Cysur o rannu profiadau anabledd cudd ar-lein

  • Cyhoeddwyd
Bethany, Elin ac AnnaFfynhonnell y llun, Lluniau cyfranwyr
Disgrifiad o’r llun,

Mae gan Bethany, Elin ac Anna anableddau cudd ac mae'r dair yn defnyddio'r cyfryngau cymdeithasol i'w helpu

Mae pobl sydd ag anableddau cudd yn dweud bod cyfryngau cymdeithasol yn eu helpu nhw i godi ymwybyddiaeth a theimlo'n llai unig.

Cafodd Anna Cooper, 30, o Wrecsam, ddiagnosis o endometriosis 11 mlynedd yn ôl.

Yn ôl Anna, fe ddechreuodd rannu ei stori ar Instagram ar ôl i ddiffyg gwybodaeth gan ddoctoriaid ei gadael heb atebion.

Dim ond nawr, "ar ôl gweiddi amdano" meddai, y mae wedi cael cefnogaeth iechyd meddwl.

"Mae hi braidd yn frawychus weithiau, rhannu eich enaid ar-lein. Ond mae'n helpu pobl i deimlo rhyw fath o gysur," meddai Anna, sy'n byw gyda'i gŵr Scott a'u merch Grace, sy'n 7 oed.

"Roedd y doctoriaid wastad yn gwneud i fi deimlo fel fy mod i'n gorymateb, a bod y symptomau jest yn rhan o fod yn fenyw ac yn rhan o gael mislif."

Mae Anna wedi cael 16 o driniaethau llawfeddygol gwahanol, sydd yn golygu bod ganddi ddau stoma a chathetr.

Nid pawb sydd â chyflyrau iechyd hirdymor neu stomas yn cael eu hystyried yn anabl yn gyfreithiol o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010.

Ffynhonnell y llun, Anna Cooper
Disgrifiad o’r llun,

Fe gafodd Anna feichiogrwydd anodd ac fe waethygodd poen yr endometriosis wedi'r enedigaeth

Yn dilyn beichiogrwydd anodd iawn, cafodd Anna ei ferch pan oedd hi'n 22 oed.

"Roeddwn i'n teimlo'n hynod ddiolchgar a lwcus, ond ni ddaeth heb ei heriau," meddai.

"Roeddwn wedi cael gwybod yn gyson y byddai'n llawer gwell unwaith y byddwn yn cael babi, byddai'r endometriosis yn diflannu, ond nid yw hynny'n wir.

"I fi mae wedi gwaethygu."

'Gweiddi am gefnogaeth'

Er y problemau iechyd corfforol, mae Anna'n dweud mai'r rhwystr mwyaf y mae hi wedi'i wynebu yw diffyg cefnogaeth iechyd meddwl.

"Dim ond nawr dwi erioed wedi cael cynnig cymorth iechyd meddwl. Dim ond o weiddi amdano mae hynny.

"Dwi'n meddwl mai dyna wnaeth wneud i mi droi at gyfryngau cymdeithasol. Mae cymaint o bobl yn yr un sefyllfa â fi.

"Rhywle trwy ein bywyd rydyn ni gyd yn mynd trwy rhywbeth tebyg, a dwi'n meddwl mai'r rhan fwyaf o hynny yw bod rhai yn y maes meddygol ddim yn ein credu ni."

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Mae Anna wedi cael sawl llawdriniaeth ac wedi dioddef symptomau endometriosis ers yn 14 oed

Mae Anna bellach wedi creu cymuned o dros 13,000 o ddilynwyr ar-lein ac mae'n gyd-sylfaenydd yr elusen Menstrual Health Project.

"Trodd fy Instagram yn fwy o ddyddiadur, gan rannu'r effaith arna i.

"Rwy'n gwybod bod cymaint o gyfrifon eraill ar-lein wedi fy helpu i deimlo'n llai unig."

Ychwanegodd y gall diagnosis o anabledd cudd fod yn brofiad ynysig i lawer, gyda rhai yn colli ffrindiau ar hyd y ffordd.

Trwy ei gwaith elusennol, mae Anna wedi ymweld â'r Senedd ac mae'n gobeithio gwneud addysg ar iechyd y mislif yn fwy eang.

