Canfod corff wrth chwilio am fenyw ar goll yn Sir Gâr

  • Cyhoeddwyd
AngharadFfynhonnell y llun, Heddlu Dyfed Powys
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Angharad Jones wedi bod ar goll o'i chartref yn Nantgaredig ers dydd Sul

Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi cadarnhau bod swyddogion oedd yn chwilio am fenyw 55 oed aeth ar goll o'i chartref yn Sir Gaerfyrddin, wedi dod o hyd i gorff.

Mae'r gwasanaethau achub wedi bod yn chwilio am Angharad Jones ger Afon Cothi yn ardal Pontargothi ers nos Sul, yn dilyn adroddiadau fod person wedi mynd i'r dŵr.

Dywedodd yr heddlu mewn datganiad fod corff wedi cael ei ddarganfod brynhawn Mercher.

Dyw'r corff ddim wedi cael ei adnabod yn ffurfiol, ond mae teulu Angharad wedi cael gwybod am y datblygiadau diweddaraf.

Ychwanegodd y llu yn eu datganiad eu bod yn cydymdeimlo yn arw gyda'r teulu.

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd timau achub eu galw i ardal Afon Cothi nos Sul

Roedd wedi bod ar goll o'i chartref yn ardal Nantgaredig ers dydd Sul.

Mae'r gwasanaethau achub wedi bod yn bresenoldeb cyson yn yr ardal ers hynny wrth i'r chwilio barhau.

Ddydd Mawrth, dywedodd yr heddlu eu bod canolbwyntio ar ardaloedd ar hyd yr afonydd yn ardaloedd Nantgaredig, Pontargothi a Llanfynydd.

Mae Tîm Achub Mynydd a Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru, a thîm plymio heddlu arbenigol i gyd wedi bod yn rhan o'r ymdrech.

Pynciau cysylltiedig