Arbenigwyr Covid 'bron yr un mor anwybodus â ni'
- Cyhoeddwyd
Mae menyw a gollodd ei mam i Covid yn dweud fod tystiolaeth arbenigwyr i ymchwiliad Covid y DU yn dangos eu bod "bron yr un mor anwybodus â ni" am y pandemig.
Mae ymchwiliad Covid y Deyrnas Unedig yn mynd yn ei flaen yn Llundain ar hyn o bryd.
Ymhlith y rhai a fu'n rhoi tystiolaeth yr wythnos hon oedd rhai o'r swyddogion a fu'n wynebau cyfarwydd yn y cynadleddau newyddion dyddiol yn Downing Street.
Y rheiny oedd prif swyddog meddygol Lloegr, Syr Chris Whitty, a phrif ymgynghorydd gwyddonol Llywodraeth Prydain ar y pryd, Syr Patrick Vallance.
Mae Bethan Mair, a gollodd ei mam - Dorothy Hughes o Bontarddulais - gyda Covid yn ystod y pandemig, yn credu bod eu tystiolaeth yn dangos faint o ansicrwydd oedd o fewn y llywodraeth.
Dywedodd ar raglen Bore Sul Radio Cymru mai "o hyd braich" mae hi wedi bod yn dilyn mwyafrif yr ymchwiliad, a hynny am fod "yr holl beth dal yn eitha' trawmatig".
"Mae'r wythnos yma wedi bod yn eitha' anodd a dweud y gwir, achos chi'n sylweddoli doedd y llaw chwith ddim yn gwybod beth oedd y llaw dde yn gwneud o'r dechrau'r deg," meddai.
"Dwi'n meddwl bod y mantra 'na o 'follow the science', oedd yn un o catchphrases Boris Johnson, wedi cael ei ddangos i fod ddim yn wir.
"Doedden nhw ddim yn gwybod beth oedden nhw'n dilyn, heb sôn am ddweud bo' nhw'n dilyn y wyddoniaeth, achos o'dd neb wir yn gwybod ar y pryd beth oedd dilyn gwyddoniaeth yn meddwl."
'Hollol amharod'
Ychwanegodd: "Mae'n glir iawn bod gan Patrick Vallance a Chris Whitty farn wahanol i'w gilydd.
"Pan ni'n cofio 'nôl i weld y tri ohonyn nhw - Whitty, Boris Johnson a Vallance - yn siarad wrth y pulpudau, ni'n gwybod bo' nhw bron yr un mor anwybodus â ni ynglŷn â sut oedd pethau'n mynd i ddigwydd.
"Oedden nhw mewn sefyllfa hollol newydd i bawb."
Ychwanegodd ei bod yn cydnabod fod y sefyllfa yn un ddigynsail, "ond mae wedi dod i'r amlwg bod y wladwriaeth yn hollol amharod ar gyfer beth oedd yn digwydd", meddai.
Bydd rhai o wleidyddion y llywodraeth yn San Steffan yn ymddangos o flaen yr ymchwiliad yr wythnos nesaf, gan gynnwys cyn-ysgrifennydd iechyd Llywodraeth y DU, Matt Hancock, a'r cyn-ddirprwy brif weinidog, Dominic Raab.
Dywedodd Bethan Mair mai'r hyn mae hi'n gobeithio amdano ganddyn nhw, yn syml, yw "gwirionedd".
"Dydw i ddim yn obeithiol iawn, ond un o'r pethau sydd wedi bod yn ffres am yr ymchwiliad yma yw bod pobl wedi bod yn gymharol ddi-flewyn-ar-dafod," meddai.
"Ni mor gyfarwydd â gwleidyddion yn ateb cwestiwn trwy ateb cwestiwn arall maen nhw moyn ei ateb, yn hytrach na'r cwestiwn sydd wedi cael ei osod.
"Dwi'n gobeithio y byddan nhw'n dweud y gwir, dwi'n gobeithio y byddan nhw'n ymddiheuro, a dwi'n gobeithio y byddan nhw'n straight gyda'r cyhoedd."
Ar raglen Politics Wales dywedodd yr Athro Laura McAllister ei bod hi'n parhau'n bryderus nad oes ymchwiliad Covid penodol i Gymru.
Roedd hynny'n un o'r pynciau a godwyd gan yr Athro McAllister yn narlith flynyddol Yr Archif Wleidyddol Gymreig yr wythnos hon, oedd yn dwyn y teitl 'Synnwyr nid swnian: ffordd ymlaen i Gymru well'.
"Dwi ddim yn gallu deall unrhyw reswm pam 'da ni ddim yn cael inquiry Covid yma yng Nghymru, achos mae pawb yn gwybod mai Llywodraeth Cymru sydd â chyfrifoldeb am iechyd," meddai.
"Mae pawb yn gweld Mark Drakeford a Vaughan Gething yn sefyll lan ac yn siarad am y gweithgareddau maen nhw’n 'neud yn ystod y pandemig, ond ar y llaw arall, does ddim cyfle o gwbl nawr i weld sut fath o bethau sydd wedi gweithio’n dda, a beth sydd ddim wedi gweithio yn y ffordd maen nhw’n bwriadu.
"Dwi ddim wedi clywed unrhyw fath o rationale cryf yn erbyn cael inquiry yma yng Nghymru, a dyna’r rheswm wnes i godi hyn yn y ddarlith, a hefyd jyst i ddangos bod y berthynas rhwng pobl a gwleidyddion yn fregus iawn."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Tachwedd 2023
- Cyhoeddwyd9 Mehefin 2023
- Cyhoeddwyd18 Gorffennaf 2023