Michael Duff: Diswyddo prif hyfforddwr Clwb Pêl-droed Abertawe
- Cyhoeddwyd

Mae Clwb Pêl-droed Abertawe wedi diswyddo eu prif hyfforddwr, Michael Duff, a hynny lai na chwe mis wedi iddo fod yn ei swydd.
Mae'r Elyrch yn 18fed yn nhabl y Bencampwriaeth ac ond wedi ennill unwaith yn ystod yr wyth gêm ddiwethaf.
Mae ei gynorthwy-ydd Martin Paterson hefyd wedi gadael ac fe fydd y cynorthwy-ydd arall Alan Sheehan yn brif hyfforddwr dros dro.
Fe fydd Sheehan yn dechrau ar ei waith dros dro yr wythnos hon wrth i Abertawe wynebu Rotherham, sydd yng ngwaelodion y tabl, oddi cartref.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Mehefin 2023
- Cyhoeddwyd21 Mehefin 2023