Gweinidog yn 'ffyddiog' o wella canlyniadau profion Pisa
- Cyhoeddwyd
Mae Gweinidog Addysg Cymru yn "ffyddiog" y bydd canlyniadau profion addysgol yn gwella, wedi'r newyddion fod perfformiad Cymru wedi gostwng i'w lefel isaf erioed.
Mae profion rhyngwladol Pisa - sy'n cael eu sefyll gan ddisgyblion 15 oed mewn nifer o wledydd ar draws y byd - yn canolbwyntio ar safonau darllen, mathemateg a gwyddoniaeth.
Ond wrth gyhoeddi'r canlyniadau ddydd Mawrth, daeth i'r amlwg mai Cymru oedd â'r sgor isaf o holl wledydd y Deyrnas Unedig, a bod y gwahaniaeth rhyngom a gwledydd eraill y DU wedi cynyddu.
Mae'r gwrthbleidiau wedi codi pryderon am y canlyniadau.
Beth oedd y canlyniadau?
Roedd 81 gwlad wedi cynnal y profion yn 2022, sy'n cael eu gweld yn fesur pwysig o fewn systemau addysg ar draws y byd.
Cyfartaledd Cymru ar gyfer mathemateg oedd 466 - sydd yn is na'u sgôr o 487 yn 2018.
Mae'r gostyngiad o fewn mathemateg gyfystyr â blwyddyn lawn o addysg yn ôl yr OECD, sy'n rhedeg y profion.
Fe syrthiodd sgôr cyfartalog darllen Cymru o 483 i 466, ac o 488 i 473 o fewn gwyddoniaeth.
Yn ôl yr OECD roedd 'na "gwymp sylweddol" yng nghanlyniadau pob gwlad a gymrodd rhan yn y profion.
Mewn cyfweliad ar Dros Frecwast fore Mercher, dywedodd y gweinidog addysg, Jeremy Miles, fod y canlyniadau yng Nghymru wedi bod yn gwella cyn y pandemig Covid-19, ac roedd yn "ffyddiog y bydde nhw'n codi eto yn y dyfodol".
"Yr hyn sy'n bwysig nawr yw ein bod ni'n edrych y tu hwnt i'r penawdau, yn edrych ar y cyngor ehangach mae'r OECD yn rhoi, a parhau i weithio gyda nhw i sicrhau bod y ffigyrau yn codi," meddai Mr Miles.
"Mae'r ffigyrau yn heriol yn Pisa i Gymru, yn heriol i amryw o wledydd eraill, ma' effaith Covid wedi bod yn un sylweddol iawn.
"Mae gyda ni gyfres o ddiwygiadau rydyn ni wedi bod yn gweithio arnyn nhw dros y blynyddoedd, yn gweithio gyda'r OECD sydd y tu cefn i brofion Pisa er mwyn diwygio amryw o elfennau a mae hynny yn cynnwys cefnogi ein hathrawon ni.
"Does dim un system addysg yn debyg i un arall, mae'n bwysig ein bod ni'n dysgu wrth ein gilydd."
'Cyfle i ddysgu'
Er y canlyniadau siomedig, dywedodd: "Mae'r diwygiadau sydd gyda ni ar waith 'di bod yn cael eu cynllunio gydag athrawon a'r OECD ers blynyddoedd.
"Mae e'n demtastiwn i weld hyn fel cystadleuaeth rhwng gwledydd ond mae hefyd cyfle i bob un o'r 81 gwlad i ddysgu wrth lwyddiannau rhai o'r gweddill.
"Dyna'r dasg yn y cyfnod nesa', edrych ar y manylion y tu cefn i'r penawdau a dysgu'r gwersi ar draws yr 81 gwlad.
"Yr hyn sy'n bwysig nawr yw ein bod ni'n edrych y tu hwnt i'r penawdau, yn edrych ar y cyngor ehangach mae'r OECD yn rhoi a parhau i weithio gyda nhw i sicrhau bod y ffigyrau yn codi, roedden nhw'n nhw'n codi cyn Covid, ac rwy'n ffyddiog y bydde nhw'n codi eto yn y dyfodol."
Mae'r Ceidwadwyr wedi dweud nad yw'r canlyniadau'n sioc oherwydd y "diffyg ystyriaeth" sydd gan y llywodraeth dros blant wrth dorri'r gyllideb addysg eleni.
Dywedodd Plaid Cymru bod y canlyniadau'n "siomedig" ac yn achos pryder.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Rhagfyr 2023