Canlyniadau profion Pisa gwaethaf erioed i blant Cymru

  • Cyhoeddwyd
Pynciau Cysylltiedig
Mae disgyblion Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Myrddin am y profion Pisa yn amrywiol
Disgrifiad o’r llun,

Mae barn disgyblion Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Myrddin am y profion Pisa yn amrywiol

Mae perfformiad Cymru wedi gostwng i'w lefel isaf erioed mewn profion rhyngwladol sy'n cael eu sefyll gan ddisgyblion 15 oed.

Sgôr Cymru ym mhrofion Pisa - sy'n canolbwyntio ar ddarllen, mathemateg a gwyddoniaeth - ydy'r isaf o holl wledydd y Deyrnas Unedig.

Mae'r gwahaniaeth rhwng Cymru a'r gwledydd hynny wedi cynyddu.

Dywedodd Gweinidog Addysg Cymru bod y pandemig wedi amharu ar y cynnydd oedd wedi ei weld mewn llythrennedd a rhifedd.

Ychwanegodd Jeremy Miles bod yna gynlluniau wedi eu gweithredu gan Lywodraeth Cymru i godi safonau.

Roedd 81 gwlad wedi cynnal y profion yn 2022, sy'n cael eu gweld yn fesur pwysig o fewn systemau addysg ar draws y byd.

Cyfartaledd Cymru ar gyfer mathemateg oedd 466 - sydd yn is na'u sgôr o 487 yn 2018.

Mae'r gostyngiad o fewn mathemateg gyfystyr â blwyddyn lawn o addysg yn ôl yr OECD, sy'n rhedeg y profion.

Fe syrthiodd sgôr cyfartalog darllen Cymru o 483 i 466, ac o 488 i 473 o fewn gwyddoniaeth.

'Cwymp sylweddol' i bob gwlad

Yn ôl yr OECD roedd 'na "gwymp sylweddol" yng nghanlyniadau pob gwlad a gymrodd rhan yn y profion.

Mae'r profion yn cael eu cynnal pob tair blynedd fel arfer, ond fe gafodd profion 2021 eu gohirio oherwydd y pandemig.

Mae'r profion yn profi gwybodaeth allweddol a sgiliau disgyblion sydd ar fin dod i ddiwedd eu cyfnod statudol yn yr ysgol.

Er bod sgôr 2022 pob gwlad yn y DU yn is, Cymru oedd â'r canlyniadau gwaethaf.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Erin a Sioned yn credu bod y pandemig wedi cael effaith ar eu haddysg

Dywedodd Andreas Schleicher o'r OEDC, sy'n gyfrifol am y profion Pisa, fod y canlyniadau yn "ddigon i gnoi cil i wneuthurwr polisi o ran beth i'w wneud yn wahanol".

"Nid yn unig mai Cymru yw'r wlad sydd â'r sgôr isaf yn y DU ond hefyd Cymru yw'r wlad sy' â'r gostyngiad mwyaf," meddai Mr Schleicher.

Canlyniadau Lloegr sydd wedi dal eu tir gorau o ran gwledydd y Deyrnas Unedig.

Yn ôl Mr Schleicher mae Cymru i'w gymharu â gwledydd fel Malta yn hytrach na'r gwledydd sydd â systemau addysg sy'n perfformio orau.

Targed Llywodraeth Cymru yw cyrraedd sgôr o o leiaf 500 yn adrannau darllen, gwyddoniaeth a mathemateg.

Ymateb Llywodraeth Cymru

Yn ôl Llywodraeth Cymru fe fydd "ffocws cenedlaethol ar ddarllen, mathemateg a gwyddoniaeth" yn cael ei adnewyddu.

"Rydyn ni eisoes wedi dechrau codi safonau mewn darllen a mathemateg, a wnawn ni ddim gadael i'r canlyniadau hyn ein bwrw oddi ar ein hechel," meddai Jeremy Miles.

Dywedodd bod diwygiadau hir dymor fel y cwricwlwm newydd i Gymru wrthi'n cael eu cyflwyno.

"Rydyn ni wedi cymryd y cyfle sy'n codi 'unwaith mewn cenhedlaeth' i chwyldroi ansawdd addysg yng Nghymru ac rwy'n hyderus y bydd hyn yn arwain at fanteision enfawr i'n pobl ifanc," meddai.

Fe wnaeth canlyniadau ostwng mewn un neu fyw o'r pynciau yn y rhan fwyaf o'r gwledydd gymerodd rhan yn Pisa ond rhybuddiodd Andreas Schleicher yn erbyn rhoi gormod o fai ar y pandemig.

"Fe wnaeth gwledydd gadwodd eu hysgolion ar agor yn hirach yn well yn gyffredinol", ond doedd hynny ddim yn wir ym mhob achos meddai.

Dywedodd bod gan "ffactorau strwythurol" ddylanwad oedd yn golygu nad oedd hi'n bosib dweud "'mae Covid drosodd a bydd canlyniadau'n bownsio nôl' - dydw i ddim yn meddwl mai dyna beth welwn ni".

Beth oedd yn y profion?

Cafodd y profion eu gwneud gan 2,568 o ddysgwyr mewn 89 ysgol yng Nghymru.

Fe wnaeth bechgyn berfformio yn well na merched ym mathemateg ond merched oedd orau yn darllen.

Wrth ateb cwestiynau am ba mor fodlon oedden nhw gyda bywyd, roedd yr ymatebion ychydig yn is na'r cyfartaledd ar draws gwledydd yr OECD ond yn debyg i weddill y Deyrnas Unedig.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Er yr oedd disgwyl i'r canlyniadau fod yn is yn ôl arweinwyr addysg, pa mor allweddol yw'r profion fel llinyn mesur?

