Triphwynt da i Gasnewydd - gêm gyfartal i Wrecsam
- Cyhoeddwyd
Mae Wrecsam yn parhau yn ail safle Adran Dau er iddyn nhw golli cyfle i drechu Harrogate Town oddi cartref nos Fawrth.
Roedd Andrew Cannon (36) ac Elliott Lee (41) wedi eu rhoi ar y blaen, cyn i'r tîm cartref daro'n ôl trwy goliau Dean Cornelius (45) ac Anthony O'Connor (47).
Roedd rhaid bodloni ar bwynt felly ar ddiwedd gêm gyfartal 2-2.
Ond mae Casnewydd wedi sicrhau triphwynt da oddi cartref ar ôl trechu Morecambe o ddwy gôl i un.
Sgoriodd Michael Mellon (12) i roi'r tîm cartref ar y blaen ond fe lwyddodd yr Alltudion i droi'r fantol, diolch i ergyd Will Evans (28) a pheniad Seb Palmer-Houlden (57).
Mae'n golygu bod Casnewydd wedi codi o'r 16eg i'r 15ed safle.