Dyn yn euog o lofruddio drwy lusgo gyrrwr fan dan gerbyd

  • Cyhoeddwyd
Christopher El GifariFfynhonnell y llun, Heddlu De Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Bydd Christopher El Gifari yn cael ei ddedfrydu fis nesaf

Mae dyn o Aberdâr wnaeth ddwyn fan cludo parseli yng Nghaerdydd ac yna lladd y gyrrwr drwy yrru drosto, wedi ei gael yn euog o lofruddiaeth ac o ladrata.

Roedd Mark Lang o Gyn-coed, 54, yn dosbarthu parseli pan gafodd ei ladd fis Mawrth eleni.

Er bod y diffynydd, Christopher El Gifari, wedi cyfaddef dwyn y fan a lladd Mr Lang, gwadodd ei lofruddiaeth gan ddweud mai ceisio codi ofn oedd ei fwriad.

Ond cafwyd yn euog o'r cyhuddiadau fwy difrifol gan reithgor, a bydd yn cael ei ddedfrydu ddechrau Rhagfyr.

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Mark Lang yn yr ysbyty 18 diwrnod ar ôl caei ei daro gan ei fan ei hun a'i lusgo am hanner milltir

Clywodd y llys bod Mr Lang wedi bod yn dosbarthu parseli am 15 mlynedd a'i fod yn ddyn da.

Ar 28 Mawrth roedd yn dosbarthu parseli yn ardal Gabalfa Caerdydd.

Ar Laytonia Avenue fe neidiodd o'i fan am gyfnod byr i ddosbarthu parseli, gan adael yr allwedd yn y fan.

Roedd El Gifari yn yr ardal ar y pryd - roedd wedi'i wrthod rhag prynu sigaréts mewn siop gerllaw, oherwydd doedd ganddo ddim digon o arian.

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd El Gifari ei weld ar luniau camera cylch cyfyng yn mynd i mewn i'r fan

Yn ystod yr achos fe welodd y rheithgor luniau CCTV ohono ar y stryd yn sylwi ar fan Mark Lang.

Aeth at y cerbyd, a phan sylwodd bod yr allweddi ynddo, fe benderfynodd ei gyrru i ffwrdd ar gyflymder.

Roedd yn rhaid i El Gifari droi'r cerbyd rownd a gyrru i'r cyfeiriad arall, ac fe yrrodd yn syth at Mark Lang, oedd yn sefyll ynghanol y ffordd yn gwisgo siaced lachar.

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Mark Lang ei daro ar Ffordd y Gogledd - un o'r prif ffyrdd i mewn ac allan o ganol y ddinas

Yn ystod yr achos roedd El Gifari yn dadlau mai ceisio codi ofn ar Mr Lang oedd ei fwriad, gan gredu y byddai'n symud o'r ffordd pan ddaeth y fan ato.

Fe gafodd Mr Lang ei daro nes ei fod yn cwympo, a'i lusgo o dan olwynion y fan.

Gyrrodd El Gifari y fan mewn i Ffordd y Gogledd - un o'r prif ffyrdd mewn i ganol Caerdydd, gan yrru am hanner milltir gyda Mr Lang wedi'i ddal yn gaeth o dan y cerbyd.

Yn y pen draw, fe stopiodd ger Ysgol Uwchradd Cathays a rhedeg i ffwrdd.

Pan gyrhaeddodd y gwasanaethau brys, fe geision nhw adfywio Mr Lang cyn ei gludo i'r Ysbyty Athrofaol gerllaw, ond bu farw 18 diwrnod yn ddiweddarach.

'Un cam yn y broses o alaru i'r teulu'

Yn ystod yr achos fe gyfaddefodd El Gafari ei fod wedi dwyn y fan a lladd Mr Lang, ond roedd yn gwadu ei lofruddio.

Fe blediodd yn euog hefyd i gyhuddiad o ddwyn ond yn ddieuog i'r cyhuddiad mwy difrifol o ladrata (robbery).

Disgrifiad o’r llun,

Roedd Christopher El Gifari wedi pledio'n euog i ddynladdiad

Ond fe wrthododd yr erlyniad a derbyn y ddau ble yna gan fwrw ymlaen â'r achos yn ei erbyn ar y cyhuddiadau mwy difrifol.

Ar ôl trafod ers tua 10:30 fore Iau fe ddychwelodd y rheithgor i'r llys yng Nghaerdydd ychydig cyn 16:00 a chyhoeddi bod El Gifari yn euog o lofruddio Mr Lang, ac o ladrata'r fan.

Roedd teulu Mr Lang yn y llys bob dydd ers dechrau'r achos - ac maen nhw wedi bod yno yn gwylio lluniau o'r digwyddiad dro ar ôl tro.

Ar sawl achlysur roedden nhw yn eu dagrau yn yr oriel gyhoeddus.

Dywedodd llefarydd ar eu rhan bod y ddau ddyfarniad heddiw yn un cam yn y broses o alaru - ar ol colli gŵr, tad a brawd wyth mis yn ôl.

Pynciau cysylltiedig