Mae Cymru Fyw wedi bod yn holi yn Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Myrddin, Caerfyrddin.

Mae hi'n flwyddyn gyfan ers i rai o ddisgyblion Bro Myrddin sefyll prawf Pisa ac ers hynny maen nhw wedi sefyll eu harholiadau TGAU ac wedi dechrau ar gam nesaf eu haddysg.

Ond maen nhw'n dal i gofio'r cynnwys, a'r ffaith fod y cwestiynau yn wahanol i ffug arholiadau TGAU a gafodd eu cynnal yr wythnos ganlynol.

"O'n i'n mwynhau e, roedd e'n eitha' dda," medd Tomos, 17.

Roedd y prawf yn ddwy awr o hyd, ac yn profi rhifedd, gwyddoniaeth a llythrennedd y disgyblion yn Saesneg ac yn Gymraeg.

"Roedd e mwy fel o'n nhw'n rhoi gwybodaeth am sefyllfaoedd pob dydd."

Disgrifiad o’r llun,

Roedd Tomos a Morgan wedi "mwynhau'r profion" ac yn dweud eu bod yn berthnasol i sefyllfaoedd bob dydd

Roedd hynny, meddai, yn wahanol i TGAU "ble o'n nhw'n rhoi gwybodaeth i chi ddysgu, a byddai cwestiynau yn seiliedig ar hynny... ar bethau chi'n 'neud bob dydd".

Yn ôl Morgan, 16, doedd y disgyblion ddim wedi paratoi yn arbennig ar gyfer y profion "oherwydd fod e fel prawf TGAU".

"A dylen ni fod wedi dechrau adolygu am TGAU ar yr amser pryd o'n ni 'di 'neud e - so bod e ynghlwm gyda prawf Pisa.

"Roedd rhan fwyaf o'r cwestiynau fel 'darllenwch hwn' a 'tanlinellwch be sy'n anghywir'. Roedden nhw fel cwestiynau TGAU."

'Ffordd dda i fesur safonau'

Ond er iddyn nhw beidio paratoi yn benodol, roedd Erin, sy'n 16, yn meddwl fod y cwestiynau yn ffon fesur dda i asesu safonau yng Nghymru.

"Fi'n credu achos roedd e'n cynnwys iaith, a mathemateg, a gwyddoniaeth mae lot o sgiliau gwahanol mae'n rhaid i chi ddefnyddio - so eitha' da i fesur dwi'n credu."

I Sioned, sy'n 16 ac yn dal i astudio mathemateg ar gyfer Safon Uwch "roedd e yn bach o sialens, achos roedd e mwy 'applied' maths a 'applied' darllen ond yn ysgol ni jyst yn dysgu 'standard' maths".

Jonathan Thomas ydy dirprwy bennaeth yr ysgol ac mae e'n dweud bod tebygrwydd rhwng y ddau brawf.

"Mae'r cynnwys yn y cwestiynau o ran y gwaith yn debyg ond mae profion Pisa yn fwy i wneud gyda chymhwyso gwybodaeth i sefyllfaoedd gwahanol - lle mae TGAU yn canolbwyntio ar wybodaeth a dadansoddi falle."

Cafodd y profion eu cynnal ar ôl iddyn nhw gael eu gohirio am flwyddyn oherwydd Covid-19.

Bydd llawer yn edrych ar y cyhoeddiad er mwyn gweld sut mae'r system addysg yng Nghymru wedi ymdopi gyda'r pandemig.

Yn y rownd ddiwethaf o ganlyniadau yn 2019, roedd yna rywfaint o welliant yng nghanlyniadau Cymru.

Ond roedden nhw dal yn is na chenhedloedd eraill y DU a chyfartaledd gwledydd y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD).

China, Singapore ac Estonia oedd ar frig y tabl.

'Colli mas ar lot o sgiliau sylfaenol'

Roedd y pedwar ym Mlwyddyn 8 pan ddaeth y cyfnod clo cyntaf ac maen nhw'n cytuno bod effaith Covid yn parhau ar eu haddysg.

Yn ôl Sioned "so ni heb misso lot ond ni wedi colli mas ar lot o sgiliau sylfaenol yn maths, Saesneg, Cymraeg a gwyddoniaeth. So mae wedi tynnu ni nôl bach."

Mae Erin yn cytuno. "Fi'n cofio gorfod mynd drosto lot o sgiliau sylfaenol bydden i wedi dysgu yn yr amser oedd y pandemig," meddai.

Disgrifiad o’r llun,

Dywed dirprwy bennaeth yr ysgol, Jonathan Thomas, ei bod yn gyfnod o newid mawr i ysgolion ar hyn o bryd

Dyw Jonathan Thomas ddim yn credu y dylid brysio i newid y drefn os ydy'r canlyniadau yn wael yng Nghymru.

"Mae e'n gyfnod o newid mawr ym myd addysg ar hyn o bryd ta beth gyda cwricwlwm newydd yn sefydlu ar draws yr ystod oedran," meddai.

"Felly mae 'na lot o newidiadau yn digwydd ar hyn o bryd sydd eisiau amser i wreiddio.

"Mae natur y cwricwlwm newydd 'falle yn mynd i fod o blaid, neu o gymorth i ganlyniadau Pisa yn y dyfodol, ond wrth gwrs mae eisiau amser i hwnna i sefydlu a dwyn ffrwyth gyda'r disgyblion sy'n mynd drwy'r system nawr."