'Pethau angen newid' i bobl anabl ar nosweithiau allan

  • Cyhoeddwyd
Cerys (canol) a'i ffrindiauFfynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Mae Cerys (canol) yn byw gyda chyflwr sy'n effeithio ar ei chyhyrau

Gyda chyfnod y partïon Nadolig wedi hen ddechrau, mae menyw ifanc o Gaerdydd yn dweud bod angen bod yn fwy ymwybodol o brofiadau pobl anabl.

Yn ôl arolwg diweddar mae dau o bob tri pherson anabl yn y Deyrnas Unedig wedi cael trafferth cael mynediad i dafarndai, bariau, bwytai a chaffis.

Yn ôl Anabledd Cymru, sy'n cynrychioli sefydliadau pobl anabl, mae "pethau angen newid".

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod wedi sefydlu Tasglu Hawliau Anabledd er mwyn "helpu i gael gwared ar, neu leihau unrhyw rwystrau sy'n cyfyngu ar fywydau pobl anabl yng Nghymru".

'Ddim yn hygyrch o gwbl'

Mae Cerys Davage yn 22 oed ac yn byw gyda chyflwr limb-girdle muscular dystrophy type 2I.

Gyda'r cyflwr yn effeithio ar ei chyhyrau, mae'n dweud fod noson allan yn gallu bod yn brofiad "anodd".

Dydy Cerys ddim yn defnyddio cadair olwyn ar hyn o bryd, ond oherwydd natur ei anabledd mae'n bosib y bydd angen cadair olwyn arni yn y dyfodol.

"Sai'n meddwl bod lot o bobl yn sylwi bod noson allan i rywun anabl fel fi yn cymryd lan lot o egni corfforol, a gan bod gen i ond hyn a hyn o egni drwy'r dydd, ma' noson allan yn gallu cael lot allan ohona i," meddai.

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Mae Cerys (ail o'r chwith) yn dweud fod noson allan yn gallu bod yn brofiad anodd iddi

Er bod y Ddeddf Gwahaniaethu ar Sail Anabledd a'r Ddeddf Cydraddoldeb yn nodi'r angen i fusnesau wneud "addasiadau rhesymol" i sicrhau fod pobl anabl yn medru cael mynediad i'w gwasanaethau, does dim rhaid i bob lleoliad fod yn hollol hygyrch.

Yn ôl Cerys, dydy'r "rhan fwyaf o dafarndai a bariau ddim yn hygyrch o gwbl".

"Ma' 'na wastad rhyw fath o step i fynd mewn i'r clwb neu'r bar, a ma' hefyd wastad rhyw fath o set o risiau i fynd mewn i'r toiledau neu i fynd i ail lawr," meddai.

"Ond, ma' 'na lot o bobl sydd ddim yn gallu 'neud y grisiau o gwbl, a dwi ddim wedi gweld un person allan gyda chadair olwyn, sydd just yn dangos bod llefydd ddim yn barod i groesawu hynny a ddim yn ddigon hygyrch er mwyn i bobl gyda chadair olwyn fynd allan a chymdeithasu."

Galw am hyfforddiant

Mae ffigyrau diweddar gan Lywodraeth y DU yn dangos bod 66% o bobl anabl wedi methu, neu wedi cael anhawster mawr, wrth geisio cael mynediad i dafarndai, bariau, bwytai a chaffis.

Mae dros 40% hefyd wedi profi'r un anhawster wrth geisio cael mynediad i glybiau nos.

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Elin Williams bod angen "herio'r stereoteipiau" bod pobl anabl ddim yn cael nosweithiau allan

Yn ôl Elin Williams o Anabledd Cymru, "ma' pethau angen newid".

"Ma' mor bwysig bod lleoliadau, bod busnesau, yn cael hyfforddiant cydraddoldeb anabledd i wybod pa fath o rwystrau ma' pobl anabl yn wynebu a sut gallan nhw ddileu y rhwystrau yna," meddai.

Yn ôl Elin, "ma' 'na gymaint o gamsyniadau allan yna am y ffordd ma' pobl anabl yn byw eu bywydau, a ma' 'na'r grediniaeth bod pobl anabl ddim yn mynd allan ar ôl ryw amser penodol, felly mae o mor bwysig bod ni'n gweithio i herio'r stereoteipiau yna".

Gyda'r Nadolig yn gyfnod o ddathliadau a phartïon, mae Cerys am i bobl "sicrhau bod unrhyw gynlluniau parti yn siwtio" anghenion pawb.

"Byse just cael lifts neu bouncers sydd yn fwy ymwybodol o beth i 'neud yn 'neud byd o wahaniaeth i bobl anabl," meddai.

Pynciau cysylltiedig