Emyr Glyn Williams, un o sylfaenwyr label Ankst, wedi marw
- Cyhoeddwyd
Mae Emyr Glyn Williams, un o sylfaenwyr label recordiau Ankst, wedi marw yn 57 oed.
Aeth ymlaen i sefydlu cwmni Ankst Musik, gan ddechrau cynhyrchu ffilmiau yn ogystal â rhyddhau cerddoriaeth gan artistiaid fel Datblygu a Geraint Jarman.
Enillodd wobr Bafta Cymru yn 2006 am y ffilm ddwyieithog Y Lleill, tra bod ei lyfr 'Is-Deitla'n Unig' wedi ei gynnwys ar restr fer un o gategorïau Llyfr y Flwyddyn yn 2016.
Bu farw yn ei gartref ym Mhentraeth, Ynys Môn wedi brwydr â chanser.
Roedd Emyr Ankst, fel y mae llawer yn ei nabod, yn aelod o'r bandiau Cymraeg Siencyn Trempyn ac Arfer Anfad tra'n astudio ym Mhrifysgol Aberystwyth.
Fe sefydlodd gwmni recordiau Ankst yn 1988 gyda dau o'i ffrindiau coleg, Alun Llwyd a Gruffudd Jones.
Rhoddodd y label lwyfan i sawl band Cymraeg gan gynnwys Llwybr Llaethog, Super Furry Animals, Gorky's Zygotic Mynci, Topper a Melys.
Rhwng 1988 a 1997, cafodd tua 80 o recordiau eu rhyddhau cyn rhannu'n ddau gwmni ar wahân.
Ym 1998 - sefydlodd Emyr Glyn Williams label Ankst Musik er mwyn canolbwyntio ar ryddhau recordiau, tra bod ei gyd-sylfaenwyr wedi sefydlu 'Ankst Management Ltd' - oedd yn gyfrifol am ofalu am yr ochr rheoli a threfnu grwpiau.
Dywedodd Alun Llwyd, ffrind agos i Emyr ac un o gyd-sylfaenwyr label Ankst, bod "Em yn gyfaill, yn gyd-weithiwr, yn gymwynaswr ac yn grewr".
"O'i waith gyda Ankst i greu ffilmiau a fideos, fe greodd archif ddiwyllianol radical a blaengar sydd cyn bwysiced â dim arall yn y Gymru gyfoes," meddai wrth Cymru Fyw.
"Ond angerdd a chariad Em oedd yn ei yrru: angerdd a chariad oedd yn ddigyfaddawd yn ei weledigaeth i gefnogi y genhedlaeth nesaf tra'n dathlu cyfraniad y genhedlaeth hŷn ar yr un pryd. Ac fe lwyddodd.
"Mae fy nyled iddo yn anferth. Ond yn bennaf roedd yn ŵr a thad hapus a balch ac mae fy meddyliau yn llwyr gyda Fiona, Evan, Arthur a'r teulu."
Cyfraniad 'anferth'
Cafodd ei ddisgrifio gan y cerddor a'r cyflwynydd Rhys Mwyn fel un a "gadwodd y fflam 'danddaearol' yn fyw" o fewn y sîn gerddoriaeth Gymraeg ddiwedd yr 80au a dechrau'r 90au.
"Fe aeth cymaint o'r bandiau 'da ni'n cysylltu hefo Ankst ymlaen i lwyddiant rhyngwladol a drwy Cŵl Cymru ond fe arhosodd Emyr gyda Ankst Musik gan ryddhau recordiau finyl fel sengl 7" The Dog Bones 'Mae Dy Ffrindiau i gyd (am dy ladd di)'."
Dywedodd fod Emyr wedi aros yn "ffyddlon i'w ffrind agos David R Edwards gan barhau i ryddhau cynnyrch Datblygu tan y diwedd".
"Dyma wir ysbryd label 'annibynnol' a dyma wir ddiffiniad o 'maverick'."
Aeth ymlaen i ddweud bod cyfraniad Emyr Ankst i'r byd celf a cherddoriaeth danddaearol yn "anferth".
Dywedodd label recordiau Sain ar y cyfryngau cymdeithasol ei bod wastad yn "bleser" cydweithio ag ef.
"Trist iawn oedd clywed y newydd i ni golli Emyr Glyn Williams. Byddwn yn cofio ei bersonoliaeth rhadlon, ei frwdfrydedd a'i gyfraniad gwerthfawr i'r sin gerddoriaeth yng Nghymru."
Yn ogystal â'r byd cerddorol, mae Emyr Glyn Williams hefyd wedi cyfrannu i ddiwylliant Cymru mewn sawl ffordd arall dros y blynyddoedd.
Fe ryddhaodd nifer o ffilmiau gan gynnwys Crymi No. 1, Crymi No. 2, Saunders Lewis vs. Andy Warhol a Faust: Nobody Knows if It Ever Happened yn dogfennu gig y grŵp Almaeneg arbrofol, Faust.
Enillodd wobr Bafta Cymru yn 2006 am y ffilm ddwyieithog Y Lleill oedd yn trafod ffilmiau rhyngwladol.
Ar ddechrau'r 1990au fe weithiodd gyda chwmni Criw Byw fel un o dîm gynhyrchu rhaglen gerddorol S4C, Fideo 9 ac yn 2009 fe gyflwynodd y gyfres O Na i Yeah Yeah Yeah ar BBC Radio Cymru gan fwrw golwg ar gerddoriaeth yng Nghymru rhwng 1979 a 1998.
'Fy mrawd, fy mentor, fy ffrind'
Cafodd ei benodi'n rheolwr ar y sinema yng nghanolfan celfyddydau Pontio, Bangor yn 2015, gan gyfuno'r gwaith hwnnw â'i waith gydag Ankst Musik.
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Mewn neges ar wefan X, dywedodd Dion Wyn - sydd bellach yn rheoli'r sinema yng Nghanolfan Pontio: "Fy mrawd, fy mentor a fy ffrind, Emyr/Em/Emyr Ankst, mae tirwedd ddiwylliannol Cymru yn ddyledus iawn i ti.
"Diolch am yr holl sgyrsiau, panediau o goffi, dy gyfeillgarwch ac am wastad neud i ni wenu."
Roedd hefyd yn gyfrannwr cyson i'r cylchgrawn llenyddol O'r Pedwar Gwynt.
Roedd yn briod â'r bardd Fiona Cameron ac roedd ganddo ddau o blant.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Mehefin 2021
- Cyhoeddwyd17 Gorffennaf 2015