"Mae gen i ferch. Dydw i ddim eisiau iddi hi ddioddef y ffordd mae fy nghenhedlaeth i a chenedlaethau hŷn wedi dioddef."

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Mae Elin wedi bod yn cadw dyddiadur ar-lein ers cael diagnosis o anabledd cudd

I Elin Williams, 24, o Ddyffryn Conwy, mae cysylltu â phobl ar-lein wedi helpu ei hiechyd meddwl.

Mae'n byw gyda chyflwr golwg o'r enw Retinitis pigmentosa ac yn byw gyda syndrom blinder cronig neu ME.

Ar ôl cael diagnosis o syndrom blinder cronig pan oedd yn 15 oed, dechreuodd ysgrifennu dyddiadur ar-lein o'r enw My Blurred World yn y gobaith o gysylltu ag eraill.

"Gyda'r nam golwg mae wastad di effeithio arna i," meddai.

"Mae pethau gorfod cael ei haddasu i fi gallu gweithio er enghraifft. Mae'r ME yn gwneud i mi deimlo'n flinedig a phenysgafn felly mae'r ddau gyflwr yn effeithio arna i bob dydd mewn ffyrdd gwahanol."

Mae Elin yn dweud nad yw'n amlwg bod ganddi anabledd oni bai ei bod hi'n cario ffon gerdded.

'Hyder ac iechyd meddwl'

Trwy rannu ei stori ar gyfryngau cymdeithasol, mae'n helpu i godi ymwybyddiaeth o'i chyflyrau ac am anableddau cudd yn gyffredinol, meddai.

"Mae wedi helpu fi mewn gymaint o wahanol ffyrdd. Yn enwedig gyda hyder a fy iechyd meddwl.

"Pan nes i ddechrau ysgrifennu am fy mhrofiadau do'n i ddim yn 'nabod unrhyw un arall gyda'r un cyflwr â fi.

"Fe wnaeth o agor y drws yna i helpu fi sylweddoli o'n i ddim ar ben fy hun.

"Mae'n helpu hefyd i roi fy stori allan yna ac i helpu pobl arall sy'n mynd trwy'r un peth."

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Mae gan Bethany ddegau o filoedd o ddilynwyr ar y cyfryngau cymdeithasol

Mae gan Bethany Davies, sy'n 24 oed o Lanelli, dros 50,000 o ddilynwyr ar TikTok.

Fe wnaeth Bethany astudio hanes ym Mhrifysgol Abertawe, ac mae'n dweud fod ei chyflyrau wedi gwneud llwybrau academaidd a chyflogaeth draddodiadol yn anodd.

Ond ychwanegodd fod gallu cynllunio ei gwaith ar gyfryngau cymdeithasol o amgylch ei hanghenion iechyd wedi helpu.

Er mai rhannu'r iaith a diwylliant Cymreig yw ei phrif ffocws, mae'n dechrau sôn mwy am ei chyflyrau cudd.

"Rwyf wedi cael trafferth gyda fy iechyd, rwy'n anabl. Felly mae [cyfryngau cymdeithasol] wedi rhoi ffordd i mi weld fy hun y tu allan i hynny," meddai.

'Ddim yn teimlo mor unig'

Mae gan Bethany afiechydon cronig gwahanol, gan gynnwys ffibromyalgia, syndrom blinder cronig, a syndrom postural tachycardia (PoTS).

"Roedd gen i gynlluniau i wneud gradd uwch, ond yn anffodus, rydw i wedi gorfod rhoi'r gorau i hynny, gan fy mod i wedi bod mewn ac allan o'r ysbyty," meddai.

"O gael TikTok, rwy'n teimlo fy mod yn cynrychioli cymuned a gallaf ddangos bod salwch cudd yn bodoli, hyd yn oed os yw pobl yn edrych yn iach.

"Chi ddim yn teimlo'n mor unig wedyn.

"Mae bod ychydig yn fwy agored am fy mrwydrau wedi ychwanegu dimensiwn arall i'r gymuned hon, a sgwrs arall yr wyf yn falch iawn o gymryd rhan ynddi."