iechyd Bae Abertawe fe gymerwyd y cam oherwydd pwysau eithafol ar wasanaethau brys a gofal heb ei drefnu o flaen llaw.

Oherwydd hyn maen nhw'n gofyn i'r cyhoedd osgoi defnyddio'r adran achosion brys oni bai eu bod yn ddifrifol wael neu wedi'u hanafu'n ddrwg.

Dywedodd cyfarwyddwr meddygol Ysbyty Treforys, Dr Mark Ramsey, fod popeth posib yn cael ei wneud i ryddhau cleifion nad oedd angen gofal meddygol acíwt mwyach, fel bod y cleifion sâl iawn yn gallu cael gwlâu.

Ychwanegodd fod disgwyl i'r ysbyty fod yn hynod o brysur dros y dyddiau nesaf oherwydd y tywydd oer, a all achosi mwy o salwch.

'Gall teuluoedd chwarae rhan allweddol'

Dywedodd y bwrdd iechyd fod tua 300 o gleifion yn ysbytai Bae Abertawe sydd wedi cwblhau eu triniaeth feddygol ond sy'n dal yn eu gwlâu - llawer ohonynt oherwydd eu bod yn aros am gymorth ychwanegol neu becyn gofal cyn iddynt allu gadael.

Mae'r bwrdd iechyd yn parhau i weithio ar y cyd ag awdurdodau lleol i gefnogi rhyddhau cleifion.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Ychwanegodd Dr Ramsey: "Gall teuluoedd ac anwyliaid chwarae rhan allweddol wrth ein cefnogi ni os ydyn nhw'n gallu mynd â'u perthnasau adref cyn gynted â phosibl, neu helpu dros dro gyda'r cymorth ychwanegol sydd ei angen nes bod pecyn gofal yn ei le.

"Mae hefyd er lles gorau cleifion i adael yr ysbyty ar amser, oherwydd gallant gael eu niweidio gan arhosiad hir yn yr ysbyty, a achosir gan anweithgarwch a'r risg o ddod i gysylltiad â heintiau.

"Mae mynd adref cyn gynted â phosibl yn llawer gwell ar gyfer eu hadferiad a'u lles cyffredinol, a dyma hefyd lle mae'r rhan fwyaf o bobl eisiau bod."

Pynciau cysylltiedig