32 mlynedd dan glo i lofrudd gyrrwr dosbarthu parseli

  • Cyhoeddwyd
Christopher El GifariFfynhonnell y llun, Heddlu De Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Bydd Christopher El Gifari yn treulio o leiaf 32 mlynedd dan glo

Mae lleidr wnaeth lofruddio gyrrwr dosbarthu parseli gyda'i fan ei hun wedi cael dedfryd o garchar am oes.

Gyrrodd Christopher El Gifari, 31 oed o Aberdâr, bron i hanner milltir ar hyd Ffordd y Gogledd, Caerdydd gyda Mark Lang, 54, yn sownd o dan olwynion ei fan.

Bu farw Mr Lang ym mis Ebrill yn Ysbyty Athrofaol Cymru, 18 diwrnod ar ôl cael anafiadau difrifol i'w gorff a'i ymennydd.

Er bod y diffynydd, Christopher El Gifari, wedi cyfaddef dwyn y fan a lladd Mr Lang, gwadodd ei lofruddiaeth gan ddweud mai ceisio codi ofn oedd ei fwriad.

Ond cafwyd yn euog o'r cyhuddiadau fwy difrifol gan reithgor ddydd Iau diwethaf.

Wrth draddodi dedfryd o garchar am oes, dywedodd y barnwr, Mr Ustys Griffiths, y bydd yn rhaid iddo dreulio o leiaf 32 mlynedd dan glo cyn y bydd yn cael gwneud cais am barôl.

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Mark Lang yn yr ysbyty 18 diwrnod ar ôl caei ei daro gan ei fan ei hun a'i lusgo am hanner milltir

Clywodd y llys bod El Gifari wedi'i gael yn euog sawl tro o'r blaen, gan gynnwys unwaith am yrru'n beryglus.

Roedd hefyd wedi treulio amser yn y carchar am droseddau cyffuriau ac roedd wedi'i ddedfrydu am ymosodiad hiliol ar ei dad ei hun.

Clywodd y llys bod plentyndod El Gifari wedi bod yn un "anhapus a gofidus" a bod defnydd El Gifari o ganabis, cocên a heroin wedi achosi "rhwyg" yn y teulu.

Roedd wedi troi'n gaeth i gyffuriau lladd poen ar ôl dod yn ddigartref ac roedd wedi ceisio lladd ei hun ddwywaith oherwydd "heb gartref a dyfodol addawol, roedd yn teimlo bod ei fywyd yn anobeithiol".

Treuliodd Christopher El Gifari lawer o'r amser gyda'i ben i lawr yn edrych yn ofidus.

Clywodd y llys bod Mr Lang wedi bod yn dosbarthu parseli am 15 mlynedd a'i fod yn ddyn da.

Cafodd datganiad personol gan bartner Mark Lang, Caroline Bergelin, ei ddarllen gan David Elias KC.

Disgrifiodd ef fel "dyn teulu go iawn" gan ychwanegu bod ei golled wedi "dinistrio" y teulu.

"Mae'r dyfodol yn ymddangos yn lle brawychus hebddo," meddai.

Beth ddigwyddodd?

Ar 28 Mawrth roedd yn dosbarthu parseli yn ardal Gabalfa, Caerdydd.

Ar Laytonia Avenue fe neidiodd o'i fan am gyfnod byr i ddosbarthu parseli, gan adael yr allwedd yn y fan.

Roedd El Gifari yn yr ardal ar y pryd - roedd wedi'i wrthod rhag prynu sigaréts mewn siop gerllaw, oherwydd doedd ganddo ddim digon o arian.

Yn ystod yr achos fe welodd y rheithgor luniau CCTV ohono ar y stryd yn sylwi ar fan Mark Lang.

Aeth at y cerbyd, a phan sylwodd bod yr allweddi ynddo, fe benderfynodd ei yrru i ffwrdd ar gyflymder.

