Caerdydd 0-1 West Bromwich Albion
- Cyhoeddwyd

Jeremy Sarmiento (chwith) oedd sgoriwr unig gôl y gêm
Colli ar eu tomen eu hunain oedd hanes Caerdydd yn erbyn West Bromwich Albion yn YyBencampwriaeth nos Fawrth.
Jeremy Sarmiento wnaeth sgorio unig gôl y gêm, wedi 50 o funudau, gydag ergyd wych i gornol bellaf y rhwyd.
Er ymdrechion o bell gan Josh Bowler a Rubin Colwill, fe fethodd yr Adar Gleision ag unioni'r sgôr.
O ganlyniad mae Caerdydd yn llithro un i'r wythfed safle - tri phwynt o dan safleoedd y gemau ail gyfle.