'Rhai plant methu â fforddio citiau chwaraeon'
- Cyhoeddwyd
![cit](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/17892/production/_131920469_231ce29b-777e-4dc1-bdf1-daa285d534d0.jpg)
Mae rhai disgyblion methu â chwarae i glybiau oherwydd y gost, medd arolwg
Mae yna alw am gefnogaeth i helpu plant sydd methu â fforddio citiau chwaraeon.
Yn ôl hyfforddwyr ac athrawon, mae mwy yn penderfynu peidio mynd i glybiau chwaraeon oherwydd y gost.
Maen nhw hefyd yn gweld effaith diffyg bwyd maethlon ar berfformiad plant gyda nifer yn methu perfformio cystal ag y gallent ar y cae chwarae.
Yn ôl elusen Sported UK, mae 95% o glybiau yng Nghymru yn poeni am eu dyfodol oherwydd costau cynyddol - y ffigwr uchaf o blith gwledydd y Deyrnas Unedig.
Dywed Llywodraeth Cymru bod darparu prydau ysgol am ddim a grant penodol i deuluoedd difreintiedig fforddio cit chwaraeon yn flaenoriaeth.
Cyn camu i'r cae mae angen cit penodol ac yn fuan mae chwaraeon i bobl ifanc yn gallu bod yn gostus.
![Mae nifer o blant heb yr esgidiau cywir, medd Jason Cooke, hyfforddwr Clwb Pêl-droed Pendyrus](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/15182/production/_131920468_de06-1.jpg)
Mae nifer o blant heb yr esgidiau cywir, medd Jason Cooke, hyfforddwr Clwb Pêl-droed Pendyrus
"Rydyn ni'n gweld plant yn dod i gemau, bydd ganddyn nhw trainers ymlaen oherwydd nad ydyn nhw'n gallu fforddio esgidiau iawn," meddai Jason Cooke, hyfforddwr Clwb Pêl-droed Pendyrus wrth siarad â Newyddion S4C.
"Mae yna lawer o blant talentog y dylai gael y cyfle i chwarae chwaraeon, ond dydyn nhw ddim oherwydd bod rhai o'r teuluoedd yn cael trafferth, hyd yn oed, i roi bwyd ar y bwrdd.
"Rydym yn gofyn i rieni ddweud wrthom ni os ydyn nhw'n cael trafferth ond does dim llawer yn gwneud oherwydd eu bod yn teimlo cywilydd."
Offer i rai campau yn ddrud
Yng nghanol yr argyfwng costau byw mae Ysgol Glantaf yng Nghaerdydd yn helpu rhai disgyblion ond mae'n dal i fod yn her.
"Ni'n weddol ffodus efallai oherwydd talgylch yr ysgol. Ond chi yn gweld bod rhai o'r disgyblion methu fforddio i fynychu clybiau," meddai Gwennan Harries, athrawes a sylwebydd pêl-droed.
"Mae offer i rai campau yn ddrud - so ni'n trio gweld lle ma 'na ddim cymaint o gostau [fel bod pob plentyn yn gallu] cymryd rhan.
"Ond i rai o'r gweithgareddau fel hoci, lle ma'r offer yn ddrud ac mae angen llwyth o offer - ma' hynny'n effeithio'n sylweddol ar faint sy'n cymryd rhan."
![Gwennan Harries](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/A944/production/_131923334_de28-1.jpg)
Dywed Gwennan Harries bod rhaid dewis yn ofalus pa gemau i chwarae fel bod pob disgybl yn gallu cymryd rhan
Dywed hefyd bod diffyg bwyd maethlon yn cael effaith gweledol ar berfformiad rhai yn y gwersi.
"I rai sydd efallai heb gael brecwast cywir, maen nhw methu canolbwyntio," meddai.
"Mae'n ddiwrnod hir i fod mewn pump gwers ac yn sicr wedyn os ma'n nhw yn gwneud gweithgaredd chwaraeon ar ben hynna - mae jyst gyda nhw ddiffyg egni i gymryd rhan."
Yn ôl clybiau ledled Prydain, maen nhw wedi gweld gostyngiad yn eu harian dros y chwe mis diwethaf gydag thraean ohonyn nhw ddim yn derbyn unrhyw gymorth gan y llywodraeth nac awdurdodau lleol.
![Owen Hathway o Ymddiriedolaeth Geraint Thomas](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/F764/production/_131923336_de44-1.jpg)
Dywed Owen Hathway o Ymddiriedolaeth Geraint Thomas bod prynu beicio yn "sgil bywyd"
Mae Ymddiriedolaeth Geraint Thomas wrthi'n ariannu prosiect i helpu pobl ifanc anabl, gofalwyr ifanc a'r rhai sy'n byw mewn ardaloedd difreintiedig.
"Mae'n sgil bywyd mynd ar feic. Nid yn unig mae e'n rhoi hyder i blant ac yn helpu eu ffitrwydd mae'n rhoi ffordd iddyn nhw deithio o un lle i'r llall i greu ffrindiau ac yn y blaen," meddai Owen Hathway, o Ymddiriedolaeth Geraint Thomas.
Yn ôl Llywodraeth Cymru mae darparu prydau ysgol am ddim - fel nad yw unrhyw blentyn yn llwglyd yn ystod y diwrnod ysgol yn flaenoriaeth iddyn nhw.
Yn ogystal, mae yna grant hanfodion ysgolion ar gael lle gall teuluoedd difreintiedig hawlio cymorth ariannol i brynu offer a chit chwaraeon.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Tachwedd 2023
- Cyhoeddwyd2 Tachwedd 2023
- Cyhoeddwyd10 Hydref 2023