Cais bathodyn glas bob tair blynedd yn 'broses anodd'

  • Cyhoeddwyd
Parcio anablFfynhonnell y llun, Getty Images

Bydd gwleidyddion yn trafod y galw i adnewyddu bathodynnau glas yn awtomatig ar gyfer pobl yng Nghymru sydd ag anableddau gydol oes.

Ar hyn o bryd, mae'n rhaid i ddeiliaid bathodynnau ailymgeisio bob tair blynedd hyd yn oed os yw eu cyflwr yn annhebygol o newid dros amser.

Ond yn ôl ymgyrchwyr gallai'r broses hon fod yn rhwystredig a chymryd llawer o amser i unigolion a'u gofalwyr.

Dywed Llywodraeth Cymru mai bwriad yr adnewyddiad tair blynedd yw amddiffyn rhag ceisiadau twyllodrus a chamddefnydd o'r cynllun.

Bydd aelodau un o bwyllgorau'r Senedd yn trafod ddydd Llun a ddylid cefnogi'r ddeiseb, sydd wedi'i harwyddo gan 1,618 o bobl, sy'n galw am newid yn y gyfraith.

Mae Leanne Groves o Lanelwy, Sir Ddinbych yn rhan o Grŵp STAND (Stronger Together for Additional Needs & Disabilities) a drefnodd y ddeiseb.

Mae gan ei phlentyn 13 oed, Isabella, gyflwr genetig prin ac yn gymwys ar gyfer bathodyn glas ers pan oedd yn dair oed.

Dywedodd Leanne y gallai rhieni a gofalwyr fel hi weld hi'n anodd gorfod adnewyddu bathodyn glas bob tair blynedd.

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Leanne Groves gyda'i merch Isabella

"Mae'n broses gwbl anodd i rieni sydd gyda llawer ymlaen gyda'u plant i orfod gwneud hyn hefyd.

"I'r rhai nad yw'n debygol o wella, dylent dderbyn bathodyn glas gydol oes.

"Mae yna alw i reoleiddio'r bathodynnau fel nad ydyn nhw'n cael eu cam-drin, a bod y bathodynnau yn cael eu rhoi i'r bobl iawn, ond i'r plant neu'r oedolion ifanc hynny lle nad yw eu sefyllfa am newid, dwi'n meddwl y dylen nhw gael rhodd bywyd o gael bathodyn glas gydol oes."

'Asesu a monitro cymhwysedd parhaus ymgeiswyr'

Awdurdodau lleol sy'n rhoi bathodynnau glas yng Nghymru, ond mae'r rheolau o ran pwy sy'n gymwys i gael bathodyn yn cael eu rheoleiddio gan Lywodraeth Cymru.

Mewn llythyr at gadeirydd pwyllgor deisebau'r Senedd Jack Sargeant AS, dywedodd Lee Waters, y Dirprwy Weinidog dros Newid yn yr Hinsawdd: "Mae'r tair blynedd i ailymgeisio am fathodyn wedi'i nodi mewn rheoliadau ac mae'n helpu i asesu a monitro cymhwysedd parhaus ymgeiswyr ar gyfer y cynllun.

"Pe bai bathodynnau'n gymwys am gyfnod hirach, yna mae mwy o gyfle i bobl gamddefnyddio a cham-drin y cynllun hwn, sy'n bryder y mae Archwilio Cymru wedi'i fynegi yn flaenorol."

Dywed Mr Waters fod gan Wasanaeth Digidol y Bathodyn Glas (BBDS) a ddefnyddir gan awdurdodau lleol i roi bathodynnau'r gallu i dynnu sylw a ddylai bathodyn gael ei ddyfarnu am oes.

Pynciau cysylltiedig