Gove yn gwadu cadw Llywodraeth Cymru allan o drafodaethau Covid
- Cyhoeddwyd

Roedd rôl Michael Gove yn cynnwys cydgysylltu ar draws adrannau Llywodraeth y DU a gwledydd datganoledig y DU
Mae un o uwch-weinidogion Llywodraeth y DU wedi gwadu bod y gweinyddiaethau datganoledig wedi'u cadw allan o drafodaethau yn ystod cyfnod hollbwysig o'r pandemig.
Roedd Michael Gove yn siarad yn ymchwiliad cyhoeddus y DU.
Honnodd Mr Gove y bu lefel "dda" o ymgysylltu â Llywodraeth Cymru, ond nid y lefel o ragweladwyedd a fynnir gan y Prif Weinidog Mark Drakeford.
Dywedodd y bu "lleihad ond nid stop" ar gyswllt rheolaidd rhwng Mai a Hydref 2020.
Roedd rôl Mr Gove fel Canghellor Dugiaeth Caerhirfryn yn cynnwys cydgysylltu ar draws adrannau Llywodraeth y DU a gwledydd datganoledig y DU.

Roedd gan Gymru reolau ei hun yn ystod y pandemig, oedd yn cael eu penderfynu gan Lywodraeth Cymru
Awgrymodd Cwnsler i'r Ymchwiliad, Hugo Keith KC, i Mr Gove ei bod wedi cymryd cryn dipyn o amser i sefydlu system gyswllt reolaidd.
Dywedodd Mr Keith wrth Mr Gove fod bwlch rhwng Mai a Hydref 2020 pan gafodd y gweinyddiaethau datganoledig eu cadw allan o drafodaethau "i raddau helaeth iawn".
"Na," atebodd Mr Gove.
"Cafwyd galwadau rheolaidd o amrywiaeth o fathau gyda fy swyddogion a swyddogion y gweinyddiaethau datganoledig... ystod o fecanweithiau i sicrhau bod y gweinyddiaethau datganoledig... yn rhan o'n sgyrsiau eang."
Ymatebodd Mr Keith gan ddyfynnu datganiad Mr Gove ei hun na wahoddwyd y prif weinidogion i Covid-O (corff gwneud penderfyniadau pandemig allweddol) ar sail sefydlog tan fis Hydref.
"A oedd bwlch rhwng mis Mai a diwedd yr hydref pan na chafodd y gweinyddiaethau datganoledig ar y lefel wleidyddol hon yr un lefel o fynediad i Lywodraeth y DU ag oedd ganddynt hyd yn hyn ac wedi hynny?," gofynnodd Mr Keith.
"Rwy'n meddwl bod lleihad, ond nid stop," atebodd Mr Gove.

Arweiniodd y Prif Weinidog Mark Drakeford ymateb Cymru i'r pandemig
Gwnaeth Prif Weinidog Cymru alwadau dro ar ôl tro am "rhythm ymgysylltu rhagweladwy" yn ystod y pandemig.
Dywedodd wrth yr ymchwiliad yn gynharach eleni: "Yr hyn nad oedd ganddyn nhw oedd sail systematig ar gyfer ymgysylltu a dyma fy nghwyn ers tro byd am gysylltiadau rhynglywodraethol yn y DU.
"Maen nhw'n dibynnu'n llawer rhy aml ar barodrwydd unigolion i weithio yn y ffordd honno, a'r hyn sydd ei angen arnoch chi yw system gadarn o beirianwaith llywodraethu sy'n dod â phobl at y bwrdd ar gyfer diddordebau cyffredin, p'un a ydynt am wneud hynny ai peidio."
Dywedodd Mr Gove yn ei farn ef fod Llywodraeth y DU wedi elwa o ddod â'r gweinyddiaethau datganoledig i mewn i drafodaethau cyn gynted â phosib.
Roedd yn anghytuno bod y gwledydd datganoledig yn cael gwybod am benderfyniadau a wnaed gan Lywodraeth y DU yn hytrach na bod yn rhan o wneud penderfyniadau.
Cyflwynwyd rheoliadau Covid o dan ddeddfwriaeth iechyd y cyhoedd, a oedd yn golygu bod Llywodraeth Cymru wedi cymryd cyfrifoldeb am wneud penderfyniadau yng Nghymru ar ôl y cyfyngiadau symud cychwynnol ledled y DU ym mis Mawrth 2020.
'Ydy'r setliad datganoli yn gweithio?'
Arweiniodd at broblemau ynghylch llunio polisi iechyd cyhoeddus yng Nghymru ond penderfyniadau ariannol yn cael eu rheoli gan y Trysorlys yn San Steffan.
Cwynodd Mark Drakeford ym mis Tachwedd 2020 pan wrthododd y Trysorlys ymestyn y cynllun ffyrlo i gwmpasu cyfyngiadau dros dro Cymru.
Dywedodd Mr Gove: "Roedd y broblem yn syml. Roedd y gweinyddiaethau datganoledig, yn ddealladwy, eisiau mwy o arian.
"Y sefyllfa oedd eu bod nhw - bod y Deyrnas Unedig gyfan - wedi cael ymateb hael gan y Canghellor.
"Yn y pen draw os mai'r cwestiwn yw 'ydy'r setliad datganoli yn gweithio?' yna ydy, oherwydd bod y sail y mae'r Trysorlys yn ariannu gwahanol rannau'r Deyrnas Unedig arni yn deg."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Tachwedd 2023
- Cyhoeddwyd1 Tachwedd 2022
- Cyhoeddwyd30 Tachwedd 2022
- Cyhoeddwyd4 Hydref 2022