Y bwlch rhwng disgyblion tlawd a breintiedig yn tyfu
- Cyhoeddwyd
Mae'r bylchau rhwng disgyblion o gefndiroedd tlotach, a'u cyd-ddisgyblion mwy breintiedig, yn tyfu yn ysgolion Cymru ers y pandemig.
Yn ôl data diweddar mae'r chwe mesur allweddol yn dangos fod y bwlch yma, oedd eisoes yno cyn Covid, yn parhau i fod yn broblem.
Yr wythnos diwethaf cafwyd y canlyniadau gwaethaf erioed ar gyfer mathemateg, gwyddoniaeth a darllen i blant 15 oed yng Nghymru yn y profion Pisa rhyngwladol.
Dyma olwg ar y rhain, ac heriau eraill.
Faint o ddisgyblion sy'n dod o gefndiroedd economaidd difreintiedig?
Mae cymhwystra disgyblion i gael prydau bwyd am ddim yn rhywbeth sydd wedi cael ei ddefnyddio'n gyson i asesu a ydyn nhw'n dod o gefndir economaidd difreintiedig.
Mae hynny'n seiliedig ar a yw'r teulu ar incwm isel neu'n derbyn budd-daliadau.
Yng Nghymru mae tua 95,000 - neu 20% o ddisgyblion - yn gymwys am brydau bwyd am ddim.
Fe wnaeth plant fethu misoedd o ddysgu yn y dosbarth oherwydd Covid, ac felly ar sawl mesur allweddol mae'r effaith i'w weld.
Ond mae pryder fod hyn yn fwy o broblem i'r rheiny o deuluoedd incwm isel, gan gynnwys yn rhai o'r meysydd isod.
Diarddel o'r ysgol
Roedd nifer y disgyblion a gafodd eu diarddel o'r ysgol yn 2022 yn uwch nag erioed - dros 300 ohonynt.
Ond roedd y gyfradd ddiarddel barhaol dros bum gwaith yn uwch i ddisgyblion prydau ysgol am ddim (1.7 diarddeliad parhaol i bob 1,000 disgybl), o'i gymharu â'r rheiny oedd ddim yn gymwys (0.3).
Mae achosion o ddiarddel parhaol yn parhau i fod yn brin.
Ond mae diarddel am gyfnod yn fwy cyffredin - hynny yw am bum niwrnod neu lai, gyda rhesymau cyffredin am hynny'n cynnwys sarhau neu fygwth athrawon, neu ymosod ar ddisgyblion eraill.
Roedd bron i 28,000 o waharddiadau tymor byr o'r fath yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.
Bellach mae'r gyfradd waharddiadau bron i bedair gwaith yn uwch i'r rheiny sy'n gymwys am brydau bwyd am ddim, nag i'r rheiny sydd ddim.
Roedd y bwlch wedi bod yn tyfu yn y ddwy flynedd cyn y pandemig, ond nawr mae e'n fwy nag erioed.
Daw hyn ar adeg pan mae nifer diarddeliadau disgyblion uwchradd 35% yn uwch nag yr oedd o'i gymharu â'r flwyddyn cyn Covid.
Absenoldeb ysgol
Mae absenoldebau ysgol - yn enwedig absenoldebau cyson - wedi mynd lawer yn waeth ers y pandemig.
Mae disgyblion yn cael eu hystyried yn 'gyson absennol' os ydyn nhw'n methu 20% o'u dosbarthiadau, felly 60 sesiwn hanner-diwrnod y flwyddyn.
Ond mae'r trothwy yna nawr wedi cael ei newid i 10%, mewn ymdrech i geisio gwella presenoldeb.
Mewn erthygl ddiweddar fe ddywedodd y Gweinidog Addysg Jeremy Miles: "Mae gormod o athrawon yn dweud wrtha i eu bod nhw'n gweld ymddygiad heriol, presenoldeb gwaeth, a lefelau is o lythrennedd a rhifedd. Allwn ni ddim gadael i hyn ddod yn 'normal newydd'."
Mae'r ffigyrau ar gyfer absenoldebau ysgol yn fwy diweddar na'r rhai ar ddiarddeliadau.
Fe wnaeth canran y disgyblion uwchradd oedd yn gyson absennol dreblu i 16.3% rhwng 2018/19 (y flwyddyn academaidd lawn olaf cyn Covid) a 2022/23.
Mae'r ffigyrau hefyd yn dangos bod 35.6% o ddisgyblion uwchradd oedd yn gymwys am brydau bwyd am ddim yn gyson absennol yn 2022/23, o'i gymharu ag 11.2% i'r rheiny oedd ddim.
Mae hyn dair gwaith yn uwch, ac yn golygu bod y bwlch a oedd eisoes yno wedi tyfu eto.
Mae'r bwlch hefyd yn tyfu'n fwy wrth i ddisgyblion uwchradd fynd yn hŷn.
Yn ôl y data ar gyfer tymor cyntaf 2023/24, sy'n cynnwys disgyblion cynradd, mae 4.7% o ddisgyblion wedi bod yn gyson absennol dros y trothwy o 10%, sydd ychydig yn is na'r flwyddyn gynt.
Ond mae 10% o'r rheiny sy'n gymwys am brydau am ddim yn gyson absennol dros y trothwy, o'i gymharu â 2.7% i'r rheiny sydd ddim.
Yn eu hadroddiad blynyddol dywedodd arolygwyr Estyn: "Dyw camau i wella presenoldeb heb arwain at gynnydd nodedig mewn presenoldeb, yn enwedig ymhlith disgyblion sy'n gymwys am brydau am ddim."
