Abertawe'n penodi Michael Duff yn brif hyfforddwr
- Cyhoeddwyd

Mae Michael Duff wedi ei benodi'n brif hyfforddwr ar Glwb Pêl-droed Abertawe.
Mae cyn-amddiffynnwr Burnley a Gogledd Iwerddon, 45, wedi arwyddo cytundeb tair blynedd o hyd gyda'r Elyrch.
Mae'n cymryd yr awenau yn dilyn ymadawiad Russell Martin - sydd wedi symud i Southampton.
Roedd Duff wrth y llyw gyda Barnsley yn Adran 1, gan eu harwain i rownd derfynol y gemau ail-gyfle yn ei dymor cyntaf.
Fe wnaeth yr Elyrch orffen yn y 10fed safle yn y Bencampwriaeth y llynedd.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Mehefin 2023
- Cyhoeddwyd22 Mehefin 2023