Roedd yn rhaid i El Gifari droi'r cerbyd rownd a gyrru i'r cyfeiriad arall, ac fe yrrodd yn syth at Mark Lang, oedd yn sefyll ynghanol y ffordd yn gwisgo siaced lachar.

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Mark Lang ei daro ar Ffordd y Gogledd - un o'r prif ffyrdd i mewn ac allan o ganol y ddinas

Yn ystod yr achos roedd El Gifari yn dadlau mai ceisio codi ofn ar Mr Lang oedd ei fwriad, gan gredu y byddai'n symud o'r ffordd pan ddaeth y fan ato.

Fe gafodd Mr Lang ei daro nes ei fod yn cwympo, a'i lusgo o dan olwynion y fan.

Gyrrodd El Gifari y fan mewn i Ffordd y Gogledd - un o'r prif ffyrdd mewn i ganol Caerdydd, gan yrru am hanner milltir gyda Mr Lang wedi'i ddal yn gaeth o dan y cerbyd.

Yn y pen draw, fe stopiodd ger Ysgol Uwchradd Cathays a rhedeg i ffwrdd.

Pan gyrhaeddodd y gwasanaethau brys, fe geision nhw adfywio Mr Lang cyn ei gludo i'r Ysbyty Athrofaol gerllaw, ond bu farw 18 diwrnod yn ddiweddarach.

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd El Gifari ei weld ar luniau camera cylch cyfyng yn mynd i mewn i'r fan

Yn ystod yr achos fe gyfaddefodd El Gafari ei fod wedi dwyn y fan a lladd Mr Lang, ond roedd yn gwadu ei lofruddio.

Fe blediodd yn euog hefyd i gyhuddiad o ddwyn ond yn ddieuog i'r cyhuddiad mwy difrifol o ladrata (robbery).

Ond fe wrthododd yr erlyniad a derbyn y ddau ble yna gan fwrw ymlaen â'r achos yn ei erbyn ar y cyhuddiadau mwy difrifol.

Ar ôl trafod ers tua 10:30 fore Iau fe ddychwelodd y rheithgor i'r llys yng Nghaerdydd ychydig cyn 16:00 a chyhoeddi bod El Gifari yn euog o lofruddio Mr Lang, ac o ladrata'r fan.

'Wnaethoch chi ddim gwyro modfedd'

Roedd teulu Mr Lang yn y llys bob dydd ers dechrau'r achos - ac maen nhw wedi bod yno yn gwylio lluniau o'r digwyddiad dro ar ôl tro.

Ar sawl achlysur roedden nhw yn eu dagrau yn yr oriel gyhoeddus.

Dywedodd y barnwr wrth y teulu eu bod wedi dangos dewrder drwy gydol yr achos.

Dywedodd wrth El Gifari ei fod "wedi cymryd mab oddi wrth ei fam, wedi gwneud gweddw o'i bartner o 23 mlynedd, wedi amddifadu ei ddwy ferch o'u tad, chwaer o'i brawd, a phlant ei bartner o ffigwr tad".

"Mae cymryd bywyd yn beth ofnadwy, nid yn unig oherwydd y bywyd sy'n cael ei dorri'n fyr, ond oherwydd yr holl fywydau eraill sy'n cael eu difrodi hefyd," meddai Mr Ustus Griffiths.

"Fe wnaethoch chi yrru'n uniongyrchol ato cyn gyflymed ag y gallech chi. Wnaethoch chi ddim gwyro modfedd pan wnaethoch chi ei daro.

"Roeddech chi'n benderfynol o ddianc gyda'i fan a'i chynnwys, waeth be bynnag ddaw.

"Roedd y parseli yn y cefn werth dros £4,200. Fe wnaethoch chi ddefnyddio'r fan fel arf."

Gosododd ddedfryd o garchar am oes am lofruddiaeth, a bydd yn rhaid iddo aros yno am o leiaf 32 mlynedd cyn y bydd modd ei ystyried ar gyfer parôl.

Pynciau cysylltiedig