Mae'r gyfradd bresenoldeb ar gyfer y flwyddyn academaidd hyd yma wedi bod yn uwch i ddisgyblion sydd ddim yn gymwys am brydau bwyd am ddim (93%) na'r rheiny sydd yn gymwys (86.4%).
Canlyniadau TGAU - y bwlch cyrhaeddiad
Mae modd gweld bwlch cynyddol yn y canlyniadau TGAU hefyd, a hynny mewn dau fesur.
Yr un cyntaf yw'r sgôr 'Cap 9'. Mae hwn yn ystyried graddau disgybl yn eu naw pwnc gorau, gan gynnwys llythrennedd, rhifedd a gwyddoniaeth. Mae pwyntiau'n cael eu rhoi, a chyfartaledd y sgôr cyffredinol yw 365.5.
Ond mae'r bwlch rhwng disgyblion TGAU sy'n gymwys am brydau am ddim, a'r rheiny sydd ddim, wedi tyfu o 77.3 cyn y pandemig i 88.7 yn 2022/23.
Mae'r bwlch ar ei fwyaf mewn pynciau gwyddonol, ac ar ei leiaf mewn llythrennedd.
Y nesaf yw graddau TGAU. Mae ffigyrau Cymwysterau Cymru i ddisgyblion sy'n gymwys am brydau ysgol am ddim yn dangos bod 8.3% o'u graddau yn A neu A*. I'r rheiny sydd ddim yn gymwys, mae'n 24.1%.
Mae'r bwlch wedi cynyddu o 14 pwynt canran cyn y pandemig, i 15.7 yn 2023.
I'r rheiny sydd ddim yn gymwys am brydau bwyd am ddim, roedd 70% o'u graddau yn C neu uwch, o'i gymharu â 41.6% i'r rheiny sydd yn gymwys. Mae'r bwlch yna hefyd wedi tyfu ychydig ers 2019.
Disgyblion 14 oed mewn pynciau craidd
Wrth edrych ar ddisgyblion sy'n cael eu hasesu mewn pynciau craidd ar ddiwedd cyfnod allweddol 3 - yn 14 oed - mae'r bwlch ar ei fwyaf ers 10 mlynedd.
Ychydig dros hanner (55%) o'r rheiny sy'n gymwys am brydau bwyd am ddim lwyddodd i gyrraedd y sgôr pwnc craidd, o'i gymharu ag 83% o'r rheiny sydd ddim yn gymwys.
Roedd y bwlch wedi bod yn lleihau am y rhan fwyaf o flynyddoedd cyn y pandemig.
Canfyddiadau Pisa i ddisgyblion 15 oed o gefndiroedd tlotach
Fe wnaeth yr adroddiad Pisa diweddaraf ar Gymru ganfod bod mwy o "wytnwch" academaidd na'r cyfartaledd rhyngwladol - gyda mwy o ddisgyblion o'r cefndiroedd tlotaf ymysg y perfformwyr gorau mewn profion mathemateg, gwyddoniaeth a darllen.
Ond roedd bwlch o hyd rhwng perfformiad y rheiny o gefndiroedd cymdeithasol-economaidd tlotach a chyfoethocach.
Roedd disgyblion sy'n gymwys am brydau ysgol am ddim yn sgorio tipyn yn is mewn profion mathemateg (sgôr cyfartalog o 423) na'r rheiny oedd ddim yn gymwys (471).
Gwelwyd patrymau tebyg mewn darllen (429 a 471) a gwyddoniaeth (430 a 478).
Prentisiaethau - bwlch llwyddiant yn tyfu
Mae ffigyrau hefyd yn dangos problemau tebyg pan mae'n dod at lwyddiant mewn prentisiaethau i'r rheiny o gefndiroedd tlotach.
Fe wnaeth ymchwil diweddar edrych ar ganlyniadau 7,600 o brentisiaethau.
Dywedodd yr adroddiad: "Cyn y pandemig, roedd gan brentisiaid oedd erioed wedi bod yn gymwys ar gyfer prydau ysgol am ddim gyfradd llwyddiant uwch na'r rheiny fu'n gymwys, ond roedd y bwlch yn cau.
"Yn 2021/22, fe wnaeth y bwlch gynyddu i dros dair gwaith y gwahaniaeth yn 2018/19."
Fe wnaeth y gyfradd lwyddiant i holl brentisiaid ostwng wedi Covid, ond fe ddisgynnodd yn gynt i'r rheiny oedd wedi bod yn gymwys am brydau bwyd am ddim.
Yn ôl Finola Wilson, cyn-athro Saesneg a Mathemateg a chyfarwyddwr sefydliad addysg Impact yng Nghaerffili, mae Covid wedi rhoi'r disgyblion mwyaf bregus dan anfantais bellach.
"Mae plant oedd eisoes yn ei chael hi'n anodd cyrraedd ac ymwneud â'r ysgol nawr mewn sefyllfa waeth," meddai.
"Mae taclo'r bwlch anfantais yn broblem i'r gymdeithas gyfan. Bydd pobl plentyn yn wahanol, ac angen ymateb unigol.
"Y targed cyntaf ddylai fod i sicrhau bod pob disgybl yn derbyn addysg, boed yn yr ysgol neu drwy ddull gwahanol.
"Mae angen i ni hefyd wneud rhywbeth am yr argyfwng iechyd meddwl sydd wedi gwaethygu oherwydd Covid, sy'n effeithio ar blant, eu rhieni a'u gofalwyr."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Rhagfyr 2023
- Cyhoeddwyd6 Rhagfyr 2023
- Cyhoeddwyd1 Rhagfyr 2023